Archif y Mis

Poteli gweigion Mici Plwm - Rhifyn 30 Nadolig 1986


poteli mici plwm

YN YSTOD y blynyddoedd diwetha mae'r diddordeb mewn casglu pethau hen a phrydferth wedi cynyddu'n aruthrol. Mae'n wir dweud ei fod wedi mynd bron fel salwch heintus sy'n mynd drwy'r gymdeithas fel pla.

Yn sgil hyn mae'r prisiau a ofynnir am rai o'r creiriau ymhell tu hwnt i gyrraedd a phob rheswm, ac felly dim ond y breintiedig a'r cyfoethog sy'n cael mwynhau y dodrefn derw; tecelli copor; medalau a hen arian a.y.b. tra mae'n rhaid i'r mwyafrif ohonom fodloni ar y creiriau plastig cyfoes, neu fynd adra o'r arwerthiant a'r siopau hen bethau, sy bellach fel madarch o gwmpas y lle, yn waglaw.

Wedi derbyn mai dyma'r sefyllfa sydd ohoni bellach, does ryfedd fod rhai ohonom wedi troi ein cefnau ar yr arferol greiriau casgledig a mynd at i ddod o hyd i ffordd newydd i gael gafael ar rywbeth hen, unigryw a phrydferth.


MAE HEN botel i mi yn beth prydferth iawn. Mi heria'i unrhyw berson i ddangos i mi ddwy botel sy'n union r'un fath. Mae'n saff i mi ddweud fod yr amrywiaeth mewn swigod a'r dagrau aer a geir mewn hen botel beth bynnag ei lliw, neu'r patrwm tlws ar hen botyn pridd wedi ei 'danio' yn eu gwneud un ac oll yn hollol unigryw. Tydi cynnyrch y crochendai cyfoes a'u poptai trydan ddim yn yr un cae – na'r domen diolch byth.

Oherwydd techneg crefftwr oedd yn amlwg yn caru ei waith, fe dybiwn y baswn yn cael oriau o bleser yn gwylio gwneuthurwr poteli ddoe a'i fowld pren a'i dywod yn cynhyrchu poteli, un ar y tro.

Mi fasa'r botel orffenedig a'i lliw prydferth fel gwyrdd dŵr, glas cobalt, coch riwbi, gwyn llefrith yn werth pob dima cyn iddi gael ei llenwi hefo un ai Olew Morus Ifans, Llan Ffestiniog; Ginger Beer, R M Jones, Porthmadog, neu Chwisgi Cymreig, Fron Goch, Y Bala hyd yn oed!

Wedi i'r casgliad dyfu yn gannoedd onid miloedd fe ddaw'r dydd pan mae'n anochel y bydd yn rhaid penderfynu cwtogi ar y nifer o boteli. Y ffordd orau a mwya pleserus yn fy nhyb i o wneud hyn, ydi dewis casglu poteli o liw arbennig neu boteli o fath arbennig.

Trwy gasglu poteli o Sir neu ardal fe gewch beth wmbredd o hanes lleol yn eu sgil – e.e. wyddwn i ddim fod pob hen dafarn yn potelu y cwrw eu hunain gan roi enw y perchenog a'r dafarn ar y botel.

Cyn i gynnyrch y fuwch gael ei gasglu i un man canolog fe werthid y llefrith mewn potel beint efo enw'r fferm a'i pherchennog mewn print clir, sy'n ychwaneg o hanes lleol ar gadw.

Mae'r mathau o boteli y gellir eu casglu yn amrywiol iawn, e.e. poteli gwinoedd, cwrw, gwirodydd, poteli ffisig (moddion), inc, persawr, sôs, bwydydd e.y.b.


AC ERBYN hyn o ddarllen dwi'n siŵr y'ch bod chitha ar biga'r drain eisiau gwybod ble a sut y medrwch chithau ddechrau casgliad personol. A digon posib mai yn y drain y byddwch yn darganfod y botel gynta i'r casgliad! Yn wir mae poteli ddoe o'ch cwmpas ymhobman – mewn afonydd, pwll chwiaid, mewn camlas neu ffôs, ac yn bendant fe ddewch ar draws canoedd o wahanaol fathau mewn hen domen sbwriel.

Nodwch y ffaith mod i'n deud 'hen'. Gan gofio mai casglu poteli ddoe ydy'r nôd yna mae'n rhaid yn gyntaf ddarganfod tomen ddoe. Mi fydda i'n cael cryn bleser yn holi trigolion ardal a phentre sy'n cofio ceffyl a throl yn casglu'r sbwriel lleol ac yn ei gludo i'r cyrrion, tra'n ceisio dod o hyd a lleoli "hen" domen newydd i gloddio ynddi.

Oriau pleserus hefyd, ydi'r rheiny a dreuliaf mewn llyfrgell yn olrhain hen fapiau 'Ordnance Survey'; yn sicir i chi fe fydd y domen sbwriel wedi ei nodi arnynt yn glir.


A THRA mod i wrthi'n rhannu cyfrinachau pleser â chi, waeth i mi adael i chi wybod un pwynt sy'n siŵr o helpu. Arwydd pendant o domen sbwriel 'ddoe' medd un o drigolion y Bala ydi tyfiant da o ddanadl poethion ar fryncyn. Roedd hi'n arferiad rhoi haenen o galch dros y sbwriel o dro i dro a be'n well i berswadio danadl i dyfu.

Os yw hyn o lith wedi codi awydd ynoch i ymuno â rhengoedd y Casglwyr Poteli, da o beth ond da chi peidiwch a chrwydro ar dir amaethwr sy' ddim yn rhannu'r un brwdfrydedd! Ac wedi cael y caniatad, gofalwch dacluso ar y’ch ôl, rhag i mi a llu o gasglwyr poteli gael enw drwg.

O.N. Oes ‘na rhywun â diddordeb mewn ffurfio ' Clwb Casglwyr Poteli Cymru'? (rhai gwag!). Be’n well na phenwythnos yn fy nghwmni mewn tomen neu gamlas yn darganfod trysorau prydferth ddoe. Dowch i gysylltiad.