IFOR OWEN YN DWYN I GOF BOB OWEN, CROESOR
Bob Owen yn eistedd o flaen ei dŷ, a'r Cnicht yn y cefndir |
Pan ddeuthum o'r Coleg yn 1935 yr oedd swyddi yng Nghymru yn brin iawn gan fod cymaint o Golegau paratoi athrawon ar y pryd. Felly yr oedd llawer iawn o'r darpar athrawon yn ceisio am swyddi yn Lloegr. Cefais innau gynnig swydd mewn ysgol yn Clacton on Sea yn Essex! Cyn imi gytuno i fynd yno daeth Ysgol Croesor yn wag a cheisiais am swydd Prifathro yno. Er gollyngdod mawr fe'i cefais, a llawen oeddwn o anfon i Clacton i wrthod y swydd yno.
Mynd i Groesor oedd un o'r pethau gorau a wneuthum erioed, a chael Gwmni Bob Owen, loan Brothen, Carneddog ac eraill.
Yn Ysgol Ramadeg Tŷ Tan Domen, y Bala, yr oedd yn gas gennyf Hanes am mai hanes rhyfeloedd imperialaidd Lloegr oedd gan mwyaf. Yng Nghroesor cefais agoriad llygad, a deall mor ddiddorol y gall Hanes Lleol fod. Cefais athro digymar yn Bob Owen.
Roedd pobl oedd yn adnabod Bob Owen yn unig oddi wrth ei ysgrifau tanllyd i'r wasg yn ei ystyried yn ŵr chwyrn, didrugaredd, ond i'r rhai oedd yn ei adnabod fel cyfaill roedd yn ŵr mwyn, caredig, a'r dagrau'n agos pan oedd angen cydymdeimlad.
Bu llawer ardal yng Ngogledd Cymru'n elwa ar ei wybodaeth anghygoel o hanes lleol. Cynhaliai gyfresi o ddosbarthiadau yn y pwnc gan deithio'n ôl a blaen ar hyd ac ar led y wlad bob nos o'r wythnos. Roedd yn paratoi'n ofalus, a gwelais ef droeon yn taflu ei nodiadau i rywun a eisteddai yn y rhes flaen! Rhoddai ddarlithoedd unigol yn gyson hefyd. Ni fyddai testun honedig ei ddarlith yn ddim help i ragweld ei chynnwys. Cofiaf ddarlith ganddo oedd wedi ei chyhoeddi fel 'Ffasiynau Merched yr oes o'r blaen', a'r gŵr oedd yn diolch ar y diwedd yn diolch i Bob Owen am ei ddarlith ragorol ar 'John Wesle'. A sôn am John Wesle, cofiaf Bob Owen yn dod i ddarlithio i Wyddelwern, ac yn sydyn ar ganol ei ddarlith yn gweiddi, 'Diolchwch bobol fod gan John Wesle hen gythrel o wraig, — fuase fo ddim wedi mynd hyd y wlad i bregethu ond fod yn dda ganddo fo fynd o gyrraedd yr hen bits!' Cymdeithas gymysg o Bresbyteriaid a Wesleaid oedd yn y gynulleidfa!
Roedd Bob Owen a Charneddog yn bennaf cyfeillion, a meddwl y byd y naill o'r llall. Bûm gyda Bob Owen yn y Carneddi laweroedd o weithiau. Roedd Carneddog yn dipyn o dynnwr coes, ac nid oedd Bob Owen byth yn sicr pan oedd rhywun yn tynnu ei goes. Roedd Bob yn sgwennu colofn i'r Herald, a Charneddog yn sgwennu colofn i'r Genedl. Yn ystod y noson methai Carneddog â pheidio tynnu coes, ac fe ddywedai, 'Be ydi'r rwts yna 'rwyt ti'n anfon i'r Herald y dyddiau yma, Robin,' A dyna hi'n danchwa, a'r ddau yn ffraeo'n benben, nes i Bob golli ei limpin yn lan a dweud, 'Rydw i'n mynd adre o'r d***l lle yma.'
Ymhen rhyw bythefnos, deuai Bob Owen i'n tŷ ni i ofyn a ddeuwn gydag ef i'r Carneddi. 'Rhag ofn i'r hen Garn farw.' Doedd hynny ddim yn beth od i'w ddweud gan mai'r peth cynta ddywedai Carneddog pan aech i'r tŷ fyddai, 'Fydda i ddim yma'n hir wyst ti, 'roedd o yn y ffenest yma neithiwr.' Yr 'O' oedd aderyn corff!
O gofio'r ffrae y tro cynt, byddai yn fy anfon i'n ddiniwed at y tŷ'n gyntaf i edrych sut hwyliau oedd ar Carneddog, ond byddai Carn wedi hen anghofio'r helynt. Ffrae fyddai hi wedyn cyn troi am adre.
Bu i'r Saesnes a aeth i'r Carneddi wedi amser Carneddog ddarganfod cerdyn mawr a 'NO SMOKING' wedi ei sgrifennu'n fras arno. Methai â dirnad beth oedd pwrpas hwnnw mewn lle fel y Carneddi. Cofiaf y cerdyn yn dda. Cyn i Bob Owen ddod i'r tŷ byddai Carneddog yn ei osod ar y silff ben tân. Câi hwyl yn gwylio Bob Owen yn mynd am ei boced i nôl ei Woodbines ac yn eu rhoi'n ôl wrth weld y cerdyn. O'r diwedd ffrwydrai Bob Owen, 'Tynnwch yr hen beth yna i lawr ddyn imi gael smôc.' Ie, dau gyfaill ac edmygedd mawr y naill o'r llall oedd Bob Owen a Charneddog.
Newydd imi fynd i Groesor gofynnodd i mi, 'Wyddoch chi rywbeth am Pentre Tai'n y Cwm?' Gwyddwn, wrth gwrs, gan mai yno yn ucheldir Cefnddwysarn y cefais fy ngeni a'm magu. Dyma Bob Owen yn dangos copi o lythyr i mi gan achwynwr yn hysbysu'r Ustusiaid ei fod wedi dal deugain o Grynwyr yn addoli'n anghyfreithlon ar fuarth fy hen gartref. Er fy mod yn byw mewn ardal lle'r oedd nifer fawr o Grynwyr yn byw ac yn dioddef erledigaeth gynt, ni chlywais air o sôn amdanynt gydol fy nghwrs addysg nes gweld y llythyr hwnnw gan Bob Owen. Y llythyr hwnnw a gychwynnodd fy niddordeb yn hanes y Crynwyr ym Mhenllyn. Roedd ganddo'r ddawn i greu diddordeb a brwdfrydedd dros agweddau ar hanes lleol.
Rwyf eisoes wedi cyfeirio at ei ddawn o godi sgwarnogod yn ei ddarlithoedd a mynd ar eu holau gan anghofio teitl y ddarlith. Cofiaf fod gydag ef mewn cyfarfod i gloi y tymor o ddarlithoedd yn Uwchaled. Roedd cegin y Ceirnioge Mawr yn orlawn, a’r diweddar Dr. Ifor Davies yn gwobrwyo Bob Owen. Sylwais fod gan y Dr. ddarn o linyn rhwng bys a bawd, a bod y llinyn yn diflannu i ganol y dyrfa. Galwyd ar Bob Owen ymlaen, a dyma'r Dr. yn dechrau dirwyn y llinyn i’r golwg, a beth oedd ynghlwm wrtho oedd ysgyfarnog. Yna Dr. Ifor Davies yn ei chyflwyno i Bob Owen fel un o'r amryw ysgyfarnogod a gollodd yn ystod y gaeaf! Chwerthin mawr gan Bob a'r gynulleidfa.
Roedd yn ffyddlon iawn i'r Capel a'r Ysgol Sul. Eisteddai fel blaenor yng righornel y sêt fawr gan borthi'n egnïol pan ddywedai'r pregethwr rywbeth wrth ei fodd. Byddai dadlau yn ei ddosbarth Ysgol Sul. Cofiaf ddadlau wedi codi ynghylch yr hanes am y morfil yn llyncu Jonah. Bob Owen yn amau'r gosodiad a hen ŵr yn dweud wrtho y buasai ef yn credu'r hanes pe bai'n dweud fod Jonah wedi llyncu'r morfil!
Ar wahân i'w gof aruthrol o ffeithiau hanes a'r gwŷr a'u creodd, yr oedd ganddo allu mathemategol anghyffredin hefyd. Yn nyddiau yr hen £.s.d. medrai yn ddidrafferth adio'r tair colofn gyda'i gilydd.
Clywais amryw yn dweud, 'Beth fuasai Bob Owen pe bai wedi cael addysg coleg?' Yr ateb mae'n debyg yw mai cyfrifydd neu reolwr banc a fuasai, a Chymru wedi colli un o'i haneswyr godidocaf.
Gŵyr pawb a fu yn Ael y Bryn am lyfrgell Bob Owen. Llyfrau ym mhob ystafell, hyd yn oed yn y pantri. Cofiaf Bwyllgor Eisteddfod yr Urdd yng Nghorwen yn anfon ato am fenthyg rhai o'i lyfrau yn ymwneud ag Edeirnion ar gyfer yr Arddangosfa. Daeth â'r llythyr i'n tŷ ni mewn tymer fawr. 'Be maen nhw'n feddwl i mi roi fy llyfrau prin ar fyrddau i'r di***aid pregethwrs yna eu dwyn!' Minnau yn teimlo dros Bwyllgor Corwen, yn dweud, 'Gwnewch chi becyn o'r rhai mwyaf gwerthfawr ac mi af â nhw ar fy nghefn ar y moto beic i Gorwen, a'u rhoi yng ngofal John Morgan.' Ar y cychwyn, roedd yn hoffi'r syniad ond dyna floedd, 'Be taset ti'n cael codwm ar y Migneint a'r llyfrau allan yn y glaw drwy'r nos?' Pe bawn yn cael damwain, Bob Owen fyddai'r cyntaf i boeni yn fy nghylch. Deuwyd dros yr anhawster drwy iddo ofyn i'r Cyfarwyddwr Addysg a gawn i ddiwrnod i ffwrdd o'r Ysgol i fynd â'r llyfrau gydag ef ar y trên i Gorwen. Noson gynta'r arddangosfa mynnodd gysgu yn yr Arddangosfa gyda'i lyfrau rhag ofn y di***aid pregethwrs yna!
Cofiaf y tristwch o fynd i'w weld yn ei salwch olaf ac yntau, a fu gyda'r cof aruthrol, yn methu cofio pwy a fu yn ei weld y bore hwnnw.
Un o ragorfreintiau mawr fy mywyd oedd cael deuddeng mlynedd o eistedd wrth draed Bob Owen yng Nghroesor, cyfnod hapus a roddodd imi ddiddordebau newydd rwyf wedi eu dilyn hyd heddiw. Diolch Bob Owen, a diolch Croesor am fy achub rhag Clacton on Sea.
Bob Owen a D.J.Williams, Llnabedr yn cael dadl ar faes Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau 1949 |