CYSGOD DROS YR HAUL ~ Don Llewelyn yn sylwi

Hanner canrif yn ôl ar Fawrth 12, 1950 fe syrthiodd ein cenedl i ddyfnderoedd anobaith gan ddigwyddiad a dristaodd y byd. Collodd wyth deg eu bywydau ar brynhawn Sul heulog mewn damwain awyren ger Tresigin, pentref cysglyd cyfagos i faes awyr Llandochau ymhlith porfeydd glas Bro Morgannwg. Hyd y diwrnod hwnnw, hon oedd y trychineb fwyaf yn hanes hedfan sifil dros y byd. Yr oedd y 'Tudor V' (awyren fwyaf Prydain) yn cludo cefnogwyr tîm rygbi Cymru yn ôl o Iwerddon lle'r oedd Cymru wedi cipio'r Goron Driphlyg am y tro cyntaf ers 39 o flynyddoedd. Yn wyrthiol, goroesodd tri dyn yr anffawd erchyll, sef, Handel Rogers, a aeth ymlaen i fod yn Llywydd Undeb Rygbi Cymru, Gwyn Anthony, ei frawd-yng­-nghyfraith, a Melville Thomas. Mae'r tri ohonynt, gydol eu hoes, wedi bod yn anfodlon siarad am y trychineb a siglodd y byd. Hyd yn oed ar ôl hanner can mlynedd mae'r tristwch yn parhau, nid yn unig ymysg y teuluoedd ond hefyd ymhlith dilynwyr rygbi sydd yn cofio'r diwrnod arswydus. Mae wedi bod yn anodd i'r tri ei dderbyn, heb sôn am ei ddeall, paham y dewiswyd hwy o'r holl deithwyr i oroesi. Mae eu cydymdeimlad tuag at y teuluoedd a gollodd eu cariadon yn ddiderfyn, yn enwedig oherwydd eu hatgofion melys o'u cyd-deithwyr. Parti hapus a chyfeillgar iawn ydoedd ac, ar ôl cyrraedd yr Ynys Werdd yr oeddynt wedi canu eu ffordd i galonnau'r Gwyddelod.

Y cefnogwyr yn ysu am fyrddio'r awyren

Ar ddydd Gwener, Mawrth 11, bu llawer o berthnasau a chyfeillion y teithwyr yn Llandochau i ddymuno siwrnai dda iddynt. Synnent at faint a mawredd yr awyren a oedd wedi bod yn y newyddion am sawl rheswm. Er gwaethaf ymdrech­ion gwych y 'Tudor' yn ystod gwarchae Berlin, doedd hanes yr awyrennau ddim yn un hapus. Er eu bod wedi datblygu o'r Lancaster llwyddiannus, fe gollwyd dwy ohonynt yn Nhriongl Bermiwda. Nid oedd y ffaith yma yn ddigon i ddarostwng gobeithion y fintai wrth fynd ar fwrdd y Tudor yn Llandochau. Doedd hedfeydd siarter o'r fath ddim yn gyffredin yn 1950, ond talodd y teithwyr £10.5s yr un am eu tocynnau, ac yr oeddynt yn edrych ymlaen yn eiddgar am benwythnos oddi cartref.

Y Gwyddelod oedd cynhalwyr y Goron Driphlyg, ond fe aeth cefnogwyr Cymru yn llu i Ravenhill, Belfast yn y gobaith mawr y byddent yn llwyddo. Aeth y rhan fwyaf o'r cefnogwyr, chwaraewyr a swyddogion i Iwerddon dros fôr a thir. Hedfanodd y teithwyr anffodus yn y Tudor i Ddulyn ac yna teithio i brifddinas y Gogledd ar y bws. Cymru enillodd y gêm o chwe phwynt i dri, ac er bod dathliadau wedi dechrau yn syth ar ôl y gêm, bu rhaid i'r teithwyr awyr ddychwelyd i Ddulyn i baratoi at hedfan yn ôl y diwrnod canlynol.

Gadawodd y Tudor ddinas Dulyn gyda'i llwyth gorfoleddus mewn heulwen braf yn gynnar brynhawn Sul. Yn Llandochau roedd eu teuluoedd a'u ffrindiau yn dechrau ymgynnull i'w croesawu nhw adref. Toc ar ôl tri o'r gloch ymddangosodd y Tudor yn yr wybren ddigwmwl ac, wrth iddi fod dim llai na chan troedfedd o'r tir, trodd i fyny yn sydyn. Dringodd am ryw gant a hanner o droedfeddi cyn troi ar ei hystlys a chwympo mewn cae rhyw dri chanllath o'r llwybr glanio, ac yn beryglus o agos i fythynnod pentref bychan Tresigin. Rhwygwyd y Tudor yn ei hanner wrth daro'r tir. Doedd dim ffrwydrad, dim tân, dim ond dwys ddistawrwydd.

Y ddamwain

Bu farw'r criw o bump a saith deg pedwar o'r teithwyr yn ddisymwth, ac yn eu plith yr oedd saith o fenywod. Yn ffortunus iddynt hwy, roedd Mr Rogers a Mr Anthony yn eistedd tua chefn yr awyren lle cafwyd y lleiaf o wrthdrawiad. Yr hyn a gofiai Mr Thomas olaf cyn iddo gael ei daro'n anymwybodol, oedd mynd i'r tŷ bach.

Pan ddaeth yr awyren i lawr roedd dau frawd, Viv a Jack Newman, yn chwarae pêl-droed gerllaw. Rhuthrasant at yr alanast a chawsant sioc fythgofiadwy wrth gyrraedd y Tudor. Roedd y meirwon yn dal ynghlwm i'w seddau mewn tawelwch annaearol. Yn y man, ymunodd ffermwr, David Thomas, a'r ddau frawd ac i ffwrdd â'r tri yn ddiymdroi am gymorth. Yn y cyfamser roedd Bryn Thomas, cymydog arall o Dresigin, wedi ffonio'r gwasanaethau am gymorth. Roedd yntau hefyd wedi gweld yr awyren yn cwympo.

Wrth ystyried y ffaith nad oedd cyfundrefn mewn bod ar y pryd i gydlynu'r gwasanaethau achub, cyrhaeddodd cymorth yn gyflym. Y prif gyfrifoldeb ar y dechrau oedd gwneud yn siŵr nad oedd y perthnasau yn ymweld â'r safle. Ymhen hanner awr daeth dros ddeugain ambiwlans a sawl brigâd dan o orsaf y fyddin yn Llandochau gyfagos, ac o Sain Tathan dair milltir i ffwrdd. Cafodd rhingyll yr heddlu, Joby Davies, y syniad o dorri bwlch yn y gwrych er mwyn cael mynediad i'r cerbydau brys at y dinistr. Yn ddiweddarach cymerodd y Prif Gwnstabl Joseph Jones gyfrifoldeb am oruchwylio'r gweithrediadau.

Ychydig iawn a allai neb ei wneud dros y meirw, ond fe gludwyd y tri a oroesodd y ddamwain yn ddiymdroi i ysbyty Pen-y-bont ar Ogwr am driniaeth i’w hanafiadau. Cymerwyd oriau i symud y cyrff, ac yn y cyfamser cyrhaeddodd newyddiadurwyr o'r papur lleol, gydag un ohonynt yn nodi'r ffaith fod pob oriawr ar yr awyren wedi stopio yn union am 3.15 – amser y gwrthdrawiad; prawf o sydynrwydd y marwolaethau. Roedd nifer o'r teithwyr wedi bod ar faes y gad yn ystod yr Ail Ryfel Byd a mwy nag un wedi dod yn agos iawn at angau, ond yn y diwedd wedi colli eu bywydau ar daith bleser. Tyfodd sawl newyddiadurwr y diwrnod hwnnw drwy'r profiadau o'r hyn a welson nhw.

Digwyddodd mor sydyn a thawel fel nad oedd pobl a oedd yn byw lai na milltir i ffwrdd yn ymwybodol o'r trychineb hyd nes i'r BBC gyhoeddi hynny ar eu newyddion chwech ar y radio y noson honno.

Drannoeth roedd y stori ar dudalen flaen pob papur dyddiol, gyda'r rheini yn son am y trychineb awyr fwyaf erioed. Trwy'r dydd daeth negeseuon o gydymdeimlad o bob cwr o'r byd. I am shocked.' meddai'r Brenin George VI. Yn y sinemâu dros y dyddiau nesaf roedd 'Pathe' a 'British Movietone' yn dangos newsreels o'r frwydr rygbi ym Melffast a'r adfyd galarus a ddigwyddodd yn Nresigin ger Llandochau. Dangosodd un o'r adroddiadau hyn y cawr o awyren, y 'Brabazon' yn hedfan dros y Tudor, nawr yn bentwr tipiau, fel arwydd o gydymdeimlad.

Prin fod un ardal yn Ne Cymru nad oedd wedi cael ei chyffwrdd â'r trychineb. Doedd dim gwasanaeth cynghori i helpu'r galarwyr yr adeg honno, ond trwy gysylltiad cwlwm cyffredin y byd rygbi, cafodd gofid ei rannu. Er hynny, roedd rhai o'r ergydion roeddynt wedi eu dioddef yn rhy greulon i'w hiachau yn gyfan gwbl. Ystyriwch brofiad Kitty Beavis o Risca, yn aros yn Llandochau am ddychweliad ei gŵr a hithau yn feichiog; hefyd Mrs Jones, gweddw o Abertyleri a gollodd dri o'i phum mab yn y ddamwain. Beth am y teulu Masson o Bontypridd a gollodd dad, mam ac ewythr? Yr oedd gan bron bob pentref ei stori ei hun. 0 Went yn y dwyrain i Gaerfyrddin yn y gorllewin, roedd pobl a oedd wedi hen arfer a dioddef canlyniadau damweiniau dychrynllyd dan ddaear, yn awr yn gorfod wynebu math newydd o drallod. Amddifadwyd cymunedau o athrawon, ynadon, meddygon, ffermwyr, glowyr a thafarnwyr ar wahân i sawl chwaraewr rygbi addawol. Achosodd colled y criw o bump alaru dwys hefyd. Fe gafodd y tri a oroesodd ymweliadau gan aelodau o'r tîm buddugol yn cynnwys Dr. Jack Matthews ac yntau yn canmol eu dewrder a'u hurddas yn wyneb sylw gwasg y byd.

Yn anochel, Cafodd y Tudor V ei chladdu am byth, er gwaethaf y ffaith fod y cwest wedi methu canfod achos y ddamwain. Un awgrym oedd bod dosbarthiad y seddi yn anwastad. Does dim amheuaeth fod seddi ychwanegol wedi eu darparu ar gyfer y daith, a'r rheini wedi eu gwneud o ganfas a fframiau tiwbaidd tebyg i seddi bws, ac wedi eu clipio i'r llawr. Tyb arall oedd fod sedd y peilot wedi llithro yn ôl a hynny wedi achosi iddo golli rheolaeth ar yr awyren. Roedd son hefyd fod teithwyr wedi bod yn dreisgar oherwydd goryfed. Cafodd yr awgrymiadau hyn eu gwadu yn angerddol gan y tri goroesydd. Cytunodd pawb fod y drychineb heb ei hail yn y cyfnod hwnnw.

Yn 1990, ddeugain mlynedd ar ôl y drychineb, dad­orchuddiwyd cofeb barhaol i'r saith deg pump o gefnogwyr a'r criw o bump a fu farw. Mae'n sefyll yng nghanol pentref Tresigin, ddau gan lath o'r man y daeth yr awyren i lawr ac mae'r stori erbyn hyn yn rhan o len ­gwerin y Cymry, wrth ochr y rhestr o drychinebau o hanes hir a phrudd yr ardal. O'r penawdau papur newydd a aeth a'r newyddion trist dros y byd, mae un yn sefyll allan, megis yn y Belfast Herald: 'IN SOUTH WALES TODAY, THERE IS A SHADOW ACROSS THE SUN'.

Dadorchuddio'r gofeb yng nghanol pentref Tresigin gan Handel Rogers o Lanelli a Melville Thomas o Lanharan.
Y gwaith celf gan Ieuan Rees, Rhydaman. (Lluniau gan Dennis Stephens)

Aeth tîm Cymru ymlaen i guro ac ennill y 'Grand Slam' mewn modd a awgrymodd eu bod wedi ei chyflawni er mwyn y gwladgarwyr a gollodd eu bywydau.