COFIO CARWYN - EISTEDDFODWR O FRI gan D.Ben Rees

Cyfrol werthfawr dros ben ydyw Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru a olygwyd gan Meic Stephens a'i gyhoeddi yn 1986, 1992 ac yna'r ailargraffiad sy'n well na'r cyntaf hyd yn oed, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1997. Er gwyched y gwaith, mae'n anorfod gadael allan rywrai y credwn ni sy'n haeddu cofnod. Ac un o'r rhai hynny a ddylai gael lle yn y trydydd argraffiad sydd i ddod allan yn 2007 ydyw Caerwyn, eisteddfodwr i flaenau bysedd ei draed.

Ei enw bedydd oedd Owen Ellis Roberts, yr un enw a'r cyfathrebwr ifanc o Lerpwl sy'n gyson fel gohebydd newyddion teledu S4C. Galwai ef ei hun yn Elis Roberts, er mai Owain y galwn ni ef yn Lerpwl. Ond Owen Ellis Roberts oedd yr enw a roddwyd ar Caerwyn yng Nghorwen ar ôl ei eni ar 25 Chwefror 1871 yn unig fab i Hugh a Ruth Roberts.

Cafodd Caerwyn fywyd diddorol fel newyddiadurwr. Bwriodd ei brentisiaeth ar staff yr Herald yng Nghaernarfon, ond gwnaeth farc fel newyddiadurwr yn Lerpwl o dan ofal Isaac Foulkes (Llyfrbryf), gŵr yr ydym mewn dyled enfawr iddo fel cyhoeddwr llyfrau cain a gwerthfawr. Roedd ei bapur wythnosol Y Cymro yn llawn storiâu cyffrous, soniai am fwrdro a llabyddio, yn ogystal ag eisteddfodau a chymanfaoedd pregethu. Bu Caerwyn yn weithgar ym mywyd diwylliannol y Cymry alltud. Cystadleuai ar bob cyfle. Enillodd lu o gadeiriau yn Lerpwl a pharhaodd felly ar hyd ei oes. Gallai droi ei law at unrhyw gyfrwng: telyneg, pryddest, englyn, hir a thoddaid, cywydd ac awdl.

Oherwydd cyflwr ei iechyd symudodd yn ôl i Ogledd Cymru, a daeth yn ffigur pwysig yn hanes newyddiaduraeth Gogledd Cymru a bywyd Ynys Môn. Bu'n olygydd Herald Môn a The Holyhead and Anglesey Mail, Caergybi a bu ar staff y Clorianydd gan sgrifennu'n ddifyr ar bob amgylchiad. Ef oedd llyfrgellydd rhan-amser cyntaf Môn, a bu hefyd am gyfnod hir yn gyfieithydd swyddogol llys chwarterol Biwmares. Bu galw mawr amdano yng nghapeli Môn, ac yn y gaeaf, clywyd ei gyhoeddi yn gyson yn y Cymdeithasau Llenyddol fel darlithydd difyr.

Ond ei gryfder mawr oedd fel arweinydd eisteddfodau. Cawsom ein bendithio fel cenedl gan arweinwyr eisteddfodol, a nifer ohonynt o Ynys Môn, fel Caerwyn, a'r Parchedig Meic Parry (un o blant Llannerch-y-medd) heb anghofio y Parchedig Huw Jones, Rhuddlan (Bala gynt) sy'n fythol ifanc. Ond Caerwyn oedd y meistr am dros hanner can mlynedd, yn yr eisteddfodau lleol, ar lwyfan Eisteddfod Môn lle bu'n weithgar dros ben gyda'r orsedd, ac ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol. Am flynyddoedd lawer bu'n rhaid i Caerwyn arwain heb help meic o unrhyw fath. Y cyfan oedd ganddo i gadw trefn ar gynulleidfa oedd llais fel taran a dipyn o hiwmor. Adroddodd Dr W. Emrys Evans wrthyf am Pat O'Brien (arweinydd gwych arall) yn gofyn i ryw was ffarm a oedd yn aflonyddu ar Steddfod yng ngwlad Maldwyn.

'Beth sy'n bod arnat?'

'Wedi colli 'nghap,' meddai hwnnw.

'Paid poeni. Mae 'na frawd yn y fan hon, yn eistedd yn dawel yn y rhes ffrynt, ac y mae wedi colli ei wallt.'

Chwerthin braf a'r aflonyddwr diniwed yn cilio trwy'r drws. Treiddiai llais Caerwyn i ben pella'r pafiliwn, ac fel Pat O'Brien roedd ei hiwmor, yn cadw pawb yn ddiddig a'i storïau yn rhoddi'r gynulleidfa yn gysurus hapus. Cafodd y fraint o wahodd pobl dalentog i'r llwyfan i ganu ac adrodd, ac ef oedd yr arweinydd a gyflwynodd David Lloyd (1912-69) i fyd yr eisteddfod cyn iddo fynd yn ganwr proffesiynol, ac yn adnabyddus yn Berlin fel ag yr oedd yn Fienna, fel un o brif ddehonglwyr Verdi a Mozart.

Ym myd yr Eisteddfod Genedlaethol fe'i cofir fel Gorseddwr cydwybodol. Ar farwolaeth Meurig Prysor, etholwyd Caerwyn yn Dderwydd Gweinyddol Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, ond roedd ef erbyn hyn mewn gwth o oedran. Pan gafodd y swydd yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni, un o Eisteddfodau gorau ail hanner y ganrif, yr oedd Caerwyn ymhell dros ei bedwar ugain mlwydd oed. Dwy flynedd y bu yn y swydd.

Bu farw 1 Hydref, 1959 a gosodwyd ef i orffwys yn naear mynwent Llangristiolus. Lluniodd un arall o gymeriadau mawr Môn, ac eisteddfodwr brwd arall, Llew Llwydiarth, englyn i'w gofio:

Dywedodd y cyfan wrth ei ddisgrifio, fel 'llef enwog llwyfannau'. Deil ei floedd a'i lais yng nghlyw pawb a'u clywodd er bod deugain mlynedd i eleni ers pan distawodd pencampwr Arweinyddion Eisteddfodau Môn.


    WRTH Y GAMFA
    Mwynder Mai oedd ar y meysydd.
      Mwynder mwy ar wyneb Men,
    A gwynfydau serch dihenydd
      Brofem wrth y gamfa bren;
    Gwyddai'r adar ein cyfrinach,
      Hithau'r awel bêr ei si;
    Oni chanent yn felysach
      Am adduned Men a mi!
     

Darn o waith Caerwyn allan o Awen Môn.