123 | 122 | 121 | 120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106

Gair gan y Prif Weithredwr
Rhif 142 ~ Rhifyn y Gaeaf 2024

Y diolchiadau arferol i bawb a brynodd docynnau raffl eto eleni, ac am y rhoddion hael a ddaeth yn ychwanegol. Mae enwau'r enillwyr ar dudalen 2.

Bu ail wibdaith eleni i Blas Newydd, Llangollen, cartref y Merched, sef Eleanor Butler a Sarah Ponsonby, a thaith ar y Gamlas. Diolch i bawb fu'n cynorthwyo.

Bwriedir trefnu taith i Halifax y flwyddyn nesaf. o 30 Mehefin tan 4 Gorffennaf. Ceir y manylion yn y daflen hefo'r rhifyn hwn.

Cynhaliwyd Ffair Lyfrau y Borth yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy, ddydd Sadwrn 12 Hydref, y gyntaf ers 2019. Roedd silffeidiau a byrddau pur lawn o lyfrau a mān greiriau eraill i groesawu'r mynychwyr, a ddaeth yno yn ffrwd gyson drwy'r dydd. Methwyd ei chynnal y llynedd oherwydd trafferthion gyda'r concrid ar do yr ysgol ac aeth holl waith Gwenda fel y trefnydd newydd yn ofer. Ond nid felly eleni, a diolchwn i Gwenda am ei gwaith.