123 | 122 | 121 | 120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106
Adroddiad y Trefnydd Rhifyn y Gwanwyn 2013
Y Diwrnod Agored yn Llanuwchllyn
Cynhelir ein Diwrnod Agored eto eleni yn Nhafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn ar 20 Ebrill. Mae yna arlwy wedi cael ei threfnu ar eich cyfer y tro yma eto a chefnogir yr achlysur gan Llenyddiaeth Cymru. Gobeithir cael stondinau Ilyfrau i'ch temptio.
Mae'r diwrnod yma'n hynod arwyddocaol oherwydd dadorchuddir Penddelw Bob Owen. Rydym wedi bod yn hynod ffodus i gael John Meirion Morris, y cerflunydd enwog o Lanuwchllyn, i ymgymryd â'r gwaith. Gellwch weld llun o'r pen mewn clai ar glawr Y Casg1wr yma. Ond mi fydd yn rhaid ichi fynychu'r Diwrnod Agored i weld y pen mewn efydd.
Diolch i holl gyfranwyr Y Gymdeithas am eu rhoddion a wnaeth y gofeb deilwng i Bob Owen yn bosibl ac i John Meirion Morris am ymgymryd â'r gwaith.
Cofiwch ddychwelyd y ffurflen, a'ch dewis o fwyd, yn brydlon i'r Ysgrifennydd os ydych am sicrhau lle ar y diwrnod. Dim ond 50 all y Gwesty ei dderbyn. Felly, y cyntaf i'r felin.....
Y Cyfarfod Blynyddol
Mae croeso i bob aelod fynychu'r cyfarfod am ddim. Ond bydd yn rhaid talu os am fod yn rhan o'r diwrnod i gyd.
Gwibdeithiau
Trefnir tair gwibdaith i ddenu dŵr o'ch dannedd y tro yma. Mae Helga wedi trefnu taith i Bennal i ymweld â Chefn Caer, sy'n gysylltiedig ag Owain Glyndŵr. Bydd y perchennog, Elfyn Rowlands, yn arwain y daith. Cawn hefyd gyfle i ymweld â'r Eglwys, a gorffen y daith gyda lluniaeth yn y Llew Gwyn, Machynlleth.
Ar yr ail wibdaith byddwn ni'n ymweld â Llys Rhosyr, Llys y Tywysogion, a Neuadd Prichard Jones, Niwbwrch yn nwylo Bob Morris. Trefnir lluniaeth ar ein cyfer yn y Neuadd.
Bydd y wibdaith olaf yn nwylo Deian ap Rhisiart. Fe'n tywysir o amgylch tref Caernarfon i ddatgelu mannau cuddiedig y dref. Bydd lluniaeth ar gael yn y Black Boy.
Y Drysoryddiaeth
Mae'r drysoryddiaeth bellach mewn dwylo medrus iawn ac mae'r cyllid yn well nag y bu hi erioed, diolch i ddiwydrwydd a dyfalbarhad Helga. Cewch gyfle i bori dros y fantolen yn y Cyfarfod Blynyddol. Diolch iddi am ei holl waith.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Diolch i Bruce ac Ann am eu gwaith diflino yn ymwneud a'r gwaith ac yn trefnu'r Diwrnod Agored. Mae'r Gymdeithas mewn dwylo da.
Yr Olygiaeth
Penderfynodd Dr leuan Parri roi gorau i'r swydd, felly rydym yn chwilio am Is-olygydd newydd. Diolch iddo am brofi'r gwaith.
Ffeiriau
Cynhelir y Ffair nesaf yn y Morlan, Aberystwyth ar Fai 11. Diolch i Gwyn Tudur am ei holl waith yn ymgymryd â' trefnu. Bydd ffair eto yn y Borth, Fedi nesaf ond ceir mwy o wybodaeth yn y rhifyn nesaf. Diolch i Ann a Bruce am ysgwyddo'r gwaith o'i threfnu.
Y We
Cofiwch am ein Safle We. Cymerwch gyfle i droi iddi. Diolch i Denis Roberts, Swyddog y We ac i Keith Parry am eu dyfalbarhad.