TELYNORION LLANNERCH-Y-MEDD
Teulu'r Britannia ac eraill
gan Huw Roberts a Llio Rhydderch

Canolbwynt y llyfr hwn yw Telynorion Llannerch-y-medd Môn, neu'n fwy penodol, Teulu'r Britannia y daethpwyd i adnabod eu haelwyd Tafarn y Britannia fel Cartre'r Delyn. Brigodd y teulu hwn i amlygrwydd yn y 19eg ganrif a daethant yn enwog fel telynorion drwy Gymru gyfan a thu hwnt. Ni fu un teulu arall â chymaint o'i aelodau yn delynorion a gyd­oesai â'i gilydd ym Môn na chynt na chwedyn a thros y blynyddoedd tyfodd rhyw lun ar lên gwerin o'u hamgylch.

O ran hanes traddodiad y delyn ym Môn a'r modd y llwyddwyd i'w gynnal a'i drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth mae'r teulu hwn yn allweddol gan eu bod yn disgyn yn delynorion yn llinachol. Canfyddir ym Môn draddodiad sy'n ymestyn yn ôl i ganol y 14eg ganrif ac mae'r traddodiad hwnnw'n parhau hyd heddiw. Telynorion Llannerch-y-medd yn anad neb a sicrhaodd y parhad hwn.

Roeddent i gyd yn gymeriadau arbennig lawn a phob un â stori ddiddorol yn hanes eu bywydau. Owen Jones, Telynor Cybi, a'i frawd, John Jones, Telynor Môn, oedd y ddau batriarch a'r ddau yn dafarnwyr. Roedd cysylltiad y delyn a'r dafarn yn ddarlun digon cyffredin o'r cyfnod drwy Gymru gyfan a hyd heddiw gwelir yr enw 'Harp Inn' neu 'The Harp' ar dafarndai yng nghymoedd y De, yn y Gorllewin, y Canolbarth a'r Gogledd. Yn y dafarn y cafwyd miri a hwyl, canu a dawnsio, a'r delyn yn ganolbwynt i'r cyfan.
John Jones, Telynor Mon (hunan bortread mewn olew)
o Gasgliad Idwal Owen, Amlwch

Cadwai Owen Jones, Telynor Cybi, Dafarn Penrhyn Marchog, Porth-y-felin, Caergybi a chadwai John Jones, Telynor Môn, Dafarn y Britannia, Llannerch-y-medd. Owen Jones oedd yr hynaf o'r ddau frawd ac ef oedd yr hyfforddwr ar y delyn. Mae'r bennod am ei ferch, Ellen Jane Jones, Telynores Cybi, yn llawn rhamant. Adroddir am yr amgylchiadau a'i denodd i America ac fel y daeth i enwogrwydd fel telynores ifanc iawn ond hefyd bu dyddiau o dristwch yn ei bywyd.

Roedd John Jones, Telynor Môn, yn ddeifiwr ac yn beintiwr ac yn dipyn o longwr, yn ŵr annwyl ac roedd parch mawr tuag ato yn ei fro. Ganwyd tri o feibion yn delynorion o fri iddo, yn hynaf a'r enwocaf oedd Owen Jones, Telynor Seiriol. Y mwyaf lliwgar ohonynt oedd Robert Jones, Bob Britannia, Y Telynor Cymreig, a'r trydydd oedd William Jones, Telynor Gwalia.

Er eu bod yn gymeriadau ffraeth roeddent hefyd yn delynorion a ymddangosodd ar lwyfannau ochr yn ochr â mawrion y genedl ac roedd eu haelwyd yn y Britannia yn gyrchfan i fawrion byd cerdd. Galwyd am eu gwasanaeth fel telynorion o flaen aelodau o'r Teulu Brenhinol ar sawl achlysur a gwahoddwyd hwynt i wasanaethu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol a buont yn telynori mewn cymdeithasau a chyngherddau ymhell ac agos yn ogystal ag ennill prif wobrau eisteddfodau lleol a chenedlaethol.

Fel y soniwyd, Owen Jones, Telynor Seiriol, oedd yr enwocaf a chafodd gyfle i astudio'r delyn yn y Guildhall yn Llundain. Buasai wedi bod yn cyd-chwarae â John Thomas, Pencerdd Gwalia, yn Ffair y Byd Chicago 1893 oni bai ei fod wedi'i daro'n wael ar y funud olaf. Roedd ei gysylltiad â Llys Llanofer ac Arglwyddes Llanofer, Gwenynen Gwent, yn bwysig, oherwydd bod y fangre honno yn amlwg am ddiogelu a dyrchafu'r delyn deires, a galwyd am ei wasanaeth yntau fel hyfforddwr yno. Disgrifir ef fel gŵr golygus yr olwg ac fel tipyn o 'ladies' man' a chymerodd yr Arglwyddes ffansi tuag ato a rhoddodd fodrwy aur yn anrheg iddo.
Owen Jones (Telynor Seiriol) yn canu ei delyn yng Ngorsedd Eisteddfod
Genedlaethol Bangor 1902 (Casgliad Idwal Owen, Amlwch)

Roedd William, Telynor Gwalia, a gadwai Dafarn y Marcwis, Rhos-y-bol, yn fwy cartrefol ei natur er iddo yntau gyflawni gwaith pwysig fel telynor gan ennill prif wobrau yn y brifwyl a gwasanaethu ar lwyfannau eisteddfodol. Lladdwyd ef yn ŵr ifanc mewn damwain ond cydiodd ei ferch, Maggie Ann, a'i fab Ap Gwalia yn y delyn a diogelu ei pharhad o fewn y teulu.

Y Telynor Cymreig, Robert Thomas, neu Bob Britannia, fel y'i gelwid oedd y telynor arall. Ef oedd yr un a ddisgrifid gan Nansi Richards, Telynores Maldwyn, fel 'gwir artist'. Deryn brith ydoedd, yn hoff o'i beint a bu raid i Nansi Richards lenwi bwlch i gyfeilio yn ei le mewn un eisteddfod gan ei fod wedi cael 'un dros yr wyth'. Serch hynny nid oedd neb a allai ei guro wrth y delyn hyd yn oed os cafodd 'un dros yr wyth'. Mewn sawl eisteddfod bu'n rhaid rhoi cymorth iddo i esgyn i'r llwyfan a'i roi i eistedd wrth y delyn - ond unwaith y cyffyrddai â'r tannau gwefreiddiai ei gynulleidfa. Daeth Nansi Richards yn ail iddo mewn un eisteddfod.

Yn rhyfedd nid y tad, Telynor Môn, fu'n gyfrifol am hyfforddi'r meibion hyn. Disgynnodd y dasg honno ar ysgwyddau eu hewythr, Owen Jones, Telynor Cybi. Ymhen amser, ac ar ôl marw ei frawd, William, Robert Jones, Y Telynor Cymreig, fu'n hyfforddi, nid yn unig ei nith a'i nai ond nifer eraill o delynorion. Ef gadwodd y fflam ynghynn yn Nhafarn y Britannia ar ôl ei dad Telynor Môn. Roedd yntau a'i frawd Telynor Seiriol wedi profi dyddiau difyr ar eu haelwyd gyda thalentau'r fro yn ymhyfrydu yn y canu cylch yn arbennig a hwythau yn 'tynnu mêl o'r tannau mân' wrth gyfeilio i ddatgeiniaid enwog fel Ehedydd Môn, Ap Ehedydd a'u henwau hwythau hefyd yn adnabyddus ar lwyfannau ledled Cymru. Teilwriaid oedd Owen Jones a Robert Jones wrth eu gwaith beunyddiol ond yn aml yn eu gweithdy y drws nesaf i'r Britannia clywid sŵn y delyn a'r ffliwt hefyd pan fyddent wedi diflasu ar wnïo a thorri'r brethyn. Er i Maggie Ann ac Ap Gwalia ddisgrifio Bob Britannia, neu Yncl Bob, fel gŵr annwyl, yr oedd hefyd yn dipyn o feistr arnynt fel hyfforddwr ac yn mynnu'r safon uchaf posibl ganddynt ac ar adegau felly gallai fod yn wahanol iawn ei dymer.

Parhaodd y brawd a'r chwaer i ddilyn yn ôl troed y teulu yn cyfeilio ar lwyfannau eisteddfodol. Daliai Maggie Ann i gynnal yr hen drefn yn Nhafarn y Marcwis, Rhos-y-bol, drwy ganu'r delyn a chyfeilio i'r canu penillion hwyliog. A dyna sut y daeth Idwal Owen ei mab-yng-nghyfraith, dan ddylanwad a swyn y delyn ac ef sy'n gyfrifol am drosglwyddo'r hyn a ddysgodd ganddi i Llio Rhydderch a hithau yn ei thro yn sicrhau parhad y llinach hon ym Môn trwy ei disgyblion hithau y Telynwyr ac wrth gwrs ei chyd-awdur Huw Roberts a'i deulu yntau yn hanu o Lannerch-y­medd. Mae'r fflam felly yn dal ynghynn ac ysbryd yr hen delynorion yn dal yn fyw ym Môn. Dyma a ysgogodd y ddau awdur i fynd ati i gofnodi'r hanes a geir rhwng cloriau'r llyfr.
Maggie Ann Jones yn ferch ifanc 14oed yn canu telyn bedal ei thad,
Telynor Gwalia (Casgliad Idwal Owen, Amlwch - ei mab yng nghyfraith)

Mae'n cynnwys dros gant o luniau, ac mae CD i gyd-fynd â'r llyfr a fydd yn cynnwys archif o leisiau Maggie Ann ac Idwal Owen a rhai o fersiynau Llannerch-y-medd o'n halawon telyn. Gan fod y cynnwys yn gyfan gwbl ddwyieithog dylai apelio at gynulleidfa eang nid yn unig yng Nghymru ond ledled y byd.

Lansir y llyfr ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ym Mhabell Cyngor Sir Ynys Môn gan mai hwy a estynnodd wahoddiad i'r awduron i'w lunio.