123 | 122 | 121 | 120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106

Adroddiad y Trefnydd Rhifyn y Gwanwyn 2014

Y Diwrnod Agored

Cynhelir ein Diwrnod Agored eleni yng Ngwesty'r Waterloo, Betws-y-coed ar 12 Ebrill. Mae yna arlwy wedi cael ei threfnu ar eich cyfer eto a chefnogir yr achlysur gan Llenyddiaeth Cymru. Gobeithir cael stondinau llyfrau i'ch temptio.

Rydym wedi bod yn hynod ffodus i gael y Dr D. Ben Rees, Beti George ac Einion Wyn Thomas i'n diddanu. Mae'n argoeli i fod yn achlysur werthchweil.

Cofiwch ddychwelyd y Ffurflen, a'ch dewis o fwyd, yn brydlon i'r Ysgrifennydd os ydych am sicrhau Ile ar y diwrnod.

Y Cyfarfod Blynyddol

Mae croeso i bob aelod fynychu'r cyfarfod am ddim. Ond bydd yn rhaid talu os am fod yn rhan o'r diwrnod ar ei hyd.

Gwibdeithiau

Gobeithir trefnu tair gwibdaith eleni sef un i ymweld ag Eglwys Gadeiriol Llanelwy ar 14 Mai; yr ail i ymweld A Chartref Mari Jones yn Llanfihangel-y-Pennant ac Eglwys Tywyn i weld Carreg Cadfant sydd ArGymraeg gynharaf o'r 8 wythfed ganrif; a'r olaf i Dalysarn a Gwinllan Pant-du ar 21 Mehefin.

Y Drysoryddiaeth

Mae Helga ein Trysorydd wedi gwneud gwyrthiau mewn byr amser ers iddi ymgymryd a'r swydd. Diolch iddi am ysgwyddo'r holl waith a gosod y Gymdeithas ar seiliau ariannol ddiogel. Rydym yn hynod ffodus hefyd i gael Dr. Keith Lewis i gytuno i wisgo mantell yr Is-Drysorydd. Diolch iddo am ei ddiddordeb a'i gefnogaeth a'i barodrwydd.

Is-Olygyddiaeth

Mae goleuni ar y gorwel. Mae Dafydd Chilton wedi cynorthwyo'r Golygydd. Rydym yn hynod falch o'i barodrwydd. Bydd y Gymdeithas a'r Casglwr mewn dwylo diogel am flynyddoedd i ddod.

Ffair

Bydd Ffair eto yn Aberytwyth ar 11 Mai ac un arall yn y Borth yn yr Hydref. Cofiwch eu cefnogi

Y Gadeiryddiaeth

Oherwydd salwch Elwyn Williams, y Cadeirydd, mae Buddug Medi wedi cytuno i fod yn Gadeirydd am flwyddyn arall. Diolch iddi am ei chefnogaeth. Rydym yn hynod falch fod Elwyn yn dod dros ei anhwylder.

Y Ysgrifenyddiaeth

Diolch i Bruce ac Ann am eu holl waith diflino.

Aelodau Newydd ar y Pwyllgor

Cyfetholwyd tri aelod newydd ar y Pwyllgor Cyffredinol sef, Gareth Vaughan Williams, Dafydd Chilton a Keith Lewis. Croeso iddynt.

Y We

Cofiwch am y safle We. Cymerwch gyfle i droi iddi. Diolch i Denis Roberts a Keith Parry am eu dyfalbarhad. Mae'r holl rifynnau o'r Casglwr, hyd at dair blynedd yn 61, ar y we bellach ac mae'n adnodd bwysig iawn ar gyfer yr ymchwilwyr. Trowch i mewn iddi i edrych drosoch eich hunain ar www.casglwr.org