CABAN F'EWYRTH TWM ~
Raymond B.Davies yn olrhain yr hanes


Harriet Beecher Stowe (1811-1896)

Tybed a oes rhai ohonoch yn cofio'r hen jôc a welid ar gefn blychau matsys — Pa waith llenyddol a ysgrifennwyd â'r traed?' Yr ateb oedd — 'Caban F'ewyrth Twm', gan 'Mrs. Beecher's Toe'.

1996 oedd canmlwyddiant marwolaeth yr awdures o'r America, Harriet Beecher Stowe; fe'i ganwyd yn Litchfield, Connecticut, yn ferch i offeiriad, Lyman Beecher, yn 1811. Bu ei mam farw pan oedd Harriet yn bedair oed, a'i chwaer hynaf, Catherine, fu'n brif ddylanwad ar fywyd y ferch fach wedi hynny. Yn 1832, dewiswyd y tad yn bennaeth coleg diwinyddol yn Cincinatti, a symudodd y teulu yno; yn 1836, priododd Harriet ag Ellis Stowe, athro yn y coleg hwnnw. Dywedir mai yn Cincinatti y daeth Harriet i gysylltiad â chaethwasiaeth - cyhoeddwyd Uncle Toms Cabin; or, Life Among the Lowly yn gyntaf ar ffurf stori gyfres yng nghylchgrawn The National Era ac yn 1852, fe'i cyhoeddwyd fel llyfr.

Daeth hanes y caethwas Twm, sydd yn rhannol seiliedig fe ddywedir, ar brofiadau Josiah Henson, yn aruthrol o boblogaidd ar unwaith, ac fe'i cyfieithwyd i nifer fawr o ieithoedd — cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg mor gynnar ag 1853 gan Cassell; y cyfieithydd oedd Hugh Williams, gynt golygydd Y Cymro. Hefyd yn y flwyddyn honno, cyhoeddwyd crynodeb o'r nofel gan Joseph Rosser, Abertawe (gweler y rhestr gysylltiedig). Ail gyhoeddwyd y nofel nifer o weithiau a bu gwerthiant da arni yn ystod oes aur cyhoeddi yng Nghymru. Ceir argraffiadau Cymraeg mor ddiweddar ag ugeiniau a thridegau'r ugeinfed ganrif.

Er mai nofel yw Uncle Tom's Cabin, fe'i derbyniwyd ar y pryd fel hanes ffeithiol, a 'does dim dwywaith iddi chwarae rhan allweddol yn y digwyddiadau a arweiniodd at y Rhyfel Cartref yn yr America, yn enwedig o gofio'r sefyllfa wleidyddol ymfflamychol oedd ohoni. Ffieiddid enw Harriet Beecher Stowe yn nhaleithiau'r De; mynnent hwy na roddodd ddarlun cywir o fywyd yno; and hyd yn oed heddiw ledled y byd mae enw Simon Legree'n gyfystyr â chreulondeb cas, tra bod Ewyrth Twm yn esiampl o gariad Cristnogol.

Bu Harriet Beecher Stowe'n llenydda'n helaeth gydol ei bywyd, a bu farw ar Orffennaf 1, 1896 yn Hartford, Connecticut.

Ond paham, meddech chi, mae Harriet Beecher Stowe yn haeddu nodyn yn Y Casglwr? Mae un ffaith ddiddorol i'w hychwanegu at ei hanes. Yng Nghapel Bethesda, eglwys y Methodistiaid yn Llanddewi Brefi, gellir gweld plac yn coffáu bod Mary Roberts, hen fam-gu i Harriet Beecher Stowe yn hanu o'r plwyf hwnnw.

Plac sydd yng Nghapel Bethesda, Llanddewi Brefi (Eglwys Bresbyteraidd Cymru).
Llun : Tim Jones

Yn ei lyfr, Tregaron: historical and antiquarian (Llandysul: Gomerian, 1936), mae'r awdur D.C. Rees yn rhoi ychydig mwy o wybodaeth i ni am Mary Roberts. Mae'n awgrymu bod cysylltiad rhyngddi a theulu Shelby a ymfudodd i'r America o ardal Tregaron hefyd yn y 1700au. Daeth teulu Shelby yn amlwg iawn yno, gan fagu Isaac Shelby (1750-1826), llywodraethwr ('governor') cyntaf Kentucky. Ac os edrychir ar fap o'r wlad heddiw, fe welir enw'r teulu hwnnw ar sawl lle tua'r De a'r Gorllewin o'r Unol Daleithiau, megis Shelby, Shelby County a Shelbyville.

Braidd yn grwydrol fu teulu Shelby yn eu cyfnod cynnar yn America ac mae'n rhwydd dyfalu y bu disgynyddion Mary Roberts hefyd yn byw mewn gwahanol rannau o'r wlad. Hefyd, yn debyg i deulu Evan Shelby o Dregaron, gadawodd disgyn­yddion Mary Roberts eu marc ar fywyd America gan fagu plant disglair iawn, sef Harriet a'i brawd, Henry Ward Beecher (1813-1887). Roedd Henry yn un o ddinasyddion amlycaf ei ddydd — yn bregethwr ac yn arweinydd a dyfodd i fod yn symbol o Brotestaniaeth y cyfnod.

Gwyddom fod Harriet Beecher Stowe yn adnabod teulu Shelby o Kentucky yn bersonol ac mae'r ffaith ei bod wedi enwi un o gymeriadau ei nofel enwog yn 'Colonel Shelby' fel petai'n cadarnhau'r cysylltiad rhwng y teuluoedd.

Braf fyddai meddwl bod syniadau'r hen Gymraes, Mary Roberts, Llanddewi Brefi am degwch a moesoldeb wedi cyfrannu rhywfaint i lunio cymeriad ei gorwyres ac y'u hadlewyrchir yn y nofel a fu'n rhannol fodd i drawsnewid America. 0 Geredigion i Connecticut — dylanwad gwlad Dewi ar y Byd Newydd?

Ar gyfer casglwyr llyfrau Cymraeg, dyma restr o gyfieithiadau o'r gyfrol Uncle Tom's Cabin, wedi eu trefnu yn ôl dyddiad eu cyhoeddi: