123 | 122 | 121 | 120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106
Adroddiad y Prif Weithredwr
Rhif116 ~ Rhifyn y
Gwanwyn 2016
Y Diwrnod Agored yn Llanrwst
Eleni eto cynhelir ein Diwrnod Agored yng Ngwesty'r Eryrod, Llanrwst a hynny ar 9 Ebrill. Rydym yn ffodus iawn i gael Yr Athro Gruffydd Aled Williams, Bobi Owen, Dinbych a Robat Arwyn i'n diddanu.Gobeithir cael stondinau llyfrau yno eto i dynnu dŵr i'ch dannedd.
Mae'n angenrheidiol eich bod yn dychwelyd y ffurflen amgaeedig erbyn 29 Mawrth yn nodi eich dewis o fwyd yn brydlon os ydych am sicrhau lle ar y diwrnod.
Y Cyfarfod Blynyddol
Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol am 3 o'r gloch y Diwrnod Agored.Mae croeso i bob aelod fynychu'r cyfarfod am ddim. Ond bydd yn rhaid talu os am fod yn rhan o'r diwrnod ar ei hyd. Rhydd y cyfarfod gyfle i unigolyn ddatgan ei safbwynt ac i gynnig newidiadau.
Ffeiriau Llyfrau
Cynhelir y Ffair nesaf yn Y Morlan, Aberystwyth ar 9 Mai. Mae croeso i aelodau logi bwrdd os ydynt awydd cael gwared â rhai o'u trysorau!Gwyn Tudur fydd yn ysgwyddo'r baich o drefnu'r Ffair unwaith eto.
Gobeithir cynnal Ffair y Borth ar 8 Hydref ym Mhorthaethwy. Ond ceir mwy o fanylion amdani yn y rhifyn nesaf.
Gwibdeithiau
Trefnir tair gwibdaith eto eleni, y gyntaf i ymweld A Beaumaris a Phriordy Penmon, yr ail i Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy ac Amgueddfa Forwrol Nefyn, a'r olaf i Gastell Gwydir, ynghyd d thaith droed o gwmpas Llanrwst.Os oes gennych unrhyw syniad lle y gellir ymweld ag o yn y dyfodol, gadewch imi wybod. Rydym yn awyddus i gael gwibdeithiau i wahanol ardaloedd yng Nghymru.
Y Brifwyl yn y Fenni
Dyma'r amser o'r flwyddyn yr ydym yn gorfod llogi stondin ar gyfer yr Eisteddfod. Rhydd hyn gyfle inni gyfarfod ag aelodau ac i geisio denu rhai newydd i'r gorlan.Llwyddwyd i gorlannu 60 o aelodau newydd y llynedd. Diolch i ymdrechion Helga Martin ein Trysorydd.
Rydym yn ffodus eleni i gael Yr Athro Sioned Davies i draddodi'r ddarlith flynyddol. Cewch fwy o wybodaeth yn y rhifyn nesaf.
Y Raffl Flynyddol
Trefnir raffl eto eleni, ac mae ei chynnal yn fodd i ni dalu am y babell ar faes yr Eisteddfod.Mae'n codi ein calon hefyd i gael cynifer ohonoch yn anfon rhoddion yn ychwanegol at dal y raffl ac yn sgil y rhai sydd wedi arwyddo ffurflen y Rhodd Gymorth, cawn elw pellach.
Tybed a wnaiff pawb sy'n talu treth ystyried Ilofnodi'r ffurflen?
Y Golygydd
Diolch i Huw Ceirlog am osod cwestiynau i'r Golygydd newydd er mwyn ichi gael dod i'w adnabod yn well.Mae'r Casglwr bellach mewn dwylo medrus. Diolch iddo am ei ddyfalbarhad a'i ddiddordeb.
Diolch hefyd i Evan L. Dobson am hyrwyddo'r gwaith drwy'r wasp.
Y We
Cofiwch am ein Safle We. Cymerwch gyfle i droi iddi.Diolch i Denis Roberts a Keith Parry am eu dyfalbarhad yn ei diweddaru'n gyson.