HYNT A HELYNT LLYFRGELL YR HEN FICER
gan Maredydd ap Huw


Wyneb ddalen - Canwyll y Cymru

Yn 1802 cyhoeddodd Evan Roberts yn Nhrefeca gyfrol fechan yn dwyn y teitl Pregeth o waith Y Parchedig a'r enwog Rhys Pritchard, A.M. gynt Ficar Llanymddyfri wedi ei chymmeryd allan yn ofalus a ffyddlon, o'i 'sgrifen law ef ei hun, lle y gellir canfod ei fod ef mor hynod yn ei ddull o bregethu, ag yn ei brydyddu. Cynnwys y gyfrol hon yw pregeth ddeuddeg tudalen o hyd, ar y testun - 'Canys cyflog pechod yw marwolaeth; eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol' (Rhuf.vi,23), - gyda'r awdur yn rhannu ei waith dan 'bennau' ac 'is­bennau' trefnus, a hefyd yn achlysurol yn defnyddio is­rannau pellach o dan deitlau megis 'dadl' a 'rheswm'.

Haedda arddull ryddieithol goeth yr awdur sylw pellach, ac mae'n destun syndod a diolch i'r bregeth hon gael ei diogelu a'i chyhoeddi o gwbl. Mewn nodyn ar derfyn y gyfrol, mynegir diolch i Dduw am Iddo ' yn ei ragluniaeth' ddyrchafu'r gwaith i'r argraffwasg, a hyd yn ddiweddar dyma'r unig bregeth lawn o eiddo'r Ficer y gwyddys amdani.

Wrth bori yng nghopi Llyfrgell Bodley, Rhydychen o argraffiad Rhys Thomas o Y Seren Foreu, neu Ganwyll y Cymry, a gyhoeddwyd yn Llanymddyfri yn 1770 (copi Thomas Charles o Lyfrgell y Bala, gyda llaw), diddorol oedd sylwi ar anerchiad y cyhoeddwr ar derfyn ei ragymadrodd:

'Trefnodd Duw ... (i) lawer o 'scrifenadau yr Awdwr Duwiol hwn gael eu rhoddi i mi i wneuthyr y gorau o honynt; ac wrth eu chwilio, deallais mai ei Bregethau oedd y rhan fwyaf o honynt, pa rai a gadwyd yn ei Lyfrgell ef yn Llanymddyfri er dydd ei Farwolaeth hyd nes iddynt ddyfod i'm llaw.'

Ar derfyn ei anerchiad, ymbiliai'r cyhoeddwr am danysgrifwyr er mwyn cyhoeddi'r gweddillion llenyddol ar ei wasg newydd yn y Bont­faen, ac wrth drafod cynnwys barddol y Cannwyll edrydd ymhellach nad oedd

'wrth bob Tebygoliaeth mor ganfed Rann o'i 'Scrifenadau ef; sef ei Bregethau, o blegid dywedodd gwr geirwir wrthyf a fuasai ... gyda Phendefiges oedd feddiannol o'i Estad a'i Lyfrau; iddo (orfod wrth ei Gorchymmyn ffroen-ffol hi) fod ddau ddiwrnod yn llosgi 'Scrifenadau'r Athraw rhagorol; ond iddo trwy ryw gyfrwysdra achyb rhai o honynt fel Pen Tewynion o'r fflamiau.'

Roedd digon o lawysgrifau Rhys Prichard wedi eu diogelu i beri i Rys Thomas gyfeirio yn 1771 at ei fwriad i'w cyhoeddi'n rhannau, 'deg Sit am Swllt hyd ag y parhao; o herwydd na's gallaf ddywedyd pa gymaint a fyddant. ' Ond fel y dengys Ballinger yn ei ysgrif feistrolgar ar lyfryddiaeth y Ficer a gyhoeddwyd yn Y Cymmrodor yn 1900, ni wireddwyd y cynllun, ac yn y Bont-faen y cedwid holl lawysgrifau Prichard ar farwolaeth y cyhoeddwr yn 1790. Yn ôl tystiolaeth William Rees yn argraffiad 1841 o Canwyll y Cymry,

'aethant i feddiant y Parch. Mr. Walters, Llandocha; ac wedi iddo yntau a'i fab farw, pan aeth Cyhoeddydd yr argraphiad presennol i ymofyn am danynt, yn 1833, yr hanes a gafodd, oedd eu bod, ynghylch tri mis cyn hynny, wedi cael eu taflu allan i ochr clawdd . . . a'u dryllio gan blantach!'

Dyna ddiwedd trist llyfrgell yr Hen Ficer, ac mae'n wyrth i un bregeth gael ei chyhoeddi ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn wyneb y fath ddiofalwch a diffyg parch. Ond nid dyna ddiwedd y stori.

Mewn hen gatalog o lawysgrifau Coleg Iesu, Rhydychen, sydd ynghadw yn Llyfrgell y Coleg, ceir cyfeiriad at un o lawysgrifau'r Ficer Prichard sydd bellach wedi ei diogelu yn Llyfrgell Bodley. Fe gynnwys hon, sef Llawysgrif Coleg Iesu 145E, bregeth ar yr ail­enedigaeth yn llaw Rhys Prichard, gwaith yn mynegi'r un nodweddion o arddull goeth ac o ddatblygiad trefnus a'r bregeth a geir yng nghyfrol argraffedig 1802. Ond sut y daeth y trysor hwn i gasgliad Coleg Iesu?

Yn ôl nodyn yn llaw y Parchedig Thomas Bere, — Periglor Buticombe (a brodor o Gastell Llwchwr ym Morgannwg) — ar derfyn y gyfrol, fe'i derbyniodd 'by the person who printed Mr Walter's Dictr. in Cowbridge & who was a curious collr. of Welsh MSS.' Rhys Thomas oedd y cyhoeddwr a'r casglwr, a throsglwyddodd Bere ei gopi i un J. Bowen yn 1814. Mae'n ddirgelwch llwyr sut y bu i'r ddogfen bwysig hon gael ei diogelu yn llyfrgell Coleg Iesu, and serch fod llawysgrifen yr awdur braidd yn aneglur, mae'n llawn haeddu sylw ac astudiaeth gan un o'n hysgolheigion.

Fe erys cwestiwn y dylid ei ofyn. Sut tybed yr aeth llawysgrif o un o bregethau'r Hen Ficer i ddwylo Evan Roberts yn Nhrefeca a'i hargraffu ganddo yno yn 1802?