WILLIAM EVANS - TYWYSOG Y PORTH (1864-1934)
gan Owen Vernon Jones

 

Fel Prifathro Ysgol Ganolradd y Rhondda, sef Porth County, yr oedd hi'n ddyletswydd arnaf bob blwyddyn i atgoffa'r disgyblion am William Evans wrth i mi gyflwyno chwe Gwobr Goffa William Evans yn sgîl canlyniadau arholiadau Lefel 'A'. Gyda threigl amser pylai'r atgofion am y dyn mawr hwn ac ni chafwyd yr un ymateb wrth gyfeirio ato ag a geid gan fy nghenhedlaeth i. Felly, ysgrifennais fy llyfryn bach.

Y mae'r arwyddion yn dal yn amlwg yn y Porth, Cwm Rhondda. Wrth gerdded i lawr Stryd Hannah, canolfan siopa' brysur y Porth, ar du blaen ucha'r siopau, gwelwch un sy'n uwch ac yn fwy addurnedig na'r lleill ac arni'r llythrennau 'T and E', sef Thomas and I A Evans. Wrth i'r stryd droi i Ffordd Pontypridd, o'ch blaen gwelwch Lyfrgell y Porth a'r plac arni'n dangos mai rhodd gan y teulu er cof am William Evans ydy hi. Yn ei hymyl, ar ben Stryd Jenkins, gwelir tŵr yn edrych dros y Porth, ac ar ei ochr y teitl 'Welsh Hills', sef yr enw masnachol cyntaf ar y dyfroedd mwynol a gynhyrchwyd gan William Evans cyn cael ei ddisodli gan 'Corona'. Cerddwch i fyny Ffordd Pontypridd i Sgwâr y Porth ac fe welwch ar y dde y plasty — Bronwydd sef cartref William Evans, ac yn ei ymyl, Parc Bronwydd, ei rodd i bobl y Porth, lle y ceir cerflun pres o'r rhoddwr.

Stryd Hannah, Y Porth yn 1918

Y rhain yw'r unig arwyddion sydd ar ôl o bwysigrwydd y Porth fel cartref a chanolfan fasnach y Cymro a'r ffilanthropegydd mawr hwn. Byddai wedi bod yn ddyn eithriadol pryd bynnag neu ble bynnag y digwyddai fyw, ond yn fwy byth yn y Rhondda yr adeg honno. Y tu allan i faes y pyllau glo ni cheid na masnachwyr na diwydianwyr o bwys cenedlaethol oni bai am un eithriad — William Evans, Bronwydd, y Porth.

Fe'i ganwyd ar Fferm Trallwyn Uchaf, wrth odre'r Preselau, o deulu amaethyddol da, a'r cyntaf o bedwar plentyn ar ddeg Thomas a Maria Evans. Er mwyn dysgu y tair 'R' cerddai i ddosbarth a gynhelid mewn llofft uwchben adeilad a berthynai i Gapel Jabez yng nghwm prydferth y Waun. Ac yntau'n ddeuddeg oed daeth yn brentis digyflog i James Rees, groser o Hwlffordd. Cafodd lety gan ewythr a gadwai dŷ pot a llaethdy a chyn mynd i'r gwaith, rhannai'r bachgen laeth i gwsmeriaid ei ewythr. Wedyn, cafodd lety gan Mrs Jenkins, gwraig garedig a hynod grefyddol a ddylanwadodd yn fawr arno. Er gwaetha'r caledi cofiai'n ddiolchgar am y blynyddoedd hyn, ac yn 1957 cyflwynwyd Neuadd Goffa wedi'i dodrefnu'n llawn i Gapel Jabez gan ymddiriedolwyr ei elusennau. Ei unig gŵyn am yr ysgol oedd bod siarad yr iaith Gymraeg yn cael ei ystyried yn drosedd.

Ar ôl gorffen ei brentisiaeth gweithiai fel cynorthwydd yn siop groser yr Henadur William Thomas, Aberbyg, ond yna aeth yn rheolwr ar Siop Pegler's, y Porth. Ymhen dwy flynedd roedd yn ôl fel partner i'r Henadur Thomas ac i agor siop groser yn y Porth. Ar ôl tair blynedd llwyddodd i dalu'n ôl fuddsoddiad yr Henadur gydag elw sylweddol ond dewisodd gadw'r enw 'Thomas and Evans' ar gyfer ei amryfal fentrau.

Yr oedd cynnydd eithriadol ar fin digwydd ym mhoblogaeth y Rhondda a, rhwng 1871 ac 1881 dyblodd i 55,632 ond, erbyn 1923 cyrhaeddodd ei uchafbwynt o 167,900. Deallai Thomas Evans y sefyllfa a gwelodd ei gyfle. Deallai botensial y farchnad ynghyd â'r problemau. Yr oedd y Rhondda yn llethrog dros ben. Nid oedd digon o drafnidiaeth ar gyfer siopwyr. Nid oedd gwerthiant-dros-y-cownter yn ddigon. Anfonodd ei ddynion i'r ddau gwm er mwyn cymryd archebion a chludai'r nwyddau at ddrws y cwsmer â throl a cheffyl ar y dechrau, ac yna gyda modur. Erbyn 1922, ymhen dwy flynedd, adroddodd y Commercial Motor fod ei fflyd wedi codi o 4 i 74 modur. Agorwyd canghennau ledled De Cymru. Pobai ei fara ei hun; cymysgai ei de ei hun; cynhyrchai ei finegr ei hun a defnyddiai injans stêm i gludo'r deunyddiau crai toc ar ôl troad y ganrif. Bob blwyddyn ai ei foduron heibio Neuadd y Ddinas, Caerdydd mewn gorymdaith. Er mwyn lleihau costau trafnidiaeth agorodd ei 'Terry Stores' a oedd o fewn cyrraedd unrhyw stryd ac a oedd â manteision o brynu mewn bylc. Roeddynt ag arwyddocâd arbennig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan fod dosbarthu o ddrws i ddrws yn amhosibl.

Yn 1897, yn ôl y sôn, a William Evans y tu ôl i'w gownter, daeth ymwelydd anghyffredin i mewn –

Dywedodd y dyn ei fod yn gwybod y gyfrinach o wneud diodydd meddal. Darparodd William Evans adeilad, offer a chynhwysion iddo. Ddaeth dim byd o'r peth ar wahân i ysgogi dychymyg y groser ifanc. Unwaith eto, rhagwelai'r posibilrwydd o farchnad enfawr. Yr oedd meddwdod yn un o brif ddrygau'r gymdeithas. Yr oedd 120 o dafarndai yn y Rhondda a hwythau'n cael eu gwrthwynebu gan y Cymdeithasau Dirwest. William Evans oedd yr un a gynigiodd newid o ddiodydd meddwol i ddiodydd meddal, drwy gynhyrchu diod feddal o'r enw Welsh Hills'!

Cofiaf yn dda y Dyn Pop yn galw unwaith yr wythnos gyda phedair potel fawr mewn crât bren, yn costio swllt. Daeth ei ddiodydd yn rhywbeth hanfodol yng nghartref pob glöwr sychedig, a chododd ffatrïoedd ledled Cymru. Pan agorodd Isaac Foot A.S. ffatri fawr yn Willesden ar Ebrill 27, 1934 i ddarparu diod Corona i ardal y Metropolitan, rhagfynegodd y papur newydd:

Darparodd waith i filoedd. Darparai luniaeth drwy ei 'Bread Brigade' yn ystod streic 1926 nes i'r banciau wrthod credyd iddo. Yr oedd yn Ynad, yn Gadeirydd Pwyllgor Cyllid Cyngor Sir Morgannwg, yn ddiacon a thrysorydd ei gapel, yn Drysorydd Coleg y Bedyddwyr ac yn Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru. Chwaraeai crefydd ran fawr yn ei fywyd.

Ar y dechrau edrychai ar y Porth drwy lygaid a arferai edrych ar harddwch gwledig Sir Benfro, ac ni wnaed argraff arno. Dioddefai amseroedd da a drwg gyda'r glowyr; yr oedd yn byw yno; gweithiai yno, a gwnaeth lawer o ddaioni yno. Yn araf bach deuai i garu'r Rhondda a'i phobl a 'gweld harddwch ble bynnag yr edrychai'. Ef a ddaeth a sylw cenedlaethol i'r Rhondda, camp nas gwnaethpwyd gan neb na chynt nac wedyn.

Hysbyseb cynnar o'r cynnyrch