123 | 122 | 121 | 120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106
Adroddiad y Trefnydd Rhifyn yr Haf 2013
Y Diwrnod Agored yn Llanuwchllyn
Bu'r Diwrnod Agored a gynhaliwyd yn Nhafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn yn Ilwyddiant ysgubol eleni eto gyda phedwar ugain yn bresennol. Penllanw'r cyfarfod oedd dadorchuddio Penddelw Bob Owen gan ei ferch Sian Williams. Llywiwyd y seremoni gan y Dr Mererid Hopwood.
Diolch i holl gyfranwyr Y Gymdeithas am eu rhoddion a wnaeth y gofeb deilwng i Bob Owen yn bosibl, ac i John Meirion Morris am ymgymryd a'r gwaith.
Cafwyd dwy sgwrs arall, un gan y Dr Robyn Lewis a'r hall gan yr Athro Hywel Wyn Owen. Diolch iddynt am ein diddannu, a diolch i Buddug Medi, ein Cadeirydd, am lywio'r achlysur.
Y Cyfarfod Blynyddol
Arhosodd gryn ddau ddwsin i'r cyfarfod. Etholwyd Dr. Keith Lewis yn Is-drysorydd. Gan nad yw Elwyn Williams, y Cadeirydd newydd, yn gallu gyrru dros dro, cytunodd Buddug Medi i barhau yn y swydd am flwyddyn arall. Diolch iddi am ei chefnogaeth.
Gwibdeithiau
Bu'r wibdaith gyntaf i Bennal i ymweld â Chefn Caer, yn llwyddiannus iawn. Arweiniwyd ni o gwmpas gan y perchennog, Elfyn Rowlands. Diolch iddo am sgwrs hynod ddiddorol ac am ei frwdfrydedd yn son am gysylltiadau Owain Glyndwr a'r ty. Cafwyd hefyd gyfle i ymweld ag Eglwys Pedr mewn Cadwynau. Gorffennwyd y daith gyda lluniaeth yn y Llew Gwyn, Machynlleth. Diolch i Helga am drefnu'r daith.
Ar yr ail wibdaith ymwelwyd d Llys Rhosyr, Llys y Tywysogion, a Neuadd Prichard Jones, Niwbwrch. Tywyswyd ni yn ddeheuig iawn gan Bob Morris. Trefnwyd lluniaeth ar ein cyfer yn y Neuadd gan Enid Mummery. Diolch iddi am ei chefnogaeth.
Bydd y wibdaith olaf yn nwylo Deian ap Rhisiart. Fe'n tywysir o amgylch tref Caernarfon i ddatgelu mannau cuddiedig y dref. Trefnir lluniaeth i ni yn y Black Boy.
Yr Eisteddfod
Bydd Stondin gan y Gymdeithas eto yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych. Cawn gyfle yno i gyfarfod ag aelodau a chyfeillion. Cofiwch alw i mewn.
Y Raffl
Bydd tri llyfr yn gynwysedig gyda'r Casglwr. Gofynnir am eich cefnogaeth eleni eto.
Yr Is-Olygyddiaeth
Sylwch ein bod yn dal i chwilio am Isolygydd i gynorthwyo gyda'r Casglwr. Os ydych yn gwybod am unrhyw un a diddordeb gadewch inni wybod. Mae'n angenrheidiol ein bod yn Ilenwi'r swydd i sicrhau dyfodol i'r cylchgrawn.
Ffeiriau
Cafwyd Ffair lwyddiannus iawn yn y Morlan, Aberystwyth ar Fai 11. Diolch i Gwyn Tudur am ei holl waith yn ymgymryd a'r trefnu.
Mae tair Ffair Lyfrau wedi'u trefnu yn y misoedd nesaf. Ceir y Ffair gyntaf yn Neuadd Gymunedol Talsarnau ar Sadwrn 13 Gorffennaf gan Gyfeillion y Las Ynys. Ar 13 Medi trefnir Ffair Lyfrau arall yng Nghanolfan Soar, Merthyr Tudful a bydd ein Ffair Flynyddol yn Ysgol David Hughes y Borth. Diolch i Ann a Bruce am ysgwyddo'r gwaith o'i threfnu.
Y We
Cofiwch am ein Safle We. Cymerwch gyfle i droi iddi. Diolch i Denis Roberts, Swyddog y We ac i Keith Parry am eu dyfalbarhad.