Y GYMRAEG AR LESTRI ~ Mary Wiliam yn trafod
WRTH i'r tywydd droi penderfynais osod pwnc ymchwil i mi fy hun: Y Gymraeg ar Lestri. Roeddwn yn gwybod yn go lew beth oedd craidd y gwaith i fod ond roedd angen man cychwyn arnaf. Felly mi es i un o farchnadoedd hen bethau'r dref i weld a gawn i ryw ysbrydoliaeth yno. Er mawr syndod, cefais fy man cychwyn yn y fan a'r lle. Roedd dau lestrïyn digon diddorol yno. Roedd y cyntaf yn soser lwch ac arni'r geiriau `Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1938'. Roedd arni hefyd arfbais wedi'i chynllunio'n unig swydd ar gyfer yr Eisteddfod, sef trosbrint crwn yn dangos gorthwr castell Caerdydd ar ei fwnt gwyrdd a cherrig yr orsedd wrth ei draed. Mae draig o boptu'r trosbrint mewn trwch o baent orengoch a'r tair pluen rhwng y dreigiau ac uwchben y trosbrint. Roedd y soser ei hun yn grwn, yn reit ddwfn, o liw ifori a dwy hollt yn wynebu ei gilydd i ddal sigarét segur. Cafodd ei gwneud gan Shelley. Heddiw mae'n costio £38 ac os oes gennych ddiddordeb ynddi, mae'n dal yno! Wnes i ddim ei phrynu, dim ond rhyfeddu ati.
Y cam nesaf oedd chwilio am Raglen y Dydd Eisteddfod 1938. Yno roedd tudalen lawn yn hysbysebu MARCHNAD RAD CAERDYDD CYF., Cardiff Bon Marche Ltd, Cyfarwyddwr Goruchwyliol — MORGAN DAVIES. 'Ym mhob cwr o'r ddinas ceir ein ystordai lle y siaredir Cymraeg' medd yr hysbyseb gan restru'r holl nwyddau y gellid eu prynu yno, yn ddillad o bob math, yn llestri, dodrefn, carpedi neu lieiniau. Roedd pob serchogrwydd a chroeso gwir Gymreig yno, ac yn bwysicach o bosib, y 'GWERTHOEDD UCHAF - Y PRISIAU ISELAF'. Roedd Mr Davies yn ŵr o Bontardawe yn enedigol a chanddo bedair siop ar gyrion y ddinas yn y mannau lle roedd ei gwsmeriaid yn byw: yn Nhrelái, Y Sblot, Yr Eglwys Newydd a Cathays. Roedd hefyd yn un o uchel swyddogion yr Eisteddfod. Teimlwn yn siŵr mai dyma'r un a fyddai wedi comisiynu'r darn yn wreiddiol.
Ond wrth imi droi'r dudalen fe welais yr hysbyseb sydd ynghlwm wrth yr erthygl hon sydd yn rhoi pennod ac adnod am y soser lwch. Ar waelod yr hysbyseb yma mae'r geiriau, 'Gwahoddir chwi i ymweld â'n Pabell ar Faes yr Eisteddfod, lle y ceir llawer math o bethau defnyddiol mewn China i'ch atgofio am eich ymweliad â Chaerdydd a'r Eisteddfod'. Teg tybio felly mai cwmni Carter's a gomisiynodd y llestri, o dan gyfarwyddyd Morgan Davies o bosib. Roedd y darnau yn 'Specially designed and Hand Enamelled by SHELLEYS. Makers of Fine China'. Does gen i ddim modd o ddarganfod sawl cofrodd a wnaethpwyd ond gallwn feddwl fod y cwpan dwy ddolen â'r ymylon aur yn cael ei gyfrif fel y gorau ohonyn nhw. Mae'n rhaid bod y cofroddion hyn wedi cyrraedd Cymru benbaladr ond dyma'r unig un i mi ei gweld hyd yn hyn. |
Roedd yr ail lestrïyn yn y farchnad hen bethau yn anrheg o Gymru yn hytrach nag o'r Eisteddfod. Roedd yn fwy cyfarwydd i mi ond ar yr un pryd roedd yn ddieithr hefyd. Roedd yn fodel cymharol fawr, 102mm o hyd, o dŷ Lloyd George, heb weithdy'r crydd. Roedd o liw ifori sgleiniog iawn ac arfbais ar y to a'r geiriau 'Cymru am Byth' a'r esboniad Arms of Wales. Ar y cefn roedd y geiriau, 'The Old Home of the Right Honourable D. Lloyd George, Llanystumdwy, near Criccieth'. Roedd yn edrych fel petai yn un o fodelau Goss ond eto roedd fy ngreddf yn dweud wrthyf nad oedd y modelu yn ddigon cywrain i fod yn Goss. Digon trwsgl oedd y peintio ar yr arfbais ar y to hefyd. Doedd yr ansawdd yn gyffredinol ddim yn ddigon da i fod yn Goss. O droi'r tŷ a'i ben i lawr, mae tarian yn cynnwys y gair 'TUDOR' ar y brig: ar y naill ochr a'r llall roedd ARMS a CHINA ac uwchben y darian y llythrennau C J + Co. Roedd hyn yn dipyn o bos i mi.
Es at ffynhonnell pob gwybodaeth am lestri arfbais, sef The History of Heraldic Souvenir Ware, llyfr a ysgrifennwyd gan gasglwr selog, Sandy Andrews. Yno cefais wybod fod Tudor Arms a China yn arfbais cyfanwerthwr ac nid gwneuthurwr llestri. Dyma farc masnach a ddefnyddiodd y cwmni Hewitt and Leadbetter Ltd, Willow Potteries, Longton i gyflawni archebion cyfanwerthwr o Gymru. Cefais hyd i'r cwmni o gyfanwerthwyr yng Nghyfeiriadur Kelly i Sir Fynwy a De Cymru, 1906; Joseph and Co., 18 Tudor Street, Canton, Cardiff. Roedd yn disgrifio'i hun fel 'Fancy warehouseman'.
Roedd y cwmni Hewitt a Leadbetter yn gwneud llestri addurnol i'r cartref ers 1905 ond ei brif gynnyrch oedd llestri arfbais. Erbyn 1920 roedd y cwmni yn cynnig amrywiaeth o 200 o wahanol gofroddion bach o'r stoc, ond roedden nhw hefyd yn barod i wneud copi o unrhyw adeilad oddi ar lun neu gerdyn post. Roedd y Pottery Gazette yn rhoi llawer o sylw a chanmoliaeth i'r cwmni hwn. Roedden nhw'n canmol ansawdd corff, crochennu a pheintio rhai o'r adeiladau lliw ifori gan ychwanegu y byddai'r rhain wedi gwerthu ar eu gwerth technegol yn unig.
Eto doedd y ganmoliaeth ddim yn llwyr. Roedd y rhai oedd yn dwyn yr enw Tudor yn cael eu cynhyrchu o dan yr enw Willow Arms Art Ware. Dyma'r adran gynhyrchodd y cofroddion Cymreig. Am y rhain, dywed y Pottery Gazette eu bod yn drwm a'r peintio arnynt yn ddigonol ond dim gwell. Roedd y rhain yn cael eu gwerthu yn eang mewn siopau fel F.W. Woolworth, swyddfeydd post, caffis, siopau papur newydd, rhywle lle byddai twristiaid, ac am lai na swllt. Roedden nhw'n rhad ac yn newydd. Roedd eu lliw ysgafn, eu pris, a'u sentiment yn eu gwneud yn boblogaidd gyda phobl oedd newydd fyw trwy'r Rhyfel Mawr.
Yng nghofnodion Willow Arms Art Ware mae sôn am saith llestrïyn Cymreig: Cartref Lloyd George, Cenhinen, Cofeb C.S. Rolls, Pont Trefynwy, Boneddiges Gymreig, a Het Gymreig â'r enw Llanfairpwllgwyngyll wedi'i beintio ar wastad y cantel. Mae rhif y gwrthrych yng nghatalog y ffatri ar hwn hefyd, No. 75. Y seithfed oedd Welsh Tea Party. O ran saernïo mae'r grŵp yma ychydig yn wahanol i'r rhai Almaenig ond mae'n adrodd yr un stori — tair hen wraig yn yfed te o gwmpas bord gron. Yn ystod y rhyfel roedd gwaharddiad ar fewnforio nwyddau o'r Almaen ac roedd y Welsh Tea Party hwn yn enghraifft o gwmni Prydeinig yn llenwi'r bwlch a adawyd yn y farchnad ar ôl y gwaharddiad.
Roedd cyfanwerthwr arall o Gymru yn defnyddio crochendy Willow hefyd. Mae het Gymreig yr un fath yn union â'r un uchod ond heb arfbais nac enw lle penodol a'r geiriau TOWY CHINA BRITISH MAKE odano. Mae'n dwyn yr un rhif stoc â'r model uchod hefyd. Y ddau yn Willow Art. Mae het Gymreig arall a'r geiriau Cambrian China odani.
Wrth droi at Cymru am Byth a'r esboniad Arms of Wales oedd ar do tŷ Lloyd George ni fu fy nhwrio mor ffrwythlon. Mae'r geiriau Cymru am Byth yn gyffredin ar lestri a gynhyrchwyd yn bennaf ar gyfer y farchnad dwristiaid. Ond nid wyf hyd yn hyn wedi darganfod ffynhonnell yr arwyddair. Ai yn ystod y rhyfel y daeth yr arwyddair i fod? Ffurfiwyd y Gwarchodlu Cymreig yn 1915 a Cymru am Byth yw ei arwyddair. Fe'm magwyd mewn ardal lle roedd y Gymraeg ar dafodau rhai hen bobl yn unig ond petai rhai o genhedlaeth fy rhieni yn gorfod rhoi eu teimladau tuag at Gymru mewn geiriau roedd y geiriau Cymru am Byth yn ffon ddefnyddiol i bwyso arni.
Mae enghraifft hyfryd sydd yn ategu hyn. Gwnaeth y cwmni Wilson gopi o ddram o lo. Enw'r darn yw Black Diamonds. Mae'n 87mm o hyd ac enw'r dref sydd arnoyw Tonypandy. (Wedi dweud hynny rwyf wedi gweld cyfeiriad at ddram o lo a'r enw Tunbridge Wells arni!) Mae'r ddram yn wyn, mae amlinelliad aur ar yr olwynion ac mae cnapau o lo du yn disgleirio fel diemwntiau ar ben y ddram. Mae arfbais arni a'r geiriau CYMRU AM BYTH mewn llythrennau bras. Erbyn heddiw dim ond ar lestri digon gwantan eu hansawdd y gwelir yr arwyddair yma.
Gyda Cymru am Byth daeth fy ymchwil i ben, dros dro. Mae'r cerrig llanw wedi mynd yn bwvsicach nag a feddyliais.