2011 | 2010 | 2009 | 2008 | 2007 | 2006
Diwrnod Agored 2006

Daeth dros hanner cant o aelodau'r Gymdeithas i Danybwlch ar gyfer y Diwrnod Agored a chafwyd gwledd gan y pedwar darlithydd. Gwelir tri ohonynt yn y Hun isod, sef J. Elwyn Hughes, William Owen ac Arwel Jones yn ymlacio yn ystod y Cyfarfod Blynyddol. Roedd hi'n ddiwrnod bendigedig drwyddi draw.
Gobeithir cynnal y Diwrnod Agored y flwyddyn nesaf ym Mhortmeirion. Mae'r pentref wedi cael ei logi'n barod. Argoela fod yn ddiwrnod llwyddiannus eto. Dowch i gefnogi!



![]() |
Y pedwerydd darlithydd oedd David Meredith, a gwelir ef yma yn llofnodi ei gyfrol hynod boblogaidd, a lansiwyd yn Oriel Môn yn ddiweddar.