123 | 122 | 121 | 120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106
Adroddiad y Prif Weithredwr
Rhif 122 ~ Rhifyn y Gwanwyn 2018
Diwrnod Agored yn Llanuwchllyn
Cynhelir Diwrnod Agored y Gymdeithas yn Nhafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn, ar Sadwrn 14 Ebrill.Llwyddwyd i gael Alun Jones, ein golygydd, Sian James ac Ieuan Wyn i'n diddanu.
Gobeithir cael stondinau llyfrau yno hefyd.
Y Brifwyl yng Nghaerdydd
Bydd stondin eto gan y Gymdeithas yn y Brifwyl eleni.Ar hyn o bryd mae'n anodd gwybod y trefniadau, ond yn sicr mi fydd y safle'n wahanol.
Rydym yn ffodus i gael Iwan Rees o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd i draddodi'r ddarlith flynyddol.
Bydd mwy o wybodaeth yn y rhifyn nesaf.
Y Raffl Flynyddol
Erbyn hyn mae Raffl Flynyddol yn ddigwyddiad o bwys i'r Gymdeithas.Mae'r elw oddi wrthi yn talu costau'r Stondin ar y maes.
Yn sgil hyn hefyd, mae nifer helaeth o'r aelodau yn anfon rhoddion ychwanegol at dâl y raffl.
Y Cyfarfod Blynyddol
Cynhelir y cyfarfod Blynyddol am 3 o'r gloch y Diwrnod Agored.Mae croeso i bob aelod fynychu'r cyfarfod am ddim. Ond bydd yn rhaid talu os am fod yn rhan o'r diwrnod ar ei hyd.
Rhydd y cyfarfod gyfle i unigolyn ddatgan ei safbwynt ac i gynnig newidiadau.
Ffeiriau Llyfrau
Eleni eto trefnir Ffair y Morlan, Aberystwyth ar Mai l9.Diolch i Gwyn Tudur a'i griw am ysgwyddo'r gwaith trefnu. Gobeithir cynnal Ffair y Borth yn yr Hydref ond fe gewch fwy o wybodaeth yn y rhifyn nesaf.
Gwibdeithiau
Gobeithir trefnu tair gwibdaith eleni eto, un i Ynys Lawd, Eglwys Caergybi a Melin Llynnon ar Ebrill 28,yr ail i Gastell Caernarfon, Y Gaer Rufeinig ac Eglwys Peblig ar Mai 26, a'r drydedd i ymweld ag Eglwys Ysbyty Ifan,
Eglwys Penmachno ac Eglwys Grwst Llanrwst ar Mehefin 30.
Bydd Deian ap Rhisiart ac Eryl Owen yn ein harwain ar y gwahanol deithiau.
Amgaeir y ffurlen archebu lle y tu mewn. Os oes gennych unrhyw syniad lle y gellir ymweld ag o yn y dyfodol, gadewch imi wybod.
Rydym yn awyddus i gael gwibdeithiau i wahanol ardaloedd yng Nghymru.
Yr Archeb Banc
Mae dros gant wedi ailymaelodi drwy'r Banc bellach.Ond mae yna gryn ffordd i fynd. Mi fyddwn yn falch pe byddai pob un sydd wedi bod yn talu drwy'r Banc yn y gorffennol yn
sicrhau fod yr Archeb Banc wedi mynd trwy eich Banc.
Fe ddaeth yr holl ffurflenni at Helga, ond wedi deall mae'n rhaid mynd a'r archebion i'r gwahanol fanciau.
Felly, gan fod Banciau yn cau ar hyd a lled y wlad mae'n broblem fawr i'r Gymdeithas.
Felly rydym wedi penderfynu cynnwys y ffurflen Archeb Banc unwaith eto er mwyn ichi ei llenwi a'i dychwelyd i'ch Banc.
Gwnewch yn siwr nad ydych eisoes wedi cofrestru i dalu drwy'r Banc.
Os ydych, does dim rhaid ichi ei chyflwyno eilwaith. Diolch am eich cydweithrediad.
Y We
Diolch i Keith Parry am ei ddyfalbarhad yn diweddaru'r Safle We.Mae nifer yn troi i mewn iddi yn feunyddiol. Trowch i www.casglwr.cymru