123 | 122 | 121 | 120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106

Adroddiad y Prif Weithredwr
Rhif 121 ~ Rhifyn y Gaeaf 2017

Y Brifwyl ym Môn

Er y tywydd mawr ar ddechrau'r wythnos bu'r Wyl yn llwyddiant. Llifodd yr aelodau i'r Babell i ddangos eu cefnogaeth a llwyddwyd i gael sawl aelod newydd.
Bu'r ddarlith ar 'Meddygon Esgyrn Mon' gan Richard Williams yn hynod boblogaidd. Diolch i Elwyn am gadeirio yn ddeheuig. Cefnogwyd yr achlysur gan yr Academi.
Diolch i Keith Parry, am ei gymorth i drefnu'r Babell wythnos cyn yr Eisteddfod ac i Nesta Dobson ac i Elwyn am yr holl waith yn ystod yr wythnos.

Y Brifwyl yng Nghaerdydd

Mae'r Gymdeithas yn noddi cystad­leuaeth cyfansoddi dwy erthygl addas i'w cyhoeddi yn y Casglwr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y flwyddyn nesaf. Mae'r manylion ar dudalen 5.

Y Raffl Flynyddol

Gyda'r holl gefnogaeth a'r rhoddion ychwanegol gan aelodau, mae'n werth cynnal y Raffl Flynyddol. Cafwyd digon o elw eleni eto i gynnal y stondin ar faes yr Eisteddfod. Mae'n holl bwysig ein bod yn mynychu'r Wyl gan ei bod yn hysbyseb dda i'r Gymdeithas.
Mae rhestr yr enillwyr ar dudalen 7.

Ffair Lyfrau

Bu Ffair y Borth yn Ysgol David Hughes yn hynod lwyddiannus eto eleni. Mynych­odd yn agos i 300 yr achlysur.
Mae'r diolch i gyd i Ann Corkett a Bruce am eu holl ymroddiad. Diolch hefyd i'r holl stondinwyr am eu cefnogaeth flynyddol.

Edrychir ymlaen at Ffair y Morlan, Aberystwyth, fis Mai nesaf.

Gwibdeithiau

Gan mor boblogaidd y gwibdeithiau erbyn hyn bwriedir trefnu tair eto y flwyddyn nesaf. Ceir mwy o wybodaeth yn rhifyn y Gwanwyn.
Os oes gennych unrhyw syniad Ile y gellir ymweld ag o yn y dyfodol, gadewch imi wybod.
Rydym yn awyddus iawn i gael gwibdeithiau i wahanol ardaloedd yng Nghymru.

Y Diwrnod Agored

Y flwyddyn nesaf bwriedir cynnal ein Diwrnod Agored yn Nhafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn, a hynny ar Sadwrn Ebrill 14.
Rydym yn ffodus i gael Sian James, Alun Jones, ein golygydd a Dr Elin Jones i'n diddannu.

Aelodaeth

Bu'r ymateb i ddenu aelodau i dalu drwy'r bane yn foddhaol ar y cyfan. Bellach mae yna dreuan wedi ymateb, and mae yna gryn ffordd i fynd.
Felly, amgeeir Ffurflen Tanysgrifio unwaith eto yn y rhifyn hwn gyda'r gobaith y gellir denu mwy i dalu drwy'r Banc.

Y Drysoryddiaeth

Wedi blynyddoedd o waith caled a llafurus, dymuna Helga ymddeol o fod yn Drysorydd i'r Gymdeithas. Mae hi wedi gweithio'n ddiwyd ac wedi codi nifer yr aelodau sy'n talu o bum cant i dros wyth gant.
Rydym fel Pwyllgor yn ddyledus iawn iddi am ddiwrnod da o waith. Diolch Helga.
Bydd yn rhaid i ni ymorol am Drysorydd newydd yn yr wythnosau nesaf. Hei Lwc.

Y We

Diolch i Keith Parry am ei ddyfalbarhad yn ei diweddaru. Trowch i www.casglwr.cymru