JOHN EVANS (1770-1799) gan Trefor Williams
Nos Sadwrn, Chwefror 27, 1999 yn neuadd y pentref Waunfawr, perfformiwyd 'Y Madogwys', pasiant gan Gareth Miles a chwmni Dalier Sylw. Enw Cymraeg ar lwyth o Americaniaid brodorol oedd 'Y Madogwys'. Yn y ddeuddegfed ganrif aeth Cymro o'r enw 'Madog' (yn ôl chwedl nad oes seiliau hanesyddol sicr iddi) i Ogledd yr Amerig a sefydlu llwyth o Americaniaid Cymraeg. Yn y ddeunawfed ganrif credai John Evans y chwedl hon ac aeth i Ogledd yr Amerig i chwilio am yr Americaniaid hyn er mwyn pregethu iddyn nhw. (Magwyd John Evans gan rieni o Fethodistiaid Cymraeg ac etifeddodd yntau frwdfrydedd crefyddol yr enwad newydd hwn.)
Arweinydd Methodistiaid Cymru ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif oedd Thomas Charles — a breswyliai yn Y Bala — oherwydd ef oedd yr unig un ohonyn nhw oedd yn Weinidog ordeiniedig. Cafodd John Evans lythyr oddi wrtho at y Parchedig Lewis Richards, Gweinidog o Gymro yn Baltimore, Maryland (talaith a sefydlwyd ar gyfer Pabyddion ond bod mwy o Brotestaniaid yno) gyda'r Bedyddwyr oedd Lewis Richards.
Hwyliodd John Evans i Baltimore ym mis Medi, 1792 a chyrhaeddodd yno ar y degfed o fis Hydref 1792. Heb oedi mwy, wedi cael llythyr arall i fynd i Weinidog yn Philadelphia yn nhalaith Pennsylvania, teithiodd John Evans gan milltir i weld y Parchedig Samuel Jones, a'i darbwyllodd i ystyried yn ofalus cyn mynd i weld yr Americaniaid brodorol. Cynghorwyd ef hefyd i beidio â mynd i'w plith ar ei ben ei hun. Aeth yn ôl i Baltimore a gweithio fel clerc swyddfa hyd Chwefror 1793.
Yn y swyddfa honno yn Baltimore llwyddodd John Evans hefyd i ddysgu gwaith Tirfesurydd; cymhwyster hanfodol iddo ar gyfer gwaith mawr ei fywyd o fynd i diroedd y brodorion Americanaidd. Heblaw brodorion cyntaf yr Amerig a Phrydeinwyr, bu dwy genedl arall yn America yr adeg honno, sef y Sbaenwyr a'r Ffrancod, a gelynion i'r Saeson oeddynt hwy.
Tref a reolid gan y Sbaenwyr oedd St. Louis, tref bwysig ar ffordd John Evans i diroedd y brodorion. Ni wyddai ddim o'r iaith Sbaeneg a charcharwyd ef am bron i ddwy flynedd (yn ôl Alan Conway a T. Arwyn Watkins) am fod y Sbaenwyr yn meddwl mai ysbïwr ydoedd. Gadawodd Baltimore yr ail waith yn Chwefror 1793 a mynd eto i Philadelphia. Er bod cyfeillion iddo yno wedi ceisio'n daer ei ddarbwyllo. Cychwynnodd eto ym mis Mawrth 1793, i deithio tri chan milltir ar ei ben ei hun i Pittsburgh, a dim ond un ddoler a 75 cent yn ei boced. Gorfu iddo gael ei gludo rhan fawr o'r ffordd ac erbyn cyrraedd tref Sbaenaidd arall o'r enw New Madrid bu'n wael am ddau fis ond cafodd ei ymgeleddu gan ŵr a gwraig o Gymry, sef Mr a Mrs Azor Rees (yn ôl erthygl Menai a Iolo Roberts yn 'Yr Enfys' yn 1996).
Cyhoeddwyd yr erthygl hon i gofio trydedd taith John Evans i ganol Gogledd America. Daeth ei daith gyntaf i ben pan gollodd ei iechyd a chael ei ymgeleddu yng nghartref Mr a Mrs Rees, a'i garcharu gan y Sbaenwyr. Cychwynnodd John Evans ar ei ail daith ym mis Awst 1795. Teithiodd, gyda deg ar hugain o ddynion eraill, mewn pedwar canŵ yn cludo anrhegion i'r brodorion a hefyd offer arolygu a mesur y tir a'r afonydd.
Yn ystod y cyfnod hwn, mesurodd John Evans led yr afon Missouri mewn un lle a'i chael yn fil o fetrau. Golygai hyn fod tarddiadau'r afon hon yn bellach oddi wrtho nag y tybid gan arweinydd y dynion hyn, Sgotyn o'r enw James Mackay a fu'n hela anifeiliaid gwylltion am eu ffwr. Adeiladodd Mackay gaer yn agos i afon Missouri yng nghanol tiriogaeth rhai o lwythau'r brodorion. Enwodd y gaer hon ar ôl brenin Sbaen.
Tynnodd John Evans y faner Brydeinig i lawr o gaer arall a chodi baner Sbaen yn ei lle, heb wybod y byddai Sbaen yn dechrau rhyfela yn erbyn Prydain mewn pythefnos! (Tybed ai James Mackay a John Evans oedd y ddau Genedlaetholwr gwrth-Brydeinig cyntaf ers pan `unwyd' Cymru a'r Alban gyda Lloegr?) Enwodd John Evans y gaer arall hon yn Fort Mackay.
Arhosodd John Evans ran o aeaf oer 1795-96 gyda thylwyth yr Omaha a phan aeth eu bwyd yn brin mentrodd gyda chwmni bach i hela byffalo am dair wythnos. Yn y gwanwyn aeth gydag ychydig weision i chwilio'r tir ymhellach ond gorfu iddyn nhw droi'n ôl wedi teithio tri chan milltir am fod cenedl y Sioux ar ymgyrch rhyfela. Cychwynnodd eto ym mis Mehefin 1796, gan fapio'r siwrnai yn fanwl iawn. Teithiodd ar draws tiriogaeth y Mandaniaid a'u cael yn bobl heddychlon iawn a'i gwaredodd unwaith eto rhag cael ei lofruddio gan Ffrancwr o'r enw Rene Jusseaume ym mis Mawrth 1797. Bu John Evans yn aros gyda'r Mandaniaid am chwe mis yn ystod gaeaf oer 1796-97.
Ymadawodd John Evans â'r Mandaniaid ym mis Mai 1797 wedi sicrhau gwybodaeth bwysig am rannau uchaf afon Missouri ac addo i'w pennaeth y byddai'n dychwelyd gydag arfau iddo, ond ni lwyddodd i wneud hyn. Gan rwyfo'n hamddenol gyda'r llif, cyrhaeddodd St. Louis ymhen saith wythnos ym mis Gorffennaf, 1797.
Siomwyd llawer iawn o bobl heblaw John Evans am na ddaeth o hyd i frodorion Americanaidd oedd yn siarad Cymraeg. Treuliodd John Evans ddwy flynedd olaf ei oes yng nghartref Llywodraethwr New Orleans yn gweithio yn ei swyddfa, er bod New Orleans yn eiddo i Sbaen yr adeg honno. Gofynnwyd iddo arwain dynion i chwilio'r tir tuag at y Môr Tawel ond nid oedd cyflwr ei iechyd yn ddigon da. Bu farw o'r Pla Melyn yn 1799, yn 29 mlwydd oed — nid meddwdod a'i lladdodd, fel y dywedodd Alan Conway a T. Arwyn Watkins. Bu Mary Vaughan Jones, y Waunfawr, un o'i ddisgynyddion, yn New Orleans a gwelodd y bedd cymunedol lle claddwyd ef a Llywodraethwr New Orleans, yntau hefyd wedi marw o'r Pla Melyn.
Wedi marw John Evans daeth ei fapiau i ofal yr Arlywydd Jefferson a defnyddiwyd hwy gan y ddau swyddog a anfonwyd gan Jefferson — Lewis a Clark — i gwblhau'r gwaith o chwilio'r tir o gwmpas rhannau uchaf afon Missouri.
Yn ogystal â'r cyfarfodydd yn y Waunfawr ddiwrnod olaf Gorffennaf a diwrnod cyntaf Awst, 1999, roedd cyfarfod arbennig arall i gofio John Evans ddiwedd mis Hydref, 1999 yn ninas Kansas, ar lan afon Missouri, pan ddadorchuddiwyd cofeb iddo. Gellir cael ychwaneg o fanylion am hyn oddi wrth y National Welsh American Foundation, 24 Carverton Road, Trucksville, PA 18708. (Ffôn:717-696) NWAF.