123 | 122 | 121 | 120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106

Adroddiad y Prif Weithredwr
Rhif117 ~ Rhifyn yr Haf 2016

Y Diwrnod Agored yn Llanrwst

Bu'r Diwrnod Agored yng Ngwesty'r Eryrod, Llanrwst yn llwyddiant ysgubol.
Cafodd y gynulleidfa fodd i fyw yng nghwmni Bobi Owen, Yr Athro Gruffudd Aled Williams a Robat Arwyn.
Gweler lluniau ar dudalen 28.
Cefnogwyd yr achlysur gan yr Academi.

Y Cyfarfod Blynyddol

Cafwyd Cyfarfod Blynyddol buddiol iawn gyda chefnogaeth dderbyniol yr aelodau.
Trafodwyd y Cyfansoddiad ac i wneud y Cyfarfod Blynyddol yn ddilys mae'n rhaid i o leiaf chwarter yr aelodau bleidleisio er mwyn gwneud y cworwm. Pan gychwynnwyd y Gymdeithas dim ond 80 o aelodau oedd ganddi gan wneud chwarter yr aelodau ond yn ugain i wneud y cworwm. Bellach gan ein bod yn ymylu ar naw cant o aelodau golyga hyn fod angen dros ddau gant yn bresennol mewn Cyfarfod blynyddol i basin unrhyw gynnig ac mae'n amhosibl cael cynifer at ei gilydd.
Awgrymwyd y dylid cwtogi hyn i 20 i ffurfio cworwm.
Amgaeir ffurflen bleidleisio yn y rhifyn hwn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ei llenwi a'i dychwelyd.

Ffeiriau Llyfrau

Cynhaliwyd Ffair Lyfrau Y Morlan, Aberystwyth ar 9 Mai.
Diolch i Gwyn Tudur a'i gyfeillion am fynd i drafferth i'w threfnu. Mae'r Gymdeithas yn ddiolchgar iawn iddynt am eu hymroddiad blynyddol ac am yr holl stondinwyr a gefnogodd yr achlysur.
Cynhelir Ffair y Borth yn Ysgol David Hughes ar 8 Hydref.
Mae croeso ichi osod stondin yno trwy gysylltu ag Ann Corkett.

Gwibdeithiau

Oherwydd gwaeledd fe ohiriwyd y daith i Benmon. Ymddiheuriadau i bawb a gefnogodd y daith. Mi fydd ymlaen eto ar 7 Medi.
I'r rhai sydd wedi talu'n barod, gadewch i Helga wybod os nad ydych yn gallu dod ar y daith. Daeth dau ddwsin ar y wibdaith o gwmpas Castell Gwydir a thref Llanrwst. Diolch i Maureen Hughes am ein tywys o amgylch Tŷ Gwydir ac i Dwynwen Berry am ddatgelu hynodion tref Llanrwst. Diolch i Helga am drefnu'r achlysur.
Os oes gennych unrhyw syniad lle y gellir ymweld ag o yn y dyfodol, gadewch imi wybod. Rydym yn awyddus i gael gwibdeithiau i wahanol ardaloedd yng Nghymru.

Y Brifwyl yn y Fenni

Cawn gyfle yma i gyfarfod ag aelodau ffyddlon ac i geisio denu mwy i'r gorlan. Dyma ffenestr siop y Gymdeithas.
Rydym yn ffodus i gael Yr Athro Sioned Davies i draddodi'r ddarlith flynyddol ar brynhawn Mawrth yr Wŷl.

Y Raffl Flynyddol

Cynhelir raffl eto eleni ac mae ei chynnal yn fodd i ni dalu am y babell ar faes yr Eisteddfod.
Mae'n codi ein calon hefyd i gael cynifer ohonoch yn anfon rhoddion yn ychwanegol at dal y raffl ac yn sgil y rhai sydd wedi arwyddo ffurflen y Rhodd Gymorth, cawn elw pellach.
Tybed a wnaiff pawb sy'n talu treth ystyried llofnodi'r ffurflen?

Y We

Diolch i Denis Roberts a Keith Parry am eu dyfalbarhad yn ei diweddaru.
Trowch i www.casglwr.cymru