LEWIS MORRIS AC ERAILL - ambell arysgrif
gan R.Elwyn Hughes


Rhai blynyddoedd yn l bm yn trafod gyda gwyddonydd yn Rhydychen ddull Lewis Morris o wneud microsgop. Yng nghwrs y trafod digwyddai'r gwyddonydd grybwyll fod yn ei feddiant gopi Lewis Morris o lyfr hanes Beda Ddoeth, gan ychwanegu ei fod yn amlwg fod Morris yn anghytuno'n ffyrnig a rhai o ddatganiadau Beda gan fod y llyfr yn cynnwys llu o sylwadau a chywiriadau yn llaw Morris. Rhaid bod tuedd ar ran Morris i anodiadu a chywiro llyfrau yn y dull hwn ac yn enwedig ei lyfrau hanes. 'I have wrote a great deal in ... notes on Drayton's Polyolbion...' dywedai, mewn llythyr at ei frawd William ar Medi 1 1755, wrth gyfeirio at Poly-Olbion, cerdd hir 'hanesyddol' gan Michael Drayton (ynghyd throednodiadau helaeth gan John Selden) yn disgrifio hanes a datblygiad y 'genedl' Fritanaidd. Cyhoeddwyd Poly-olbion yn ddwy ran yn un gyfrol yn 1622.

Ond diflannodd copi Morris o Poly-Olbion ryw ganrif yn l. 'Lewis Morris's copy of Drayton's Polyolbion, heavily scored with notes was recently for sale in London,' meddai J.H. Davies yn 1907. Roedd Davies, mae'n amlwg, wedi gweld y llyfr neu wedi darllen disgrifiad ohono. 'Wn i ddim beth oedd ei hanes wedyn hyd nes imi lwyddo i'w brynu mewn arwerthiant llyfrau yn Swindon ychydig flynyddoedd yn l. Erbyn hyn yr oedd wedi'i rwymo mewn lledr llawn, a'r meingefn wedi'i addurno a'i lythrennu mewn aur. Ond braidd yn esgeulus o arwyddocd nodiadau Lewis Morris oedd pwy bynnag a oedd wedi rhoi'r wisg newydd ysblennydd hon i'r gyfrol, a'r rhwymwr wedi cropio ymylon y tudalennau i raddau anfaddeuol.

Cynhwysai blt llyfr Robert George Windsor-Clive, Iarll Plymouth (1857-1923) ond pa un ai efe neu rywun arall a fu'n gyfrifol am ailrwymo'r llyfr, 'wn i ddim. Gan fod cartref swyddogol yr Iarll yn Sain Ffagan, mae'n bur debyg felly fod y gyfrol wedi dychwelyd i Gymru am gyfnod o leiaf, yn nechrau'r ganrif. Cywiriadau a sylwadau a geir gan Morris yn y rhannau hynny sy'n delio hanes Cymru, a hyn ar bron bob tudalen. Er iddo anghytuno'n ddigon cryf pheth o'r cynnwys, y mae ganddo, yn gyffredinol, feddwl uchel o'r 'great Seldon' chwedl yntau. Ar y tudalen gweili cyntaf, sgrifennodd:

'The learned Selden, author of these notes was wont to say at the latter end of his life that 11, 12 & 13 verses of the 2nd chapter of St Paul's Epistle to Titus gave more satisfaction than all the books he had ever wrote or read.'

Yn gyffredinol, nid yw sylwadau darllenydd yng nghorff y llyfr yn ychwanegu dim at ei werth. Ond y mae arysgrif (fel yr un uchod) neu nodyn yn llaw'r awdur (neu gan ddarllenydd o bwys) yn nechrau'r llyfr yn fater gwahanol. Yn aml iawn gall ddadlennu gwybodaeth ddiddorol am bersonoliaeth a gweithgareddau'r perchennog ei hunan. Mae gennyf nifer o lyfrau sydd yn bennaf diddorol oherwydd arysgrifau o'r fath.

Copi personol Arglwyddes Llanofer (Gwenynen Gwent) yw fy nghopi rhwymedig o Y Gymraes (1850-1), y cylchgrawn i ferched y bu Evan Jones (Ieuan Gwynedd) yn gyfrifol amdano, gyda chefnogaeth yr Arglwyddes. Y tu mewn i'r clawr blaen ceir, yn llaw Arglwyddes Llanofer, yr arysgrif hon:

'Lent to The Hnrble Mrs Herbert of Llanarth for The Miss Herbert of Llanarth, the Master Herberts of Llanarth '28 Jany 1860'

'Mrs Herbert of Llanarth' oedd Augusta, merch Gwenynen Gwent, a'r plant a enwir, felly'n wyrion iddi. Mae'n amlwg i Arglwyddes Llanofer dybio y byddai ei hwyrion a'i hwyres ar eu cryn ennill o ddarllen Y Gymraes, a'i bod yn barod i roi benthyg iddynt ei chopi personol ei hunan, i'r perwyl hwn. Ond pa mor hyddysg oedd y plant yn y Gymraeg, 'wn i ddim.

Flynyddoedd yn l bellach, cefais yng Nghaerfaddon gopi o Faunula Grustensis John Williams (1830) a'r arysgrif ar hwnnw hefyd yn dadlennu ffaith ddiddorol am fywyd yr awdur, y meddyg-naturiaethwr o Lanrwst. Y tu mewn i'r clawr blaen ceir y cyflwyniad 'For Charles Kingsley, a book promised to be sent by first opportunity' a'r clawr allanol yn dwyn enw'r perchennog 'Charles Kingsley'. Byddai Kingsley yn ymweld yn aml 'r rhannau gogleddol o Gymru ac yn enwedig yn ystod ei gyfnod yn ganon yng Nghaer lle y sefydlwyd Cymdeithas Naturiaetheg adnabyddus yn 1870. Diau iddo gyfarfod John Williams rywbryd yn gynharach yn y ganrif (bu farw Williams yn 1859) ac iddo dderbyn y copi o Faunula Grustensis gan Williams bryd hynny.

Bu fy nghopi o On the art of writing gan Quiller-Couch ar un adeg ym meddiant Cyril Brett, Athro Saesneg ac aelod pur adnabyddus o Goleg y Brifysgol, Caerdydd, yn hanner cyntaf y ganrif bresennol. Mae'n cynnwys nifer o nodiadau yng nghorff y llyfr, y rhan fwyaf ohonynt yn cyfeirio at ragoriaethau tybiedig yr iaith Gymraeg. Ond yr oedd Brett am ei atgoffa ei hun (ac eraill hefyd, efallai) nad efe a fu'n gyfrifol am y nodiadau hyn ac y tu mewn i'r clawr blaen ceir ganddo'r nodyn hwn:

'Most of the pen and pencil notes in this book were made by Wm. Jo. Gruffydd, sometime Professor of Celtic in the University of Wales, a Welsh poet & an English writer of distinction. I thank him!'

Mae'n amlwg fod 'Gruffydd wedi gwadu hyn a cheir gan 'C.B.' ail nodyn,

'It is only fair to Professor Gruffydd to say that he cannot remember having made the notes and thinks they are not in his hand. They may be there, to transfer the charge, by Professor Gilbert Norwood [Athro yn y Clasuron] to whom I lent the book.'

Drama fach academig y tu mewn i glawr llyfr!

Ond efallai mai'r mwyaf dadlennol o'r arysgrifau hyn yw'r un sydd gan William Price (yr amlosgwr) ar ei gopi o A new and easy guide to Algebra, Daniel Fenning (1772) a ddaeth i'm meddiant pan chwalwyd gweddillion llyfrgell Price yng Nghaerdydd rai blynyddoedd yn l. Roedd Price wedi rhoi benthyg y llyfr i un Thomas Davies ac ar y ddalen deitl cafwyd ganddo'r geiriau:

'August the 24th 1876: William Price lends this book to Thomas Davies for six months only from this time -That is enough of time to make himself master of [ALGEBRA]'

- datganiad sy'n llwyr gyson 'r hyn a wyddys am gymeriad a phersonoliaeth anghonfensiynol Price.