CASGLU AWTOMOBILIA gan Graham Thomas

Y mae diddordeb mewn hen geir wedi bod gen i ers pan oeddwn yn bymtheng mlwydd oed. Eleni byddaf yn cyrraedd fy mhensiwn. Yn sgil y diddordeb hwn rwyf, fel llawer un arall, wedi magu diddordeb mewn beth a elwir yn automobilia. Hynny yw, rhywbeth a gafodd ei gynhyrchu tuag at foduro yn gyffredinol.

Fe fyddech yn synnu beth mae rhai pobl yn eu casglu. Dillad arbennig, yn enwedig rhai cyn y rhyfel cyntaf. Tŵls, llawer o sbaners gydag enwau y gwneuthurwyr ceir arnynt, sef Austin, Ford, Rolls Royce a.y.y.b. Eraill yn casglu bwlbiau oedd yn cael eu goleuo ar ben pympiau petrol, e.e. National Benzole, Ethyl, Russian Petroleum. Mae'r rhain yn ddrud, o wyth deg punt yr un i fyny. Mae pethau lliwgar fel hysbysebion enamel cwmnïau petrol ac olew yn boblogaidd iawn, ac oherwydd hyn yn hel prisiau da. Llyfrau a chylchgronau wrth gwrs - mae cymaint wedi cael ei ysgrifennu ar y pwnc ers y dyddiau cynnar, tua 1895. Erbyn hyn mae llyfrau yn cael eu cyhoeddi ar y pwnc 'Automobilia'.

Fy hoff ddileit yn llenyddiaeth moduro ydyw catalogau gwerthu y gwneuthurwyr, yn enwedig Austin gan fy mod wedi bod yn berchen ar hanner dwsin o'r ceir dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf. Hefyd, rwy'n casglu yr Austin Magazine, oedd yn fisol, ond mae'r rhain yn anodd iawn i'w darganfod.

Rhywbeth rwy'n ymffrostio ynddo ydyw fy nghasgliad o Practical Motorist cyn y rhyfel. Mae gen i gasgliad llawn o 312 copi o 12fed Mai 1934 hyd y diwethaf yn Hydref 1939. Mi ddaeth allan fel cyfrol un ym Mai 1954 ond nid oes gen i gymaint o ddiddordeb yn y rhain.

Alvis oedd yr hen gar a dynnodd fy llygad gyntaf pan oeddwn yn bymtheg oed. Cafodd y cwmni ei ddechrau gan Gymro, T.G. John o Ddoc Penfro. Ni phrynais yr un gan fod pris y model rwy'n hoffi, y 12/50, wedi bod erioed yn rhy ddrud i'm poced. Unwaith wedi cytuno i brynu 1949 Alvis TA14, a'i dynnu adref chwe milltir, darganfyddais fod crac ar ochr y peiriant. Yr oedd y rhif cofrestru yn dechrau gyda'r llythrennau DUD.

Prynais fy nghar cyntaf pan oeddwn yng Ngholeg Abertawe yn 1959. Roedd y car 1934 Singer Le Mans 9 h.p. mor hen â fi. Sportscar yn debyg i M.G. ydoedd. Y car hwn oedd y cyntaf yn ein stryd ni yn Llanelli ers cyn y rhyfel. Yn anffodus, nid oedd llawer o neb yr oeddwn yn ei adnabod gyda phrawf gyrru ac o'r braidd y cefais y siawns o ddefnyddio'r platiau 'L' fel dysgwr ar y Singer.

Ymunais â'r Singer Owners Club a chael bathodyn crand i'w roi ar flaen y car. Torrais y Singer i fyny yn 1961 gan fod tystysgrif prawf yr MOT wedi dechrau. Anfonais lawer o'r darnau i Inverness a chostau'r rheilffordd yn fwy na'r naw punt a gefais am y darnau. Cefais saith swllt a chwe cheiniog gan sipsiwn a oedd yn casglu'r corff alwminiwm am scrap!

Mi ymunais â'r Alvis 12/50 Register, ac fel aelod cefais y bathodyn sydd yn dangos ysgyfarnog — hwn ydyw mascot y 12/50.

Mascots oedd darnau nicel, pres neu bres a chrôm oedd yn cael eu dangos ar flaen y car ar ben y radiator. Rhain efallai ydyw y pethau mwyaf atyniadol i'w casglu yn yr automobilia gan eu bod nhw'n tynnu at ei gilydd gelf a moduro. Yr enghraifft fwyaf enwog o'r rhain ydyw'r 'Silver Lady' sydd ar Rolls Royce. Mae'r rhain yn ddigon drud, ond beth am rywbeth mor anghyffredin a chwibon (Hispano Suisa) neu wennol ddu (Swift) neu ferch yn sgïo (Riley).

Bathodynnau y Singer a'r Alvis felly oedd dechreuad y casgliad. Nawr mae bron i gant o fathodynnau yn fy nghasgliad. Byddaf yn prynu mewn 'autojumbles' - sêl o ddarnau yn ymwneud â moduro a chludiant o bob math. Yr un mwyaf o'r rhain ydyw Beaulieu ger Southampton ym mis Medi lle mae tua dwy fil o stondinau. Pan ddechreuais gasglu rhyw bum mlynedd ar hugain yn ôl, yr oedd y bathodynnau yn costio tair neu bedair punt yr un, tua'r un gost â chyfres Dinky Models of Yesteryear. Mae miloedd wedi casglu'r rhain ond nid ydyw eu pris wedi codi llawer. Ar y llaw arall mae y bathodynnau yn werth ugain punt yr un neu fwy. Rwy'n trio ehangu fy nghasgliad bach o glybiau Cymru ond anodd yw eu darganfod gan mai ychydig o glybiau sydd/oedd ar gael yng Nghymru. Rhai o'r clybiau nad ydynt gennyf ydyw Bridgend, Pontypridd a South Wales Automobile Club.

Rhyw ddydd byddaf yn gwneud ymdrech i gael hanes clybiau moduro Cymru. Rwy'n gwybod fod y Welsh Counties Car Club' sydd yn cwrdd yn agos i Gaerdydd yn hanner can mlwydd oed eleni, wedi ei sefydlu ym mis Medi 1949.

Maent hwy yn ralio yn debyg i'r hyn mae Gwyndaf Evans o Ddinas Mawddwy yn ei wneud. Mae'n debyg fod clwb Caerfyrddin wedi dechrau yn 1920 a gorffen yn 1961. Motorbeicio oedd eu prif ddiddordeb ac yr oeddynt yn cynnal rasys ar dywod Pendine bob dydd Gwener y Groglith a dydd Llun Canol Haf.

Yn y deng mlynedd ar hugain diwethaf mae clybiau wedi eu sefydlu sydd yn ymddiddori mewn hen foduron, e.e. Swansea Historic Vehicle Register, South Wales Classic Car Club, Gwent Classic Car Club a Pembrokeshire Vintage Vehicle Club. Y mae yr un cynnydd i'w weld yn Lloegr, yr Alban, Iwerddon, yr Almaen a'r Iseldiroedd.

Mae llawer o fathodynnau plastig ar gael ond nid wyf yn casglu'r rhain. Mae llawer o rai AA ac RAC ar gael hefyd ond y rhai mwyaf gwerthfawr o'r rhain ydyw'r rhai pres (heb y melyn a'r glas) cyn y flwyddyn 1930.

I gloi byddaf yn dra diolchgar os gall unrhyw un o ddarllenwyr Y Casglwr helpu i ychwanegu at y casgliadau sydd gennyf, sef bathodynnau, catalogau neu gylchgrawn misol The Austin Magazine cyn y rhyfel.

Rwyf newydd brynu yn Beaulieu eleni fathodyn S.W.A.C. (South Wales Automobile Club) y 'Welsh Rally 1936'. Gan mai dim ond cant ac ugain o geir oedd yn y rali hon, mae'r cyfle i'w prynu yn brin iawn.

Bathodynau rhai o glwbiau Cymru (llun : Robin Griffith)