123 | 122 | 121 | 120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106

Adroddiad y Trefnydd Rhifyn yr Gaeaf 2012

Y Brifwyl ym Mro Morgannwg

Bu'r Genedlaethol yn llwyddiant mawr i'r Gymdeithas. Cafwyd cyfle i gyfarfod ag aelodau, a llwyddwyd i ddenu rhai newydd i'r gorlan. Buom yn ffodus iawn i gael Dr Robin Gwyndaf i draddodi darlith y Gymdeithas gyda Helga Martin yn ei chadeirio. Diolch i'r siaradwr am fod mor barod ei gymwynas. Cefnogwyd y digwyddiad gan Lenyddiaeth Cymru.

Diolch i Helga Martin am roi o'i hamser prin yn ystod yr wythnos i warchod y stondin ac i fynnu bod pawb yn prynu tocynnau raffl. Cafwyd sawl aelod newydd.

Ffair Y Borth

Bu Ffair lwyddiannus iawn eto yn y Borth ym mis Medi a mawr ddiolch i Ann Corkett a Bruce Griffith. Gobeithir, hefyd, gynnal Ffair Aberystwyth fis Medi nesaf. Ond ceir mwy o fanylion amdani yn y rhifyn nesaf.

Gwibdeithiau

Bu'r daith i Ganolfan Uwchgwyrfai yn llwyddiannus tu hwnt gyda dau ddwsin o aelodau yn ei mynychu. Cafwyd darlith ddiddorol gan Dawi ar lwyddiannau'r ganolfan. Roedd Marian Elias wedi trefnu paned, a pharatodd y Trysordydd luniaeth ysgafn inni. Wedi taith o gwmpas y pentref ac ymweliad â'r Eglwys Hynafol, cafwyd gwledd yng Ngwesty'r Beuno. Diolch i Marian a Dawi am eu croeso cynnes a diwrnod difyr iawn, ac i Helga am drefnu'r achlysur.

Oherwydd y galw gan yr aelodau am fwy o wibdeithiau mae trefniadau ar y gweill am dair gwibdaith y flwyddyn nesaf - i Gefn Caer, Pennal, sy'n gysylltiedig ag Owain Glyn Dwr, i Lys Rhosyr, Llys Tywysogion Cymru, a Chanolfan Pritchard Jones yn Amlwch, a thaith o amgylch Caernarfon i ddod yn gyfarwydd â mannau dirgel y dref.

Y Drysoryddiaeth

Mae gwedd iach iawn ar gyllid y Gymdeithas yn nwylo medrus Helga. Derbyniwyd taliad cyntaf y Rhodd Gymorth ac mae nifer helaeth o'r aelodau wedi talu'n llawn. Mae yna ychwaneg yn yr arfaeth. Diolch i'r aelodau am ymateb mor ffafriol i anogaeth y Trysorydd. Mae hi wedi bod wrthi'n ddiwyd tu hwnt yn sicrhau'r fantol am eleni. Diolch am ei gwaith.

Yr Ysgrifenyddiaeth

Diolch i Bruce ac Ann am eu gwaith diflino yn ymwneud a'r gwaith. Mae'r Gymdeithas mewn dwylo da.

Y Benddelw

Mae yna ymateb cadarnhaol iawn wedi bod ymysg yr aelodau ynglŷn â'r Benddelw. Mae'n bryd cael rhywbeth teilwng i goffhau Bob Owen gan fod 50 mlynedd ers ei farwolaeth. Diolch i bawb am eu cyfraniadau; bydd cyfle eto i gefnogi'r fenter os byddwch yn dymuno. Mae enwau'r cyfranwyr i'w gweld y tu mewn.

Rhoddion

Diolch ichi am eich rhoddion hael. Mae eich cyfraniadau yn gymorth mawr i'r Gymdeithas. Ceir rhestr o'r cyfranwyr yn Y Casglwr hwn.

Y Raffl Flynyddol

Mae'r raffl wedi bod yn llwyddiannus iawn eleni eto ac mae'r elw'n fodd i ni logi stondin ar faes y Brifwyl. Gwelwch enwau'r enillwyr y tu mewn.

Y We

Cofiwch am ein Safle We. Cymerwch gyfle i droi iddi. Diolch i Denis Roberts, Swyddog y We ac i Keith Parry am eu dyfalbarhad.