EVAN EVANS, IEUAN GLAN GEIRIONYDD 1795-1855
gan Mari Ellis

 

Ieuan Glan Geirionydd

Tueddwn i gysylltu enw Ieuan Glan Geirionydd â'r emynau 'Ar lan Iorddonen ddofn', 'Mae 'nghyfeillion adre'n myned' a 'Mae'm rhodfa is y rhod yn nesu at y nod', a phenillion angladdol o'r fath. Ond mae yna ochr llawer mwy siriol a chwareus i'r emynydd.

Ceir hanes ei fywyd yn y gyfrol Ieuan Glan Geirionydd (1862) a olygwyd gan W.S. Roberts, Gwilym Cowlyd, ei nai, mab ei chwaer.

Yn dilyn ei orchestion yn eisteddfod daleithiol fawreddog Wrecsam, 1820 'mabwysiadwŷd' Evan Evans gan y personiaid a ofalai am yr eisteddfod; sefydlwyd cronfa i dalu am addysg briodol iddo a chytunodd yntau i'w gyflwyno ei hunan am urddau eglwysig. Yr hyn a ysgogodd y personiaid i weithredu fel hyn oedd eu gofal a'u pryder dros Gymreigrwydd yr Eglwys sefydledig yng Nghymru. Gwelent yn y Cymro ifanc hoffus a dawnus hwn un a fyddai'n ychwanegiad gwerth­fawr at y criw bychan a orfodwyd i frwydro'n barhaus dros safle'r Gymraeg.

Anfonwyd Evan Evans i Aberriw at y Parch Thomas Richards a gadwai ysgol i baratoi dynion ifanc ar gyfer y colegau. Ni allai fod wedi cael lle gwell i gychwyn ar ei yrfa. Nid yn unig yr oedd Thomas Richards yn athro tan gamp, ond yr oedd hefyd yn ŵr diwylliedig o ddiddordebau eang ac yn un o deulu clos, croesawus y Parch Thomas Richards, Darowen. Cyn pen dim yr oedd cynhyrchion awenyddol Evan Evans yn ymddangos yng ngholofnau'r Gwyliedydd uwchben yr enw barddol Ieuan Glan Geirionydd. Rhoes ei athro ef ar waith traethawd ar Wladgarwch i gystadleuaeth a osodwyd gan Gymdeithas y Cymmrodorion yn Llundain, ac fe'i henillodd.

Jane Richards, chwaer yr athro a gadwai dy iddo a gofalu am gysuron y myfyrwyr. Pan oedd hi gartref yn Narowen ym mis Chwefror 1822 anfonodd Ieuan lythyr chwareus ati wedi'i gyfeirio at Sian Rhiscard. Dywedodd ei fod yn darllen Llythyrau Ovid, . . . yn y rhai y mae efe yn taer erfyn i rai ag oedd wedi gadael eu gwlad ddychwelyd yn ôl ... yr wyf yn gordybio fod yn llawn bryd i ryw Ofydd eto drosto ei hun a thros eraill hefyd gyfansoddi llythyr hirfaith i'ch ymofyn chwithau yn ôl i'r Berriw ...

Gwahoddwyd Ieuan i dreulio Gwyliau'r Pasg 1822 yn Ficerdy Darowen, a daeth ei gyd­ brydydd William Jones, Cawrdaf yno o Ddolgellau a hefyd Ieuan Carn Dochan, cyfaill i'r teulu. Yr oedd Mair Richards, y ferch hynaf, yn delynores, fel Ieuan yntau, ac yn y cwmni diddan hwn bu Mair yn canu'r delyn wrth i'r beirdd lunio englynion ar y cyd, sef cyfansoddi bob yn ail linell, a chanu'n fyrfyfyr ar bob math o destunau, gwamal a difrifol; morynion y Ficerdy ac Ifan ab Sion, telynor dall o'r pentref. Dyma fel y canodd Ieuan i'w delyn:

Gwahoddwyd Ieuan eto i Ddarowen i dreulio Gwyliau'r Nadolig 1822 a'r tro hwn daeth Harri Griffith, cyd-efrydydd gydag ef. Dyna pryd y cyfansoddodd y delyneg Caniad y gog i Arfon. Cofnododd Mair ei bod hi'n canu'r alaw Serch Hudol ar y delyn tra bu ef yn cyfansoddi'r geiriau. Llythyr a anfonodd Ieuan i Ddarowen ymhen y flwyddyn yw'r unig lygad dyst sydd gennym o'r paratoi ar gyfer gwasanaeth y Plygain yn Narowen. Mae'n sôn amdano'i hun yn ' . . . uno â'r air gweddus ac yn dyrchafu fy llef gyda'r lliaws'. Ond cyn mynd i'r eglwys, bu ymarfer yn y Ficerdy a Mair 'mewn gŵn gwyn yn blaenori'r côr', ac yn ceisio cadw trefn ar y bechgyn a'r genethod. Am fod y gwasanaeth yn dechrau am 3 o'r gloch y bore, nid oedd hi'n werth mynd i'r gwely y noson cynt. Ceisiai'r ficer a'i wraig gymryd cyntun o boptu'r tân ond yn cael eu byddaru gan y sŵn. Er mawr ddifyrrwch i Ieuan, cysgu ar ei draed yr oedd Harri Griffith, tra bo'r chwiorydd, Jane ac Eliza, yn cynnig te i bawb er mwyn eu cadw'n effro. Hwyrach nad oedd y Plygain yn fêl i gyd.

Gwahoddwyd Ieuan i Geri i fwrw'r Sulgwyn 1823 gan y Parch John Jenkins, Ifor Ceri. Yr oedd yntau'n gerddor ac yn gasglwr alawon gwerin. Yn ystod yr haf aeth Ieuan i Ficerdy Caerwys lle trigai Richard Richards, brawd hynaf ei athro a thrysorydd y Gronfa, ac oddi yno aeth i weld y Parch John Jones, ficer Rhuddlan, un arall o'i noddwyr. Dengys yr ymweliadau hyn y diddordeb ymarferol a gymerai'r personiaid llengar wrth hyrwyddo gyrfa Ieuan. Ym mhob un o'r ficerdai yr oedd llyfrgell dda lle gallai ehangu ei wybodaeth. Rhaid peidio â bychanu dylanwad grasusau bywyd gwâr ar ddyn a faged yn dlawd, cafodd gyfle i gyfranogi o'r 'sweets of a family circle' chwedl John Blackwell, Alun, a brofodd yr un cymwynasau yn nes ymlaen.

I Goleg St. Bees, ar arfordir gogledd orllewin Lloegr yr aeth Ieuan yr Hydref hwnnw, ac o'i lythyrau at ei hen athro ac at Richard Richards, y cawn ei hanes yno. Aeth o Fangor i Lerpwl mewn agerlong, ac oddi yno i Whitehaven. Nid oedd yn wlad ddeniadol i un a faged yn Nyffryn Conwy ac a fu'n byw yn un o rannau hyfrytaf sir Drefaldwyn. 'Cold, dreary country', 'it rains incessantly', yw rhai o'i sylwadau. Am ei astudiaethau synhwyrai fod ei wybodaeth o ddiwinyddiaeth cystal â neb yn y coleg, ond ofnai ymollwng i ddadlau oherwydd na theimlai'n gartrefol yn siarad Saesneg. I un a sgrifennodd draethawd ar Brynedigaeth Neillduol mewn dadl gydag awdur Prynedigaeth Gyffredinol pan oedd yng Nghaer, heblaw cyfieithu pedair pregeth ar y pwnc, ymddangosai dadleuon myfyrwyr St. Bees fel chwarae plant.

'Armin tanbaid uchel erwin ydyw y Dr.' meddai wrth ei hen athro am Dr. Ainger, ei Brifathro, ond gwelai Ieuan y gallai'n hawdd ei blesio a chuddio ei wir deimladau, 'He is very easy to be deceived.'

Fel un dibynnol ar y gronfa am ei gynhaliaeth casbeth gan Ieuan oedd crefu am ragor o arian gan Richard Richards; rhoddai gyfrif am y cwbwl a wariai am lety a bwyd efo'i gyd­letywyr bwyteig chwedl yntau. Cwynai fod ei ddillad yn ddi­raen, ac yntau'n byw yng nghanol toffs. Edrychai Mrs Ainger yn gam arno. Aeth trwy ei arholiadau'n llwyddiannus, ond ni chafodd addewid y câi ei ordeinio.

Er iddo gael ei drin yn warthus gan rai o urddasolion yr eglwys a dioddef oddi wrth afiechyd ar hyd ei oes, ni cheir dim chwerwder yng ngweithiau Ieuan. Daliodd i gystadlu ac ennill weithiau, a gwelir ei gerddi yn y Gwyliedydd. Yn Ionawr 1833, fodd bynnag, cychwynnodd olygu y Gwladgarwr, cylchgrawn a amcanai at roddi gwybodaeth gyffredinol i Gymry uniaith. Yn un o'i rifynnau y gwelir ei ysgrif ddychanol ar eisteddfodau. Mae'n adrodd am ymwelydd o Loegr yn mynd i eisteddfod pan oedd cystadleuaeth llunio englyn ymlaen. Adroddai pob ymgeisydd ei englyn a sudd baco'n llifo o'u gweflau a phob 'englyn' yn echrydus. Ond cymeradwyai'r gynulleidfa trwy guro dwylo a thraed. Pan gafwyd englyn eithaf derbyniol yn nhyb yr ymwelydd, ni chafodd yr ymgeisydd ddim cymeradwyaeth, dim ond bloeddiadau 'gormod o odlau', `twyll bengoll'. Testun yr englyn oedd Yr Enfys a'r drydedd linell yn cael canmoliaeth arbennig,

Aeth yr ymwelydd adre'n benisel wedi gweld mai 'sŵn yn lle sylwedd' oedd yn mynd â hi yn eisteddfodau Cymru.

Cytunai Ieuan â Gwallter Mechain bod mân reolau'r pedwar mesur ar hugain yn llyffethair ar yr Awen. Dyna a gredai Gwenffrwd yntau, a'r hen Archddiacon Thomas Beynon o'i flaen.

Cafodd Ieuan ei oruchafiaeth yn eisteddfod Rhuddlan 1850 pan gurodd ei gerdd rydd Yr Atgyfodiad awdl gynganeddol Caledfryn. 0 hynny ymlaen, dwy gystadleuaeth ar wahân fu pryddest ac awdl. Diolch i Ieuan.