Caerdydd 2010 | Porthaethwy 2010 | Bala 2009 | Aberystwyth 2009 | Bala 2008 | Aberystwyth 2008
Bala 2007 | Caerfyrddin 2007 | Bala 2006 | Aberystwyth 2006 | Bala 2005
Ffair ac Ocsiwn Y Bala 2007
Bu'r Ffair a'r ocsiwn a gynhaliwyd yn Ysgol y Berwyn ddydd Sadwrn 21 Medi eleni yn llwyddiant ysgubol. Dyma heb os nac oni bai, oedd y Ffair fwyaf i Gymdeithas Bob Owen ei chynnal. Roedd deg ar hugain o stondinwyr wedi dod o bell ac agos i'w chefnogi. Arhosodd cryn dipyn o'r cyhoedd ar gyfer yr Ocsiwn yn y prynhawn.
Yn yr Ocsiwn, gwerthwyd dyddiadur Marion Eames am £100 a bu gryn ddiddordeb yn y Goron arian Eisteddfodol a gostiodd £3000 i'w gwneud. Cafwyd bargeinion lu yn yr ocsiwn hefyd megis tair cwpan a soser crochenwaith Abertawe (Gaudy Welsh) mewn cyflwr perffaith am £25; llun o'r Cnicht a'r Moelwynion gan Robert Piercy ac amryw o lythyrau oddi wrth enwogion megis J. E. Lloyd, R. T. Jenkins a llyfryn Why we burnt the Bombing School gyda llofnod Saunders Lewis. am £50.
Agorwyd y Ffair gan Buddug Medi, awdures, cyn-brifathrawes, pregethwraig, beirniad cenedlaethol ac awdurdod ar fywyd y Romani, i agor y Ffair. Mae hi'n ffigwr adnabyddus dros Gymru. Yn ei neges pwysleisiodd mor bwysig yw prynu llyfrau a'u darllen ac nid eu benthyca oddi wrth gyfeillion a thrysori hen bethau yn enwedig y rhai hynny sydd â chysylltiad Cymreig.
LLUNIAU : Evan L Dobson