Mynegai


A | B | C | Ch | D | Dd | E | F | Ff | G | H | I | J | K | L | Ll | M | N | O | P | Ph | R | Rh | S | T | U | W | Y | Awduron | Ffugenwau

Y CASGLWR
1–75
Mawrth 1977 – Haf 2002

Golygyddion y Rhifynnau
1–48 John Roberts Williams
49–55 Richard H. Lewis
56/57 Y Pwyllgor
58–75 Mel Williams

gan
William H Howells

Cyflwyniad i'r Mynegai

Yn y prif fynegai rhestrir, mewn un dilyniant, yr holl bersonau, lleoedd a phynciau y cyfeirir atynt yn y rhifynnau unigol o’r Casglwr (rhifynnau 1–75), gan nodi pob cyfeiriad fel a ganlyn: rhif y rhifyn (mewn print du) ac yna rif y tudalen. Y mae * yn dynodi llun, e.e. Davies, Dan Isaac (1839–87) 19:11; 64:7*; 65:7

Ceir yn ogystal ddau atodiad, sef:

Atodiad 1: rhestr o’r holl erthyglau, wedi eu trefnu yn ôl awdur yr erthygl;
Atodiad 2: rhestr o ffugenwau.

Trefnwyd y cofnodion yn nhrefn yr wyddor (gair am air), fel a ganlyn:

Bedyddiwr Cymreig, Y 53:3
Bedd Malacara’ 26:3
Bedd y Dyn Tylawd,John Emlyn Jones 51:9
Beddargraff Chwedleuwraig, Ifan Ifans 59:3
‘Beddargraff fy nhad’, John Evans (Bardd Cocos) 11:5
Beddargraff i Richard Wilson, John Williams (Ioan Madog) 50:12
Beddau’r Proffwydi: drama, W. J. Gruffydd 13:13
‘Beddgelert’, cerdyn post 28:7*

Defnyddiwyd dyfynodau ar gyfer cerddi, ysgrifau, caneuon, tonau, ac ati, a llythrennau italig ar gyfer teitlau cylchgronau a llyfrau. Yn achos llyfrau, ymddengys y cofnod dan deitl y llyfr yn hytrach na than enw’r awdur. Ni cheir dyddiad cyhoeddi oni bai fod angen gwahaniaethu rhwng gwahanol argraffiadau. Ni chynhwysir cyfeiriadau at lyfrau a phamffledi a restrir yn yr hysbysebion.

Enwau pobl

Gwnaethpwyd pob ymgais i wahaniaethu rhwng pobl o’r un enw. Lle’r oedd yn bosibl, ychwanegwyd dyddiad, enw lle neu ddisgrifiad byr er mwyn ceisio cynorthwyo’r defnyddiwr i adnabod person arbennig.

e.e., Davies, John (Ieuan Ddu Alltwen) 49:3
Davies, John (Ossian Gwent) 55:10
Davies, John (Siôn Dafydd Las) 52:5
Davies, Dr John (Sion Dafydd Rhys) 4:12; 19:13
Davies, John (Siôn Gymro) 75:11
Davies, John (Taliesin Hiraethog; 1841–94) 9:10–11*; 52:5
Davies, John, Caernarfon 1:9

Enwau lleoedd

Gwnaethpwyd pob ymgais i safoni sillafiad enw lleoedd sy’n ymddangos fel gair cyntaf mewn cofnod, yn ôl Rhestr o Enwau Lleoedd: A Gazetteer of Welsh Place-Names, gol. Elwyn Davies (3ydd arg., Caerdydd, 1967). Defnyddiwyd croesgyfeiriadau i dywys y defnyddiwr at y ffurf gywir, ac i gysylltu ffurfiau Cymraeg a Saesneg.