Caerdydd 2010 | Porthaethwy 2010 | Bala 2009 | Aberystwyth 2009 | Bala 2008 | Aberystwyth 2008
Bala 2007 | Caerfyrddin 2007 | Bala 2006 | Aberystwyth 2006 | Bala 2005
Ffair Lyfrau Y Bala 2006
Bu'r Ffair Bob Peth a'r Ocsiwn yn llwyddiannus iawn gan inni allu cadw'r cwsmeriaid yno tan ddiwedd y prynhawn. Agorwyd y Ffair gan David Meredith gyda'i anecdodau a'i gyfeiriad at sut y saethodd beled i glawr Y Bywgraffiadur, o bob peth, pan yn hogyn ysgol. Aeth ymlaen i esbonio mai damwain oedd y digwyddiad ac nid rhyw atgasedd at lyfrau.
Buom yn ffodus iawn i gael nifer o eitemau hynod ddiddorol yn yr ocsiwn a hoffwn ddiolch i'r holl bobol hynny a fu'n barod i gynnig y rhain inni yn y Bala. Aeth copi llofnodedig o Kyffin am £240; llythyr oddi wrth R. S. Thomas am £90. Torrwyd cwys newydd eleni drwy gael nifer o stondinau gwahanol, megis yr un at elusen Tŷ’r Eos, a stondin hen bethau Cymreig. Oherwydd y llwyddiant, gallwn yn hyderus wahodd stondinau gwahanol eto'r flwyddyn nesaf.