Caerdydd 2010 | Porthaethwy 2010 | Bala 2009 | Aberystwyth 2009 | Bala 2008 | Aberystwyth 2008
Bala 2007 | Caerfyrddin 2007 | Bala 2006 | Aberystwyth 2006 | Bala 2005

Ffair Llyfrau Caerdydd 2010


caerdydd 2010

Cynhaliwyd Ffair Lyfrau gyntaf Gymdeithas Bob Owen yng Nghaerdydd, yng Nghanolfan y Wallich, Heol y Gadeirlan, ar 4 Rhagfyr 2010.

Daeth 32 o stondinwyr at ei gilydd, un mor bell a Maidenhead ar ddiwrnod rhewllyd ac eiraog iawn. Methodd perchnogion tair stondin â chyrraedd oherwydd y tywydd gerwin. Er hynny bu'r diwrnod yn llwyddiant a chafwyd croeso mawr gan y dineswyr am inni fentro i'r Brifddinas. Eu cenadwri oedd 'dowch eto y flwyddyn nesaf'. Roedd yn galondid i weld cynifer o aelodau o'r Gymdeithas yn llogi bwrdd.

Bum yn ffodus i gael Hywel Gwynfryn i agor y Ffair. Roedd cyfrol Hywel ar Hugh Griffith wedi'i chyhoeddi ychydig wythnosau yn gynt, a chyfeiriodd yn ei araith agoriadol at achlysur go arbennig 'Mae dathlu 100fed rhifyn Y Casglwr yn ffitio hanes Hugh Griffith i'r dim gan mai 50 mlynedd yn ôl y cafodd ei anrhydeddu â'r Oscar am ei bortread o Sheik Ilderim yn y ffilm Ben-Hur'.

Hoffwn ddiolch i Hywel Gwynfryn am roi o'i amser i'n croesawu i'r ddinas ac am ei eiriau calonogol.

Oherwydd ein presenoldeb yr oedd yn fodd inni hysbysebu Canolfan y Wallich i bobl Caerdydd fel yr elusen sydd yn gwarchod y digartref yn y Ddinas. Â llawer o'r dineswyr heibio'r eglwys bob dydd i'w gwaith heb sylweddoli fod yr Eglwys ar Heol y Gadeirlan yn bencadlys y Wallich. Yn sgil hyn gwnaethpwyd eitem deledu arni. Felly, wrth i'r Gymdeithas ymweld â gwahanol ardaloedd yng Nghymru mae'n bosibl bod ein presenoldeb yn fudd i'r ardal honno.

Buom yn hynod ffodus i gael bachgen wyth mis oed i ymuno â'r Gymdeithas gan iddo gymryd diddordeb mawr yn rhifyn Nadolig Y Casglwr. Gobeithio y gwnaiff o ddal ati i dalu ei dan-ysgrifiad blynyddol drwy'r banc, maes o law.

mabon dafydd ap rhys hywel gwynfryn