Y SEREN ORLLEWINOL gan Huw Walters,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

YN NIWEDD wythdegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwnaeth Samuel Colgate o Efrog Newydd, apêl am ddiogelu etifeddiaeth hanesyddol Bedyddwyr y Taleithiau Unedig. Yr oedd Colgate, un o feibion William Colgate, y canhwyllwr a'r gwneuthurwr sebon, erbyn hynny wedi dod yn ŵr eithriadol o gyfoethog ac yn berchennog ar gwmni enwog Colgate-Palmolive. Fel Bedyddiwr o argyhoeddiadau cryfion iawn, roedd yn awyddus i sefydlu casgliad o ddogfennau a defnyddiau eraill yn ymwneud â hanes yr enwad yn America i'w diogelu mewn llyfrgell, a fyddai yn y man, yn dwyn ei enw.

Codwyd y mater yng nghyfarfodydd Cymanfa Bedyddwyr Cymraeg Dwyrain Pennsylvania yn 1890, ac yn null traddodiadol y Cymry, ffurfiwyd pwyllgor arbennig gan y Gymanfa honno i geisio crynhoi ynghyd gofnodion a dogfennau yn ogystal â deunydd printiedig yn ymwneud â Bedyddwyr Cymraeg y Taleithiau Unedig. Ym mis Mai y flwyddyn honno cyhoeddwyd llythyr yn nhudalennau Y Wawr, cylch grawn misol Bedyddwyr Cymraeg America ar y pryd, gan y Parchedig W. F. Davies, Nanticoke, yn apelio am gopïau o Y Seren Orllewinol, y misolyn a gyhoeddwyd dan nawdd y Bedyddwyr yn Utica, Efrog Newydd a Pottsville, Pennsylvania. 'Yr ydym yn barod i dalu pob treuliau am eu cludo bob ffordd, os mai eu benthyg a gawn, neu bris rhesymol am bob rhifyn, os gwerthir hwy,' meddai W. F. Davies yn ei lythyr.

Y mae i'r Seren Orllewinol, y cyhoeddwyd ei rifyn cyntaf ym mis Gorffennaf 1844, hanes diddorol y bwriadaf ei adrodd mewn man arall yn y dyfodol agos. Digon yw dweud yn y fan hon ei fod yn gyhoeddiad anhepgor ac yn gloddfa werthfawr o ddefnyddiau i bwy bynnag a fyn olrhain hanes eglwysi'r Bedyddwyr yng nghymunedau Cymreig America, ac yn enwedig yn nhaleithiau Efrog Newydd a Pennsylvania yn ystod y pum mlynedd ar hugain rhwng 1844 a 1869.

Ceir ymhlith casgliadau Adran y Llyfrau Printiedig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru rediad sylweddol ond anghyflawn o'r Seren Orllewinol, ac wrth i mi gasglu defnyddiau ar gyfer Llyfryddiaeth Cylchgronau Cymreig, 1735-1850, a gyhoeddwyd gan y Llyfrgell yn 1993, bu'n rhaid imi ohebu â nifer o lyfrgelloedd ac archifdai yng Nghymru ac America yn chwilio am rifynnau coll o'r Seren. Llwyddais i ddod o hyd i gasgliad o rai o'r rhifynnau yn Llyfrgell Prifysgol Harvard, Massachusetts, a'r rheini'n rhifynnau a fu, ar un adeg, yn eiddo i Robert Everett, brodor o Gronant, Sir y Fflint, a fu'n weinidog gyda'r Annibynwyr Cymraeg yn Utica, a sefydlydd a golygydd Y Cenhadwr Americanaidd, misolyn ei enwad. Trwy drefniant arbennig â swyddogion Llyfrgell Prifysgol Harvard, llwyddwyd i sicrhau copïau ar ficroffilm o'r rhifynnau hyn ar gyfer casgliadau'r Llyfrgell Gened­laethol.

Ond beth tybed a ddaeth o apêl W. F. Davies am gopïau o'r Seren yn Y Wawr ym mis Mai 1890? Gwyddom, yn ôl cofnodion cwrdd chwarter Bedyddwyr Dwyrain Pen­nsylvania, a gyhoeddwyd eto yn Y Wawr ym mis Hydref 1890, bod y Gymanfa wedi awdurdodi'r pwyllgor a sefydlwyd i gasglu'r rhifynnau, i fanteisio ar drysorfa ariannol y Gymanfa ei hun, ac mae'n bur debyg i'r apêl am gopïau gael cryn lwyddiant. Ond beth a ddigwyddodd i'r rhifynnau coll hyn? Dyma fynd ati wedyn i chwilio ymhellach drwy bum cyfrol fawr yr Union List of Serials Held in Libraries in the United States and Canada, a gweld rhestru'r Seren Orllewinol yno, a bod rhediad pur gyflawn o'r chwe chyfrol ar hugain i'w cael ymhlith casgliadau Cymdeithas Hanes Bedyddwyr America, yn Llyfrgell Samuel Colgate yn Rochester, Efrog Newydd.

Cysylltais â Susan Eltscher, Cyfarwyddwr y Llyfrgell ym mis Ebrill 1986, yn ei holi ynghylch y posibilrwydd o ffilmio'r rhediad o'r Seren ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ond och a gwae! Roedd y casgliad, erbyn hynny, wedi diflannu o'r silffoedd, ac ni wyddai Ms Eltscher na neb arall ddim oll amdano. 'Unfortunately, Y Seren Orllewinol is no longer in our collection,' meddai mewn llythyr dyddiedig 29 Ebrill 1986. Ymhellach: 'I have no information about its disposition, and can only assume it was withdrawn from the collections'. Doedd dim i'w wneud felly, ond mynd ati i chwilio'r rhifynnau a oedd eisoes ar gael yn llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn ogystal â'r copïau microffilm a gafwyd o Harvard. Ac mae'r cofnod am Y Seren Orllewinol, fel y'i ceir yn Llyfryddiaeth Cylchgronau Cymreig, yn seiliedig ar y rhifynnau hyn.

Fodd bynnag, yn ystod gwanwyn 1998 bûm yn gohebu ag ymchwiliwr o dde Cymru a oedd wrthi ar y pryd, yn ceisio olrhain ei gysylltiadau teuluol yn y Taleithiau Unedig. Soniodd yng nghwrs yr ohebiaeth, ei fod wedi llythyru ag aelod o staff Llyfrgell Samuel Colgate, a'i fod wedi llwyddo i sicrhau llungopïau o rai erthyglau a gyhoeddwyd yn Y Seren Orllewinol. Fe'm syfrdanwyd. Cysylltais â Chyfarwyddwr y Llyfrgell ar unwaith, a'i hatgoffa am yr ohebiaeth a fu rhyngom yn 1986. Fe'm hatebodd ym mis Mai 1998, a'm hysbysu bod rhannau o gasgliadau Cymdeithas Hanes Bedyddwyr America wedi eu symud o Rochester i'w canolfan newydd yn Valley Forge, Pennsylvania yn 1986. 'It may be that the disruption of removing a portion of the collections had left enough disorder here that we were unable to find Y Seren Orllewinol,’ medd hithau.

Bid a fo am hynny, y peth pwysig i'w gofio bellach, yw bod y casgliad o'r Seren a gynullwyd gan y Parchedig W. F. Davies, yn dilyn ei apêl am rifynnau ym mis Mai 1890, yn parhau i fod ym meddiant Cymdeithas Hanes Bedyddwyr America, ac mae trefniadau eisoes ar y gweill i sicrhau copïau meicroffilm o'r rhifynnau hyn ar gyfer casgliadau ein Llyfrgell Genedlaethol.