123 | 122 | 121 | 120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106

Adroddiad y Trefnydd Rhifyn yr Gaeaf 2013

Y Brifwyl yn Ninbych

Bu'r Genedlaethol yn llwyddiant mawr i'r Gymdeithas eto eleni. Cafwyd cyfle i gyfarfod ag aelodau, a llwyddwyd i ddenu rhai newydd i'r gorlan. Buom yn ffodus i gael E. Gwynn Matthews i draddodi darlith y Gymdeithas ar 'Dau Ddrych: Twm o'r Nant a Jac Glan y Gors'. Diolch, hefyd, i Buddug Medi am gadeirio mor ddeheuig. Cafwyd cynulleidfa deilwng.

Diolch i Helga, a roddodd o'i hamser prin i warchod y stondin, i demtio tanysgrifwyr newydd ac i annog eisteddfodwyr i brynu tocynnau raffl, a hynny ar hyd yr wythnos. Diolch i eraill, hefyd, am eu hamser yn gofalu am y stondin.

Y Raffl Flynyddol

Mae'r raffl wedi bod yn Ilwyddiannus iawn eto eleni, ac mae ei chynnal yn fodd i ni dalu am y babell ar faes yr Eisteddfod. Mae'n codi ein calon, hefyd, i gael cynifer ohonoch yn anfon rhoddion yn ychwanegol at dal y raffl. Ac yn sgil y rhai sydd wedi arwyddo ffurflen y Rhodd Gymorth cawn elw pellach. Tybed a wnaiff pawb sy'n talu treth ystyried llofnodi'r ffurflen? Cewch enwau'r enillwyr ar dudalen 26.

Ffeiriau Llyfrau

Ymwelodd rhai o stondinwyr y Gymdeithas fi Ffair Talsarnau a Ffair Merthyr. Mae hyn yn dangos pa mor bwysig y mae'r Gymdeithas yn ystyried cefnogi ffeiriau llyfrau. Bu Ffair y Borth yn Ilwyddiannus iawn eleni eto, a mawr yw ein diolch i Ann Corkett a Bruce Griffiths am eu hegni a'u dyfalbarhad yn ei threfnu.

Diwrnod Agored

Eleni rydym yn ymweld a Gwesty'r Waterloo, Betws y Coed. Bydd gennym arlwy ar eich cyfer am bris teg. Cewch fwy o wybodaeth yn y rhifyn nesaf.

Gwibdeithiau

Rydym wrthi'n ceisio trefnu gwibdeithiau eto am y flwyddyn nesaf. Os oes gennych unrhyw syniad lie y gellir ymweld ag o, gadewch imi wybod. Rydym yn awyddus i gael gwibdeithiau i wahanol ardaloedd yng Nghymru y flwyddyn nesaf eto. Cewch fwy o wybodaeth yn y rhifyn nesaf.

Y Drysoryddiaeth

Mae Helga y Drysoryddes wedi gwneud gwyrthiau mewn byr amser ers iddi ymgymryd a'r swydd. Diolch iddi am ysgwyddo'r holl waith a gosod y Gymdeithas yn ariannol ddiogel. Rydym yn hynod ffodus hefyd i gael Dr. Keith Lewis i gytuno i wisgo mantell yr Is-Drysorydd. Rydym yn hynod falch o'i gefnogaeth a'i barodrwydd.

Is-olygyddiaeth

Mae goleuni ar y gorwel. Mae Dafydd Chilton wedi cynnig cynorthwyo'r Golygydd. Rydym yn hynod falch o'i barodrwydd. Bydd y Gymdeithas a'r Casglwr mewn dwylo diogel am flynyddoedd i ddod.

Y Gadeiryddiaeth

Oherwydd salwch Elwyn Williams, -y Cadeirydd, mae Buddug Medi wedi cytuno i fod yn Gadeirydd am flwyddyn arall. Diolch iddi am ei chefnogaeth.

Y We

Cofiwch am ein Safle We. Cymerwch gyfle i droi iddi. Diolch i Denis Roberts, Swyddog y We ac i Keith Parry am eu dyfalbarhad.