123 | 122 | 121 | 120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106

Adroddiad y Prif Weithredwr
Rhifyn yr Haf 2015

Y Diwrnod Agored yn Llanrwst

Bu'r Diwrnod Agored eleni yng Ngwesty'r Eryrod, Llanrwst yn llwyddiannus ysgubol. Cafodd y gynulleidfa fodd i fyw yng nghwmni Yr Athro Gwyn Thomas, Dr. J. Elwyn Hughes a'r Bonwr Hywel Gwynfryn.

Gobeithir gweld y sgyrsiau mewn print maes o law.

Diolch i Ann Corkett a Bruce am drefnu'r achlysur.

Y Cyfarfod Blynyddol

Cafwyd Cyfarfod Blynyddol buddiol iawn gyda chefnogaeth derbyniol yr aelodau.

Cadarnhawyd apwyntiad Alun Jones, awdur nifer o lyfrau, fel darllenydd proflenni i'r Gymdeithas. Edrychwn ymlaen at gydweitho ag ef.

Ffeiriau Llyfrau

Cynhelir y Ffair nesaf yn Y Morlan Aberystwyth ar 9fed o Fai. Mae croeso i unrhyw aelod logi bwrdd os ydynt awydd cael gwared a rhai o'u trysorau! Gwyn Tudur fydd yn ysgwyddo'r baich o drefnu'r Ffair unwaith eto. Gobeithir hefyd, gynnal Ffair y Borth fis Medi nesaf. Ond ceir mwy o fanylion amdani yn y rhifyn nesaf.

Gwibdeithiau

Trefnwyd tair gwibdaith eleni. Daeth dros ugain i ymweld a Sycharth a Llanrhaeadr ym Mochnant. Buom yn ffodus i gael Ceinwen Edwards i roi sgwrs ar hanes yr Eglwys.

Cefnogodd cryn nifer yr ail wibdaith i Fryn Celli Ddu a Llangadwaladr yn Sir Fon, Diolch i Shirley Jones, Hermon am y sgwrs ddifyr yn esbonio hanes yr Eglwys. Gorffennwyd gyda phryd yn Oriel Mon.

Daeth dros ugain ar y daith fws drwy Ddyffryn Ogwen yng nghwmni J. Elwyn Hughes i weld cartrefi enwogion y fro. Os oes gennych unrhyw syniad lle y gellir ymweld ag o yn y dyfodol, gadewch imi wybod. Rydym yn awyddus i gael gwibdeithiau i wahanol ardaloedd yng Nghymru. Mae'n ymddangos bod teithiau'r Gymdeithas, bellach, yn boblogaidd iawn ac yn gyfle gwych i gymdeithasu.

Darllenydd Proflenni

Rydym wedi bod yn ffodus iawn i gael Alun Jones, Lien Llyn, i ymgymryd a'r gwaith o ddarllen proflenni.
Mae wedi ymgymryd a'r gwaith yn ddeheuig iawn ac mae ef ac Evan Dobson, y cysodydd, yn gweithio'n glos i sicrhau dyfodol i'r Casglwr.

Ffeiriau

Cynhaliwyd Ffair Aberystwyth ar Sadwrn 9 Mai, a bu yn llwyddiannus iawn. Mae hi bellach yn ddigwyddiad blynyddol yn y dref.
 
Diolch i Gwilym Tudur am drefnu popeth mor ddidrafferth. Bydd Ffair eto yn y Borth, ac os dowch draw, mi fyddwch yn siwr o gael hyd i gyfrol brin, o bosibl un yn buoch yn chwilio amdani ers blynyddoedd.

Bydd yn cael ei chynnal yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy ar 27 Medi. Dowch yn llu.
Diolch i Ann Corkett a Bruce Griffiths am drefnu'r achlysur.

Yr Brifwyl ym Meifod

Dyma gyfle i gyfarfod ag aelodau ac i geisio denu rhai newydd i'r gorlan.
Rydym yn ffodus i gael Rhys Mwyn i draddodi'rddarlith flynyddol.
Fe'i traddodir ym Mhabell 2 ar 4 Awst am 11.30. Dowch yn llu i'w mwynhau.

Llywydd Anrhydeddus

Penderfynwyd estyn gwahoddiad i Gwilym Tudur, ein Llywydd Anrhydeddus i Ddiwrnod Agored Y Gymdeithas, y flwyddyn nesaf.

Y We

Diolch i Denis Roberts a Keith Parry am eu gwaith yn diweddaru'r safle we.