Y CAWR O BENLLYN gan Mari Ellis

 

Thomas Edward Ellis

YM MIS Ebrill eleni bydd canmlynedd wedi mynd heibio ers marw Tom Ellis. Ysgrifennwyd llawer amdano ers hynny yn Gymraeg ac yn Saesneg, ond beth oedd barn ei gyfoeswyr amdano?

Pan benodwyd ef yn aelod o'r llywodraeth yn 1892 mynegwyd syndod ym mhapurau Lloegr fod gŵr heb feddu ffortiwn bersonol, nac yn aelod o deulu aristocrataidd, a heb fod yn briod â gwraig gymdeithasol dderbyniol, wedi'i benodi i'r swydd.

Yr oedd papur o'r enw Bow Bells ymhell ohoni: 'Mr T. E. Ellis, M.P., now Assistant Lord of the Treasury, was born at a small farm at Borth in Wales, where his parents still reside, neither of whom has been in a railway carriage'

Wedi iddo esgyn i fod yn brif Chwip y Rhyddfrydwyr, meddai'r Sketch: 'Some of the Tapers and Tadpoles murmured; it was necessary, in their opinion that the man holding such a post should be a society "swell".'

Er hynny credai'r papur iddo fod yn Chwip llwyddiannus, a'i ddisgrifio fel, '. . . slim, lithe, alert figure'. Mynegwyd syndod yn yr Echo ei fod yn siaradwr Cymraeg rhugl, ac mai dyna a droes y fantol o'i blaid fel ymgeisydd Rhyddfrydol ym Meirionnydd. Dylasai'r South Wales Daily News wybod yn well na rhyfeddu ei fod yn dal yn flaenor gweithgar yng nghapel Cefnddwysarn ac yntau'n ŵr mor brysur.

At ei gilydd, cafwyd mwy o sylwedd yn y papurau a gylchredai yng Nghymru wrth adrodd am ei areithiau hyd y wlad. Gwyddai yntau sut i ddenu sylw'r wasg. Wrth annerch Cymry Lerpwl un tro dywedodd mai'r  '. . tair felltith fwyaf i iechyd y Cymry yw Baco Amlwch, cig mewn tun a the wedi'i stiwio'. Mae'n debyg mai'r arfer o gnoi baco oedd yn wrthun iddo, a'r cig o dun yn arwydd o fyw o'r llaw i'r genau heb baratoi bwyd, ond dibynnu ar fwyd parod, a gwyddai'n dda am dai lle'r oedd y tebot ar y pentan drwy'r dydd.

Dro arall, papur wal a ddaeth o dan ei lach. Sylwodd fod Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1897, yn cynnig gwobr am gynllun i bapur wal, a dywedodd ei bod hi'n hen bryd i ryw Gymro gynllunio papur chwaethus, artistig yn lle'r erchyllterau a oedd i'w gweld ar barwydydd tai Cymru.

Yn Nolgellau, ar achlysur agor Ysgol Sir y Bechgyn, anogodd rieni i gynnau tan yn y parlwr. '. . . Peidiwch â chadw'r parlwr fel rŵm orau na fydd neb byth yn mynd iddi,' meddai, yn lle'i bod yn magu tamprwydd cyneuwch dân yno a'i gwneud yn gyfforddus er mwyn i'r bechgyn gael lle i wneud eu gwaith cartref mewn llonydd. Sut ydech chi’n disgwyl i'r hogie ganolbwyntio ar eu gwersi yn sŵn siarad efo'r cymdogion a'r mynd a dŵad sy'n digwydd yn y gegin?'

Pan gyhoeddwyd dyweddïad Tom Ellis gyda Annie Davies, Cymraes o sir Aberteifi, rhoes papurau Lloegr gryn sylw i'r digwyddiad. Credai'r Sheffield Telegraph y gallai'r Aelod Seneddol fod wedi manteisio'n boliticaidd pe bai wedi dewis, 'a lady of wealth'; ac meddai'r Irish Times, ' . . In a social sense Mr Ellis might have done much better, but the marriage is a pure love match'. Rhoes y South Wales Daily News ddiwedd ar y sibrydion fod, ' . . Mr Tom Ellis, M.P., was paying court to a lady of title'. Llongyfarchodd Rhyddfrydwyr Meirion ef am ddewis Cymraes yn hytrach na mynd dros Glawdd Offa i chwilio am gymar.

Gwnaed môr a mynydd o'r ffaith mai yn Gymraeg y cynhaliwyd seremoni'r briodas, bod y gwahoddiadau hefyd yn Gymraeg ac egluro ystyr 'neithior'. Yn naturiol cafodd y fodrwy briodas o aur Gwyn­fynydd gryn sylw. Anrheg ydoedd oddi wrth berchennog gwaith aur Gwynfynydd, Pritchard Morgan, A.S. Merthyr Tudful. Cerfiwyd enwau Tom a Nansi oddi mewn ynghyd â: '. . . suitable Welsh motto', yn ôl un papur. Llinell o'r gerdd 'Ar Hyd y Nos' gan Ceiriog ydoedd, sef 'Rhown ein golau gwan i'n gilydd'.

Darganfu'r Sun fod geiriau'r emynau a'r tonau a genid yn y briodas yn waith '. . .the two most obstinate bachelors of the Corph.' Dyfed a David Jenkins, cyfansoddwr y dôn 'Penlan', oedd y ddau. Sylwyd hefyd mai hen lanc oedd Isambard Owen y gwas priodas.

Chwiliwyd rhestr yr anrhegion priodas, a chael hwyl wrth holi, '. . . what will he do with nearly a dozen silver ink stands? ' Yr anrheg mwyaf nodedig oedd les y tŷ yn Cowley Street, Westminster, rhodd rhai o gydweithwyr goleuedig Tom Ellis. Diddorol yw sylwi ar amrywiaeth yr ansoddeiriau i ddisgrifio'r tŷ a'i leoliad; un papur yn sôn amdano mewn '...very picturesque corner of old London'; yr Eastern Morning News yn dweud yn blaen nad oedd y tŷ hen ffasiwn '. . . not much to look at outside, but inside, quaint and convenient'. Dewisodd papur o Belfast yr ymadrodd 'old world' yn hytrach nag old fashioned, a mynd ymlaen i enwi eu cymdogion aristocrataidd.

Tai o gyfnod y Frenhines Anne (1702-1714) sydd yn Cowley Street, a bellach yn destun edmygedd. Gan mlynedd yn ôl, adlewyrchu chwaeth gyffredinol yr oes a wnâi'r papurau.

Bu Tom Ellis yn ymgyrchu dros sefydlu ysgol neu goleg pensaernïol yng Nghymru er mwyn codi safon chwaeth ei gyd-wladwyr.