HUW CEIRIOG YN SGWRSIO Â DR RHIDIAN GRIFFITHS ~
Cadeirydd newydd Cymdeithas Bob Owen

Llongyfarchiadau ar eich swydd newydd, sef Cadeirydd Cymdeithas Bob Owen. A hoffech weld unrhyw newid yng nghyfeiriad y Gymdeithas?

Rwy'n credu bod y Gymdeithas yn cyflawni'i phriod waith yn effeithiol iawn trwy gyhoeddi'r Casglwr a thrwy sefydlu cyswllt cydrhwng casglwyr a'i gilydd. Dros y blynyddoedd diwethaf cynhaliwyd rhai cyfarfodydd llwyddiannus, a hoffwn weld hyn yn parhau yn achlysurol. Mae'r ddarlith flynyddol yn yr Eisteddfod hefyd yn achlysur pwysig. Y prif beth, rwy'n meddwl, yw parhau i hybu diddordeb mewn casglu pob math o bethau, a'r Casglwr yw'r cyfrwng pennaf i hyrwyddo hynny.

Deallaf eich bod yn frodor o Abertawe. Rhowch fraslun o'ch cefndir.

Ces fy ngeni a'm magu yn Abertawe, y dre 'hardd hyll' chwedl Dylan Thomas, lle roedd fy nhad yn weinidog. Brodor o Lanelli oedd e, a chafodd Mam ei magu yn Nhreorci o rieni a ddaeth o Bontrhydfendigaid. Felly mae gennyf gysylltiadau â Sir Gâr a Sir Aberteifi yn ogystal â Sir Forgannwg. Trwy fyw a gweithio yng Ngheredigion mae'n debyg fy mod i wedi cyfannu'r cylch bellach.

 

Fel Ceidwad Adran Llyfrau'r Llyfrgell Genedlaethol afraid gofyn a yw llyfrau'n bwysig i chwi, mae'n debyg?

Cwestiwn pryfoclyd! Mae fy swydd yn swydd weinyddol yn fwy na swydd academaidd bellach. Ond bu llyfrau'n bwysig i mi erioed. Roedd fy nhad, fel gweinidog, a mam, fel athrawes, yn bobl llyfrau ac roedd llyfrau ar hyd y tŷ erioed. Dysgais eu darllen nhw a hefyd edrych arnynt a gwerthfawrogi eu gwedd nhw ar y silffoedd. Rwy'n dal i gasglu, ond bob hyn a hyn rwy'n llwyddo i fod yn ddigon gwrthrychol i ymado ag ambell gyfrol - er mwyn ennill lle yn y tŷ.

Gwn am eich diddordeb mewn cerddoriaeth. A ydych yn casglu llyfrau cerddorol?

Ydw, llyfrau emynau yn fwyaf arbennig, ond casgliadau o alawon Cymreig hefyd. Mae gennyf gyfrolau o gerddoriaeth i'r piano a'r ffidil a'r organ - ac mae fy ngwraig yn canu'r ffidil hefyd (yn well na fi o dipyn), felly mae ganddi hi ei chasgliad ei hun. Rwyf wedi bod yn ffodus ar hyd y blynyddoedd fod pobl garedig sy'n gwybod am fy niddordeb wedi rhoi pethau i fi - dyna sut cefais gopi o argraffiad 1844 o gyfrol Maria Jane Williams, Ancient National Airs of Gwent and Morganwg, acAlawon fy Ngwlad Nicholas Bennett.

A oes gennych hoff lyfr?

Byddaf yn newid fy marn ar hyn, fel ar fy hoff gerddoriaeth. Mae'n dibynnu i raddau ar fy hwyl ar y pryd. Rwy'n hoff iawn o gasgliadau o farddoniaeth a blodeugerddi o bob math, nad oes rhaid eu darllen o glawr i glawr. Ond y llyfr rwy'n dod nôl ato wrth feddwl am ateb i'r cwestiwn yw Cyn Oeri'r Gwaed gan Islwyn Ffowc Elis. Rwy'n dal i gofio'r wefr o'i ddarllen am y tro cyntaf.