123 | 122 | 121 | 120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106
Adroddiad y Prif Weithredwr
Rhifyn y Gwanwyn 2015
Y Diwrnod Agored yn Llanrwst
Eleni ydym yn cynnal ein Diwrnod Agored yng Ngwesty'r Eryrod, Llanrwst ar 11 Ebrill. Gobeithir cael stondinau llyfrau yno eto i dynnu dŵr i'ch dannedd.
Mae yna arlwy wedi cael ei threfnu ar eich cyfer y tro yma eto a chefnogir yr achlysur gan yr Academi.
Mae'n angenrheidiol eich bod yn dychwelyd y ffurflen amgaeedig yn nodi eich dewis o fwyd yn brydlon os ydych am sicrhau lle ar y diwrnod.
Y Cyfarfod Blynyddol
Mae croeso i bob aelod fynychu'r cyfarfod am ddim. Ond bydd yn rhaid talu os am fod yn rhan o'r diwrnod ar ei hyd. Rhydd y cyfarfod gyfle i unigolyn ddatgan ei safbwynt ac i gynnig newidiadau.
Ffeiriau Llyfrau
Cynhelir y Ffair nesaf yn Y Morlan Aberystwyth ar 9fed o Fai. Mae croeso i unrhyw aelod logi bwrdd os ydynt awydd cael gwared a rhai o'u trysorau! Gwyn Tudur fydd yn ysgwyddo'r baich o drefnu'r Ffair unwaith eto.
Gobeithir hefyd, gynnal Ffair y Borth fis Medi nesaf. Ond ceir mwy o fanylion amdani yn y rhifyn nesaf.
Gwibdeithiau
Trefnir tair gwibdaith eto eleni. Y cyntaf i ymweld a Sycharth a Llanrhaeadr ym Mochnant, yr ail Bryn Celli Ddu yn Sir Fôn, a'r olaf mewn bws drwy Ddyffryn Ogwen i ymweld â chartrefi enwogion y fro.
Os oes gennych unrhyw syniad lle y gellir ymweld ag o yn y dyfodol, gadewch imi wybod. Rydym yn awyddus i gael gwibdeithiau i wahanol ardaloedd yng Nghymru.
Yr Brifwyl ym Meifod
Dyma'r amser o'r flwyddyn yr ydym yn gorfod llogi stondin ar gyfer yr Eisteddfod. Rhydd hyn gyfle inni gyfarfod ag aelodau ac i geisio denu rhai newydd i'r gorlan.
Rydym yn ffodus i gael Rhys Mwyn i draddodi'r ddarlith flynyddol. Cewch fwy o wybodaeth yn y rhifyn nesaf.
Y Raffl Flynyddol
Mae'r raffl wedi bod yn llwyddiannus iawn eto eleni, ac mae ei chynnal yn fodd i ni dalu am y babell ar faes yr Eisteddfod. Mae'n codi ein calon, hefyd, i gael cynifer ohonoch yn anfon rhoddion yn ychwanegol at dal y raffl ac yn sgil y rhai sydd wedi arwyddo ffurflen y Rhodd Gymorth, cawn elw pellach. Tybed a wnaiff pawb sy'n talu treth ystyried llofnodi'r ffurflen?
Cewch enwau'r enillwyr ar dudalen 22.
Y Golygydd
Dyma rifyn olaf Dafydd Chilton, y golygydd presennol. Hoffem ddiolch iddo am brofio o'r gwaith di-ddiolch yma. Yn anffodus mae gennym rwan y dasg o chwilio am olygydd newydd i lenwi'r bwlch. Oes gennych chi syniadau?
Y We
Cofiwch am y safle We. Cymerwch gyfle i droi iddi. Diolch i Denis Roberts a Keith Parry am eu dyfalbarhad yn ei diweddaru.