MORRIS PARRY CAER gan Rhys Mwyn

 

Wrth deithio am faes Y Genedlaethol ar draws Ynys Môn o'r Borth, ac wedi taro Four Crosses, Pedair Croeslon a Merddyn Groes, y capel cynta a welir ydy Capel Penygamedd. Saif ar yr ochr dde i'r briffordd am Bentraeth, Benllech ac Amlwch, rhyw dair milltir o'r Borth. Mae'r olygfa wedi denu sylw Kyffin Williams. Wedi mynd heibio i'r capel daw bwthyn i'r golwg - Y Groeslon ydy ei enw, Groeslon Miss Parry ar lafar gwlad - bwthyn sy wedi cael ei arlunio gan Gwilym Prichard fel 'Bwthyn Sir Fôn'.

Yma yn 1858 y ganwyd Morris Parry, chweched plentyn Griffith a Catherine Parry. Ef oedd trydydd mab y pâr a briododd 22 Ebrill 1848 yn eglwys Llanfair Mathafarn Eithaf. Daethant i fyw i ardal Penygarnedd yn syth wedyn i Rhos Owen Bach, lle nad yw ar gael bellach, am ychydig fisoedd cyn symud i'r Groeslon a byw yno ar hyd eu hoes. Addysgwyd Morris Parry yn Ysgol Frytanaidd Pentraeth - ceir hanes ei sefydlu yn y llyfr 'Trem yn Ôl', atgofion Y Parchedig William Roberts, Y Gorslwyd, Rhos-y-bol, Ynys Môn, 1929.

Yno daeth dan ddylanwad yr ysgolfeistr ieuanc, ac un cyntaf yr ysgol, Humphrey Owen. Eraill a ddaeth dan ei ddylanwad yn ôl y Parchedig Robert Hughes, Y Fali, Ynys Môn yn Enwogion Môn 1850-1912 oedd 'Parchedigion John Owen, Y Parc, Ynys Môn, Morris Owen Jones, ei frawd, W.E. Williams, Ty'n Mynydd a W. Jones, sy'n llywydd ar un o'n llongau yn Awstralia.'

Roedd y teulu yn gefnogol iawn i'r Achos ym Mhenygarnedd. 'Yn llanc gwalltddu pedair ar ddeg neu bymtheg oed' symudodd i Gaer i weithio yn swyddfa gorsaf y rheilffordd - Great Western Railway. Gweithiodd yn gydwybodol yno gan ddringo i swydd gyfrifol gyda'r cwmni ac ennill parch mawr ymysg ei gydweithwyr am ei gonsyrn drostynt.

'Yr oedd yn y swyddfa gydag ef nifer o ddynion ieuanc ac yr oedd yn feistr heb ei fath. Efe oedd yn gwneud ac yn gyfrifol am y time-tables' gwaith pwysig. 'Yr oedd gan lawer bachgen ifanc le i ddiolch iddo am eu cynorthwyo i gael gwaith ar y rheilffordd,' meddai Mrs Edward Davies, Caer, wrthyf mis Awst 1974.

Ymddeolodd o'i waith mis Tachwedd 1922, wedi treulio y cyfan o'i oes gweithio, ond am ddwy flynedd yn dilyn ei waith yn Yr Amwythig, yng Nghaer. Arhosodd yng Nghaer am weddill ei oes ond gan gadw’r cysylltiad agos â bro ei febyd. Bu’n ŵr gweddw am y rhan fwyaf o’i oes. Priododd â Leticia Eleanor, merch Mr a Mrs Griffith Morris, Caer 27 Awst 1889. Byr fu eu bywyd priodasol canys bu farw Mrs Parry 24 Tachwedd 1897. '... Gwyddai pan briododd fod clefyd y darfodedigaeth arni ond ni wnai hynny ddim gwahaniaeth lle yr oedd ef yn y cwestiwn,' meddai perthynas iddo.

Bu Morris Parry farw 25 Mawrth 1943 ac fe'i claddwyd gyda'i briod yn hen fynwent Caer.

Gŵr diwylliedig iawn oedd ef. Yn ôl W.C.R. yn Y Cymro 2 Rhagfyr 1939 mewn adroddiad, 'Cymro Selog Caer' dywedodd fod Morris Parry yn llenor gwych, yn fardd o fri, yn gerddor deallgar a phleser oedd clywed ei lais yn dechrau'r gân yn absenoldeb y dechreuwr canu swyddogol. Gŵr swil tawedog, caredig a bonheddig a oedd ar ben ei ddigon yn sgwrsio'n ddeallus a hoffus am ardal Penygarnedd ac am ei ddinas fabwysiedig, Caer. Fe âi ef i'w gragen wrth glywed mân siarad dibwrpas. Roedd yn ŵr egwyddorol a'i onestrwydd yn esiampl. Daeth y nodwedd gref hon o’i gymeriad i’r amlwg y nos Sul honno y dewiswyd ef, am y tro cyntaf yn flaenor yn Eglwys St John Street, Caer.

'Y Parchedig Francis Jones, Abergele, oedd y pregethwr – gŵr duwiolfrydig a braidd yn llym. Wedi’r pleidleisio cyhoeddwyd enw Morris Parry, cododd yntau ar ei draed a'i wyneb yn wyn fel y galchen a than deimlad dwys dywedodd na allai dderbyn y swydd oherwydd nad oedd yn glir ei feddwl ynglŷn â rhyw athrawiaeth oedd yn ymwneud â pherson ein Gwaredwr, ac esboniodd ei anawsterau. Yna fe gododd y Parchedig Francis Jones a golwg ddifrifol arno a dywedodd fod yn amheus ganddo a oedd Mr Parry yn gymwys i fod yn aelod heb sôn am fod yn flaenor. Teimlai pawb oedd yn bresennol ac yn adnabod Mr Parry fod hyn yn ormodiaith.' Cofiodd Mrs Edward Davies.

Ychwanegodd perthynas agos iddo, Miss Mary Roberts, Amlwch, Ynys Môn:

'...Tueddai at fod yn Undodwr ar un amser o'i fywyd, ac oherwydd hynny yr oedd yn llawer rhy onest i dderbyn y swydd o flaenor gyda'r Hen Gorff - hyd oni allai dderbyn daliadau’r enwad – ond er llawenydd i bawb daeth y dydd hwnnw.’

Yn 1922 y dewiswyd ef yn flaenor am y trydydd tro. Bu tu hwnt o ffyddlon i’w swydd.

Tair prif ffrwd ei ddiddordebau oedd ei gapel, ei ddinas a'i lyfrau. I bob cangen o weithgarwch Eglwys St John Street bu'n ffyddlon tu hwnt gan ei gwasanaethu yn bwyllog ac urddasol. 'Ni fyddai unrhyw seiat yn gyflawn heb air ganddo ef a dygai allan o'i drysorau bethau newydd a hen.' Bu'n weithgar hefyd mewn cymdeithasau perthnasol fel yr Henaduriaeth, Y Feibl Gymeithas a Chyngor Eglwysi Rhyddion Caer.

'Run mor ymroddgar oedd ei aelodaeth o gymdeithasau eraill y ddinas. Bu'n flaenllaw iawn yn sefydlu y Gymdeithas Gymraeg yng Nghaer. Ef oedd ei hysgrifennydd cyntaf, ac mae'r Llyfr Cofnodion am 1893 ymysg ei lyfrau a'i bapurau yn Y Llyfrgell Genedlaethol. Mynychai hefyd 'The Chester Society of Natural Science, Literature and Art'. Yn ôl ei weinidog olaf, y Parchedig Griffith Hughes M.A., ei gyfeillion a'i gydnabod roedd ganddo lyfrgell werthfawr ac ynddi gasgliad cynhwysfawr o lyfrau Cymraeg a Chymreig a argraffwyd yng Nghaer. Gwnaeth ddefnydd helaeth ohoni wrth ysgrifennu traethodau ac erthyglau, paratoi darlithoedd a chyhoeddi llyfrynnau.

Bu'n brysur yn ei lyfrgell yn ysgrifennu traethodau er enghraifft 'Nodiadau ar Morysiaid Môn a'u hepil'. O ochr ei fam, Catherine Morris, Yr Ynys, Llanfair Mathafarn Eithaf roedd yn perthyn i Morris Williams, Plas Goronwy, Llanbedr-goch a oedd o gyff Pentre Eirianell. Ysgrifennodd nifer helaeth o erthyglau ym mhapur Caer, a phapurau lleol eraill yr ardal. O'u darllen gwelir mor eang oedd ei ddiwylliant ac mor edmygus yr ydoedd o'i gyd Gymry yn y ddinas. Cyhoeddodd hefyd erthyglau yn Y Cymro, Y Brython a'r Clorianydd. Roedd y mwyafrif o'r erthyglau hyn yn disgrifio'n fanwl iawn y llyfrau Cymraeg a Chymreig a gyhoeddwyd yng Nghaer. Arferai Morris Parry gadw copïau o'r erthyglau hyn mewn cyfrolau pwrpasol ac maent i'w darllen yn y Llyfrgell Genedlaethol. Am y gwaith hwn dywedodd W.W. yn The Journal of the Welsh Bibliographical Society Gorffennaf 1943:

'The books (published in Chester) are described with the expertness of a trained bibliographer and in addition, almost without exception, the compiler has added notes and comments to the items which indicate his intimate knowledge of their contents as well as their form.’

Defnyddiwyd y casgliad o lyfrau Caer gan y Llyfrgell Genedlaethol fel esiampl o gynnyrch gweisg un dref. Yn Y Cymro 11 Tachwedd 1914 awgrymodd Morris Parry wrth ddathlu'r ffaith fod y Llyfrgell Genedlaethol yn cael ei hadeiladu, mai da o beth fuasai paratoi llyfryddiaeth pob gwasg Gymraeg ardal wrth ardal. Ysgrifennai'n flynyddol hefyd yn Adroddiad Eglwys St John Street, Caer grynodeb o'i hanes gan mlynedd ynghynt.

Defnyddiodd ei lyfrgell hefyd i baratoi ei ddarlithoedd. Darllenais am ddwy ohonynt sef 'Cyfeillach Llyfr' a draddododd ef i Gymdeithas Gymraeg Caer, 1939 a 'Rhodd Mam'.

'Mae'n ddarlithydd gwych a gresyn na chyhoeddid ei ddarlith ar Y Rhodd Mam a darlithoedd eraill yn rhai o gyfnodolion y Cyfundeb,' awgrymodd W. C. R. yn Y Cymro 2 Rhagfyr, 1939. Awdur 'Y Rhodd Mam' oedd y Parchedig John Parry, Caer (1775-1846) ac meddai Mrs Edward Davies, Caer wrthyf:

'Gwelais mewn cyfnodolyn rywdro rywun yn dweud mai'r ddau ddyn mwyaf fu erioed yn Eglwys Caer oedd y ddau Parry: John Parry, awdur Rhodd Mam (cyhoeddwyd 1811) a Morris Parry, ac yr oedd Morris Parry yn meddwl y byd o John Parry ac wrth ei fodd os byddai pregethwr yn cyfeirio ato yn ei bregeth. Meddyliai rhai pobl ei fod yn fab iddo gan mor aml y cyfeiriai ato. Ond yr oedd John Parry wedi marw flynyddoedd cyn geni Morris Parry...'

Cyhoeddodd ef amryw o lyfrynnau, yn eu mysg lyfryn yn Gymraeg ac un yn Saesneg yn olrhain hanes gweisg Caer. Yn 1910 cyhoeddodd Hanes Cangen Gymreig Cymdeithas Beiblau Caer, 1812-1940. Bu'n olygydd Ford Gron, Caer, cylchgrawn Cymdeithas Gymraeg y ddinas 'ac roedd ei Bregeth Noson Waith yn y cylchgrawn yn flasus ac ymarferol.' Casglai ei ysgrifau i Cribin Caer a dosbarthai y llyfrynnau ymhlith ei gyfoedion. Ceir casgliad ohonynt ymhlith ei bapurau yn y Llyfrgell Genedlaethol. Soniwyd hefyd am Briwsion y Ford Gron yn y teyrngedau a ddarllenais iddo. Ond y llyfryn mwyaf diddorol i mi, sy'n frodor o ardal enedigol Morris Parry, ydy Deilen Werdd sef teyrnged Morris Parry i'w rieni Griffith Parry (1815-1905) a Catherine Parry (1814-1893).

Cyhoeddwyd y llyfryn dau ddeg un tudalen yn Awst 1905 ac fe'i hargraffwyd gan Edward Thomas, Pepper Street, Caer. Yn hanner cyntaf y llyfryn ceir hanes bywyd ei rieni ac yn yr ail hanner cyhoeddir ei gerdd goffa i'w dad. Ceir ynddo hefyd wyth llun: dau lun gan Mills and Son, Bangor a'r gweddill gan Laurence Kaye. Ymysg y lluniau y mae rhai o'i rieni a dynnwyd ym Mangor, Y Groeslon ar ddechrau'r ganrif a'r hen Ben Lôn Groes - Porth y Plas Gwyn ydy'r teitl yn y llyfryn. Yn fy nghopi i a gefais yn anrheg, mae'r awdur wedi ysgrifennu 'Mr a Mrs Edward Davies gyda chofion caredig M. Parry 21.2.1928'.

Ar ddechrau'r pedwardegau fe brynwyd casgliad Morris Parry Caer gan Y Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth ac yn adroddiad y Llyfrgell, 1942-43 ceir cofnod manwl am y casgliad. Canmolir ei waith am gasglu cynnyrch Cymraeg a Chymreig Caer; casgliad da o faledi, pamffledi a chyfnodolion. Rhestrir hefyd gopïau o Cribin Caer sydd wedi eu cadw ymysg pethau eraill. Mae'n ymddangos fod ganddo barch at lyfr, papur a llythyr, nodweddion amlwg aelod ffyddlon o Gymdeithas Llyfryddiaeth. Fel y nodwyd yng nghylchgrawn y Gymdeithas cyfraniad arhosol Morris Parry i lyfryddiaeth oedd ei ymchwiliad brwdfrydig i gynnyrch Cymraeg a Chymreig Caer.