HUGH DAVIES (1739-1821) gan Mel Williams

 

Hugh Davies

Flynyddoedd yn ôl bellach, deuthum ar draws copi o lyfr Huw Davies o dan y teitl Welsh Botanology a gyhoeddwyd yn 1813. Ceir llofnod y perchennog ar y pryd ar ddalen flaen y gyfrol, sef Wm Lloyds book 1825. Does dim byd yn arbennig yn hyn, meddech chi, ond yma a thraw yn y llyfr ceir rhai tudalennau glân, ac eraill â lluniau dyfrlliw o flodau a ffrwythau o eiddo'r perchennog arnynt. Mae'r ôl bodio mawr ar y gyfrol yn brawf fod y perchennog yn gryn lysieuwr.

Ar wyneb ddalen y gyfrol ceir disgrifiad byr o'r gwaith enfawr sef Welsh Botanology part of the first. A systematic Catalogue of the Native Plants of the Isle of Anglesey, in Latin, English and Welsh; with the habitats of the rare species and a few observations ... a'r ail ran o'r gyfrol yn fwy neu lai yn y Gymraeg sef Llysieuaeth Gymreig, yr ail ran; blagur o bob rhyw, rhai a amlygir trwy eu cyfieithu i'r Lladin a'r Seisoneg. Mae'r ail ran yn cynnwys enwau Cymraeg llysiau yn nhrefn yr wyddor ynghyd â chyfeiriad at eu rhinweddau meddyginiaethol.

Dyma'r gyfrol gyntaf i'w chyhoeddi ar enwau planhigion Cymreig gyda'u henwau Lladin cyfatebol deuol. Mae'n gyfrol gynhwysfawr iawn hyd heddiw ac yn cynnwys enwau 765 rhywogaeth o blanhigion blodeuol, 20 rhywogaeth o redyn, 267 o fwsoglau, 29 o lysiau'r afu, 200 cen cerrig, 338 o ffyngau, ynghyd ag algâu morol a dŵr croyw.

Cyfrannodd Hugh Davies i nifer o gyfrolau eraill hefyd, megis English Botany gan James Sowerby a James Edward Smith, Flora Britannica gan J.E. Smith, The botanist's guide through England and Wales (1805) gan Dawson Turner a Lewis Weston Dillwyn, The naturalist's miscellany (1795) gan George Shaw a chyfrannodd erthyglau i Transactions of the Linnean Society. Cynorthwyodd Thomas Pennant gyda'i gyfrol Indian Zoology drwy fod yn gyfrifol am restru a chrynhoi holl anifeiliaid India ac eithro'r adran ar bryfetach.

Oherwydd ei holl waith, cafodd ei ethol yn Gymrawd o'r Gymdeithas Linneus yn 1790. Cymerodd gryn ddiddordeb yng ngweithgareddau'r Gymdeithas ac ystyrid ef gan yr aelodau yn awdurdod ar blanhigion gogledd Cymru. Oherwydd ei arbenigedd anrhydeddwyd ef hefyd gan James Edward Smith pan enwyd y genws Daviesia (Leguminosae) ar ei ôl.

Ganwyd Hugh Davies ar 3 Ebrill, 1739 yn fab ieuengaf i Lewis Davies, ficer Llandyfrydog, Môn, a Mary, merch Joshua Knight o Gaernarfon. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Rad Biwmares a Choleg yr Iesu, Rhydychen gan ennill ei radd BA yn 1772 a'i MA yn 1768. Apwyntiwyd ef yn gurad yn Llangefni a Thregaian yn 1763 hyd 1766; Llan-faes a Phenmon 1766-1775 a Phenmynydd 1775-1778 a bu'n Rheithor Llandegfan o 1778-1789. Yna penodwyd ef yn Rheithor Aber ger Bangor yn 1789. Ymddeolodd yn 1816 a bu farw ar 16 Chwefror, 1821 ac fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Biwmares.

Oherwydd ei arbenigedd a'i frwdfrydedd, bu Hugh Davies yn ysgogiad a symbyliad i nifer helaeth o'r rhai hynny a ymddiddorai yn llysieueg Cymru, a hyd yn oed Prydain. Yn sicr, bu ei gyfraniad yn sail gwerthfawr i waith manwl J.E. Griffith yn ei gyfrol Flora of Anglesey and Caernarvonshire a gyhoeddwyd yn 1895.