GWASG Y GASEG ~
J.Meurig Jones Swyddffynnon yn trafod

Sefydlwyd Gwasg y Gaseg gan John Petts (1914-1991) a Brenda Chamberlain (1912-1971) yn Llanllechid, ger Bethesda, Sir Gaernarfon yn y flwyddyn 1934. Ysgythrwyr oedd y ddau. Enwyd y gweisg ar ôl eu caseg 'Polly' a'r llyn cyfagos o'r un enw. Cynhyrchwyd eu printiau mewn du a gwyn ac wedyn aethant ati i liwio'r gwaith â llaw. Roedd y ddau yn ceisio dehongli'r bywyd a'r tirlun yng Nghymru trwy gynhyrchu cyfres o brintiau poblogaidd wedi eu lliwio â llaw yn dangos tirlun dramatig Eryri a hydwythder y bobl gynhenid. Yn wreiddiol roedd y printiau yn cael eu gwerthu am 6 cheiniog and nawr maent yn eitemau gwerthfawr i gasglwyr.

Roedd Cynan yn gasglwr eirias o’u gwaith, yn enwedig eu cardiau Nadolig.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd torrwyd cysylltiad rhyngddynt. Ail-briododd John Petts â Kusha yn 1947 ac ail-sefydlwyd y gweisg yn Llanystumdwy, ger Cricieth, gan ddefnyddio'r un enw. Yn ystod yr amser yma daeth John Petts i adnabod Jonah Jones, a anwyd yn Durham yn 1919; adnabuwyd ef fel cerflunydd a nofelydd. Ymunodd â'r ddau i fod yn gysodwr i'r gweisg. Mae gennyf gasgliad bach o waith y gweisg yn cynnwys y canlynol: