Caerdydd 2010 | Porthaethwy 2010 | Bala 2009 | Aberystwyth 2009 | Bala 2008 | Aberystwyth 2008
Bala 2007 | Caerfyrddin 2007 | Bala 2006 | Aberystwyth 2006 | Bala 2005

Ffair Lyfrau Porthaethwy 2010


porthaethwy 2010

Holl hwyl Ffair y Borth!

Andros o lwyddiant - dyna fu Ffair Lyfrau Gymdeithas Bob Owen, yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy, Sadwrn, Medi 25. Trwy'r bore bu'r neuadd (a'r cyntedd!) dan eu sang, all bu'n brysur trwy'r prynhawn. Hon fu'r ffair fwyaf o'i a fu yn yr ardal erioed, a'r fwyaf eto dan nawdd y Gymdeithas. Yn y cyntedd croesewid mwy na thri chant o gwsmeriaid gan seiniau pêr stondin Sain, gyda Dafydd Iwan ei hun yn droellwr. Yn gyfan gwbl yr oedd deugain bwrdd: gwerthwyr llyfrau o bell ac agos, gan gynnwys enwau amlwg megis Awen Menai, Mel Williams o Lanuwchllyn, Siop yr Hen Bost, Siop Dylan o Abertawe a Colin Hancock o Aberystwyth a hefyd y cyhoeddwyr, Llyfrau Magma a Gwasg Carreg Gwalch. Calondid fu gweld nifer o unigolion a gredodd i logi bwrdd i werthu eu llyfrau.

Yn ogystal, bu Nia Wyn Williams o Landegfan yn gwerthu hen gardiau post; bu Glyn Davies y ffotograffydd-arlunydd o'r Borth yn gwerthu ei lyfrau a'i brintiau, a'i wraig Carol yn gwerthu ei llyfrau cerddi i blant. Bu'r Br Dafydd Glyn Jones a'r Dr Gwawr Jones yn lansio Cerddi Twm o'r Nam, y gyfrol gyntaf mewn cyfres o lyfrau clasurol gan gwmni Dalen Newydd Cyf., a phecynnau o gardiau Nadolig, yn cynnwys carol gan yr hen Dwm. Mewn un gornel bu Paul Broadbent, rhwymwr llyfrau o Gaerwys, yn arddangos ei grefft, ac ymgasglodd nifer dda o'i gwmpas. Yr oedd hi fel bod ar faes 'Steddfod, a phawb yn sgwrsio'n hapus braf. Ar derfyn y dydd, bu pob stondinwr a holwyd yn fodlon iawn ar ei werthiant, a sawl un yn awyddus i logi stondin ar gyfer y tro nesaf! I'r Fs Ann Corkett, Bangor, y mae'r diolch am y llwyddiant hwn: bu hi wrthi nerth deng ewin ers chwe wythnos, gyda pheth help gan Bruce Griffiths.

porthaethwy 2010

Cafwyd cefnogaeth frwd gan eraill o'r ardal, yn enwedig Llyfrau Magma, Glyn Davies a Menter Mon. Mawr diolch i Ceinwen Davies a Merched y Wawr y Borth, a fu'n paratoi paned a theisen gri i'r cannoedd. Mawr ddiolch hefyd i rai o aelodau'r Pwyllgor: Helga Martin a Megan Tomos, a fu'n bugeilio'r stondinwyr; Dennis Jones, a ddaeth a sawl aelod o'i deulu i symud y byrddau; a Gwyndaf Roberts, ein trysorydd, a gasglai'r doll wrth y dress drwy'r dydd.

A fydd ffair yma'r flwyddyn nesaf? Gobeithio'n wir. Bydd croeso i unrhyw un ohonoch a all helpu mewn unrhyw fodd: trwy ddosbarthu posteri a thaflenni, neu drwy son am y ffair wrth eraill. Beth am logi stondin i werthu eich hen lyfrau/gardiau post /recordiau / brintiau ayb? A hoffech wybod sut i drefnu ffair yn eich ardal eich hun? Byddwn yn paratoi nodyn o gyngor, a bydd hwnnw ar gael gan: Ann Corkett a Bruce Griffiths, 5 Heol Belmont, Bangor, LL57 2HS; ff6n 01248 371 987 e-bost anncorkett@talktalk.com.