123 | 122 | 121 | 120 | 119 | 118 | 117 | 116 | 115 | 114 | 113 | 112 | 111 | 110 | 109 | 108 | 107 | 106
Adroddiad y Prif Weithredwr
Rhif 119 ~ Rhifyn Y Gwanwyn 2017
Y Diwrnod Agored yn Llanuwchllyn
Cynhelir Diwrnod Agored y Gymdeithas eleni yn Nhafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn.Mae'n argoeli i fod yn ddiwrnod diddorol iawn yng nghwmni Huw Edwards, y Newyddiadurwr, Robert Morris, yr Hanesydd a Gwenan Gibbard, y Delynores.
Gobeithir cael stondinau llyfrau yno hefyd.
Mae'n angenrheidiol eich bod yn dychwelyd y ffurflen amgaeedig erbyn 29 Mawrth yn nodi eich dewis o fwyd os ydych am sicrhau Ile ar y diwrnod.
Y Cyfarfod Blynyddol
Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol am 3 o'r gloch y Diwrnod Agored. Mae croeso i bob aelod fynychu'r cyfarfod am ddim.Ond bydd yn rhaid talu os am fod yn rhan o'r diwrnod ar ei hyd.
Rhydd y cyfarfod gyfle i unigolyn ddatgan ei safbwynt ac i gynnig newidiadau.
Ffeiriau Llyfrau
Cynhelir y Ffair nesaf yn Y Morlan ar 20 Mai.Gobeithir cynnal Ffair y Borth eto yn yr Hydref, and fe gewch fwy o wybodaeth yn y rhifyn nesaf.
Bydd yna gyfle eto ichi gael gwared â rhai o'ch llyfrau drwy logi bwrdd yn y Ffair.
Cewch fwy o fanylion y tu mewn.
Gwibdeithiau
Trefnir tair gwibdaith eleni eto: y gyntaf i ymweld a'r Las Ynys, Eglwys Llanfair a Chapel Salem; yr ail i ymweld a Chapel y Rhug ac Eglwys Llangar; a'r drydedd daith i Dy Nantclwyd, Rhuthun ac Eglwys Llanrhaeadr, Dyffryn Clwyd a'i Ffenestr Jesse hynod.Os oes gennych unrhyw syniad Ile y gellir ymweld ag o yn y dyfodol, gadewch imi wybod. Rydym yn awyddus i gael gwibdeithiau i wahanol ardaloedd yng Nghymru.
Y Brifwyl ym Môn
Mae'r amser wedi dod eto i logi stondin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.Mae'n bwysig ein bod â phresenoldeb yn y Brifwyl. Dyma ffenestr siop y Gymdeithas.
Rhydd hyn gyfle inni gyfarfod ag aelodau a'r cyfle hefyd i rwydo mwy o aelodau.
Y Gystadleuaeth
Am y tro cyntaf mae yna gyfle yn y rhifyn yn hwn i gymryd rhan mewn cystadleuaeth newydd, A Fedrwch Ateb?Cynigir tocyn llyfr am yr ateb cywir cyntaf. Trowch i dudalen 10.
Y Raffl Flynyddol
Trefnir raffl eto eleni; mae'r elw yn fodd i ni dalu am y Stondin ar faes yr Eisteddfod.Mae'n codi ein calon hefyd i gael cynifer ohonoch yn barod i anfon rhoddion yn ychwanegol at dal y raffl.
Diolch i Helga Martin am ei threfnu.
Y We
Mae Denis Roberts wedi penderfynu ymddeol fel Swyddog y We.Diolch iddo am ei holl waith dros y blynyddoedd.
Rydym yn lwcus iawn o Keith Parry, Y Ff6r. Ef sydd wedi bod yn gosod Y Casglwr ar y we ar hyd y blynyddoedd.
Rydym yn gwerthfawrogi ei ymroddiad. Mae ei waith i'w weld os gwnewch chi droi at