123 | 122 | 121 | 120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106

Adroddiad y Prif Weithredwr
Rhif 123 ~ Rhifyn yr Haf 2018

Diwrnod Agored yn Llanuwchllyn

Bu Diwrnod Agored y Gymdeithas yn Nhafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn unwaith eto yn llwyddiant.
Cafwyd cynulleidfa deilwng a mawr oedd eu canmoliaeth i'r tri siaradwr.
Diolch o galon i Alun Jones, ein golygydd, i Ieuan Wyn ac i Sian James am ein difyrru.

Cyfarfod Blynyddol

Buom yn ffodus i gael cynulleidfa deilwng yn aros. Cytunodd Elwyn Williams, ein cadeiryddd presennol, i barhau ymlaen am y flwyddyn nesaf. Diolch iddo am ei holl waith.
Penderfynodd Helga Martin, ein Trysorydd, ymddeol o'i swydd ar ôl wyth mlynedd. Mae ei hymroddiad i'r Gymdeithas wedi bod yn glodwiw a bydd yn gadael bwlch go sylweddol yng ngweinyddiad y Gymdeithas.
Penderfynwyd yn unfrydol i'w hanrhegu am ei hegm a'i dyfalbarhad dros y Gymdeithas am yr holl flynyddoedd.

Y Brifwyl yng Nghaerdydd

Mi fydd y Gymdeithas ar Faes y Brifwyl unwaith eto. Eisteddfod wahanol iawn fydd hi eleni am na fydd W mynedid i'r maes.
Edrychwyn ymlaen at eich cyfarfod yn y stondin.
Trefnwyd darlith flynyddol eto eleni a buom yn ffodus i gael Dr. Iwan Rees o Brifysgol Caerdydd i draddodi'r ddarlith flynyddol ar brynhawn Mawrth yr Ŵyl.
Cofiwch gefnogi.

Y Raffl Flynyddol

Erbyn hyn mae Raffl Flynyddol yn ddigwyddiad o bwys i'r Gymdeithas. Mae'r elw oddi wrthi yn talu costau'r Stondin ar y maes.
Yn sgil hyn hefyd, mae nifer helaeth o'r aelodau yn anfon rhoddion ychwanegol at dal y raffl. Diolch iddynt am eu haelioni.
Bydd tri llyfr yn cyrraedd gyda'r Casglwr.

Ffeiriau Llyfrau

Eleni eto trefnwyd Ffair Y Morlan, Aberystwyth.
Diolch i Gwyn Tudur a'i griw am ysgwyddo'r gwaith trefnu.
Gobeithir cynnal Ffair y Borth yn yr Hydref ar Sadwrn, Hydref 13.

Gwibdeithiau

Cafwyd taith lwyddiannus iawn i Ynys Lawd a Melin Llynnon.
Cefnogwyd y daith gan ddeunaw aelod a chafwyd pryd bendigedig i gloi'r diwrnod yn Nhafarn Yr Anglesey, Porthaethwy.
Diolch i Deian ap Rhisiart am ein harwain ac am esbonio arwyddocad y gwahanol fannau hynafol.
Gohiriwyd y daith o amgylch Caernarfon am fod yna gymaint o alw ar yr aelodau dros y Sulgwyn.
Gobeithir ei chynnal ddydd Sadwrn Medi 15. Ceir y manylion y tu mewn.
Os oes gennych unrhyw syniad lle gellir ymweld ag o yn y dyfodol, gadewch imi wybod.
Rydym yn awyddus i gael gwibdeithiau i wahanol ardaloedd yng Nghymru.

Yr Archeb Banc

Mae dros dri chant wedi ail-ymaelodi drwy'r Banc bellach. Ond mae yna gryn ffordd i fynd.
Os am ailymuno a'r Gymdeithas mae'n angenrheidiol i bob aelod gysylltu a'u bane yn unigol.
Mi fyddwn yn falch pe byddai pob un sydd wedi bod yn talu drwy'r Banc yn y gorffennol yn sicrhau bod y Archeb Banc wedi mynd trwy eich Banc.

Diogelu Data

Dyma gur pen.
Diolch i bawb sydd wedi ateb drwy'r We neu drwy ddychwelyd y ffurflen rhoi caniatad.
Mae 430 wedi ateb hyd yma. Mi fyddwn yn falch pe byddech yn dychwelyd y ffurflen yn ddiymdroi at Ann Corkett.

Y We

Diolch i Keith Parry am ei ddyfalbarhad yn diweddaru'r Safle We.
Mae nifer yn troi i mewn iddi yn feunyddiol. Trowch i www.casglwr.cymru