TRI ARLOESWR ~ W.J.Edwards yn cofio
A NINNAU ar drothwy cyfnod newydd gyda sefydlu'r Cynulliad y gwanwyn yma mae'n dda cael dwyn ar gof gyfraniad tri gwron fu'n paratoi'r ffordd ar ei gyfer yn y ganrif ddiwethaf. Mae'n briodol eu cofio yn awr am i'r tri farw o fewn saith mis i'w gilydd, Thomas Gee ar 28 Medi 1898 yn 83 oed; Michael D. Jones ar 2 Rhagfyr yr un flwyddyn yn 76 oed; a Thomas Edward Ellis ar 5 Ebrill 1899 yn ddim ond deugain oed.
Trafodwyd cyfraniad Thomas Gee yn y cofiant swmpus a luniodd T. Gwynn Jones yn 1913, a'r llynedd, ar ben canmlwydd ei farw, cyhoeddodd Gwasg Gee gyfrol ddiddorol Ieuan Wyn Jones, A.S., Y Llinyn Arian: agweddau o fywyd a chyfnod Thomas Gee. Cawn ddarlun ohono yn gymeriad cadarn a dylanwadol ac yn ffigur canolog ym mywyd gwleidyddol y genedl yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Addysgwyd Gee yn Ysgol Grove Park, Wrecsam ac Ysgol Ramadeg Dinbych ac yn bedair ar ddeg oed fe'i prentisiwyd yn argraffdy ei dad yn Ninbych. Bu'n perffeithio'i grefft am ddwy flynedd yng ngwasg Eyre & Spottiswode, Llundain, cyn dychwelyd yn 1838 i ymuno â busnes ei dad. Yr un flwyddyn dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a bu wrthi weddill ei ddyddiau gan ddod yn un o leygwyr mwyaf ei ddylanwad yn ei enwad. |
Yn 1845 collodd ei dad ac o'r flwyddyn honno hyd ei farwolaeth bu'n gyfrifol am ddatblygu Gwasg Gee i fod yn sefydliad o bwys cenedlaethol. Yn 1845 y dechreuodd gyhoeddi'r Traethodydd a olygir ers blynyddoedd bellach gan yr Athro Emeritws J. E. Caerwyn Williams. Yn 1854 dechreuodd ar antur fawr arall, sef cyhoeddi Y Gwyddoniadur a ymddangosodd mewn deg cyfrol fawr rhwng hynny a 1879, wedi'u golygu gan frawd yng nghyfraith Gee, John Parry, Athro yng Ngholeg y Methodistiaid yn y Bala. Costiodd yr encyclopaedia £20,000 a dyma'r ymgyrch gyhoeddi fwyaf yn Gymraeg.
Hon oedd oes aur y wasg yng Nghymru a llifodd nifer enfawr o gylchgronau, newyddiaduron, geiriaduron, cofiannau a chyfrol o emynau, pregethau a barddonaeth o'r tŷ cyhoeddi yn Lôn Swan, Dinbych. Ond y pwysicaf a'r mwyaf dylanwadol o gyhoeddiadau Gee oedd Baner ac Amserau Cymru, a lansiwyd yn 1859 pan unwyd Yr Amserau a Baner Cymru. Trwy gyfrwng Y Faner daeth Gee yn ddylanwad mawr ym mywyd gwleidyddol, cymdeithasol a chrefyddol Cymru am gyfnod maith.
Er mai Gwilym Hiraethog, un o ysgrifenwyr blaenaf y cyfnod, oedd golygydd cyntaf Y Faner, prin yw rhaid dywedyd,' meddai T. Gwynn Jones, 'fod ei ddelw ar Y Faner o'r cychwyn', a chyn bo hir cymerodd reolaeth y papur yn hollol yn ei law ei hun. Nid oedd yn llenor mawr, ond casglodd nifer o ysgrifenwyr galluog o'i gwmpas a chreodd bapur newydd cwbl arbennig. Bu'r Faner yn llwyfan parod i draethu neges bendant ynglŷn â phynciau megis Helynt Beca, Rhyfel y Degwm, Datgysylltiad yr Eglwys a Diwygio'r Tir. Pan fu farw Gee yn 1898 yr oedd gan y papur gylchrediad o 50,000 ac un o drasiedïau ein cyfnod ni oedd dirwyn yr wythnosolyn i ben yn 1992. Dylid mynd ati i adrodd stori drist diflaniad Y Faner.
Ni fu'r berthynas rhwng Thomas Gee a Michael D. Jones yn frawdol iawn bob amser fel y gellid disgwyl efallai o gofio personoliaethau cryf y ddau. Ond buont yn cyd-ymgyrchu ar lwyfannau ac yn y wasg am gyfnod hir er rhaid cofio, meddai Ieuan Wyn Jones, nad '. . . oedd Thomas Gee yn genedlaetholwr fel yr oedd Michael D. Jones neu Emrys ap Iwan'. Gwyddom am Michael fel tad y deffroad cennedlaethol (ac erbyn hyn taid y Cynulliad efallai), sylfaenydd gwladfa Patagonia, pregethwr, prifathro a llenor a gyfrannodd yn gyson i'r cylchgronau Cymraeg, yn enwedig Y Geninen a'r Celt, ond nid pawb a ŵyr iddo, ar y cyd â Huw Puw Jones, Dinas Mawddwy, gyhoeddi Y Gwenynydd, llawlyfr ymarferol ar gadw gwenyn. Argraffwyd y gyfrol ddiddorol yng ngwasg Humphrey Evans, y Bala yn 1888 a bu'n rhaid aros hyd 1972 cyn cael cyfrol arall yn manylu ar gadw gwenyn, Y Fêl Ynys, gan olygydd Y Casglwr. |
Y mae Michael yn egluro mai Huw P. Jones oedd y gwenynwr profiadol (er rhaid cofio fod Michael yn cadw gwenyn yn ei gartref, Bodiwan yn y Bala) ac ar ôl iddo'i glywed yn traethu'n wybodus am y pwnc iddo'i annog i '. . . gyhoeddi llyfr ar y gwenyn gan nad oes gennym un yn y Gymraeg'. Cytunodd yntau ac mae'n amlwg mai rhan Michael yn y fenter oedd golygu'r gwaith.
O gofio ymgyrchoedd Michael yn erbyn y landlordiaid megis Syr Watcyn a Price y Rhiwlas adeg etholiadau yn arbennig mae'n syndod gweld ei fod wedi cyflwyno'r gyfrol `i Mrs Evelyn Price, Rhiwlas, boneddiges ag y mae ei chlod ar led fel un sydd yn dymuno yn dda i'r dosbarth gweithgar, a pharod i roddi ei nhawdd a'i help i bob ymdrech er gwella cyflwr y tlodion, a dyrchafu dynion diwyd o bob gradd'.
Os trowch chi i'r Geninen yn wyth a nawdegau'r ganrif ddiwethaf fe welwch erthyglau cyson gan Michael ar y Gymraeg, e.e. yn 1891, 'Difodi y Gymraeg yn barhad o oresgyniad Cymru'. Ynddi mae'n annog pawb i roi enwau Cymraeg ar dai a strydoedd ac uwchben siopau, ac mae'n hallt ei feirniadaeth ar y gyfundrefn addysg estron, 'Y mae ysgol Seisnig y llywodraeth yn ceisio gorffen yr hyn y mae cleddyf y Sais wedi'i ddechrau'.
Dywed Gwenallt mai Michael D. Jones oedd 'Cymro pennaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r cenedlaetholwr mwyaf ar ôl Owain Glyndŵr'. Dywed hefyd mai disgyblion iddo oedd O. M. Edwards, David Lloyd George a Thomas Edward Ellis, ond nad oedd y tri cystal Cymry â'u hathro. Michael a ddysgodd wir hanes Cymru i O. M. Edwards ac ef a ddywedodd wrth y Lloyd George ifanc mewn cyfarfod ym Mlaenau Ffestiniog y dylai gyfnewid desg cyfreithiwr am sedd yn y senedd. A'r gŵr o Fodiwan oedd un o'r 'dylanwadau mwyaf ar fab Y Cynlas fel y cyfaddefodd Tom Ellis fwy nag unwaith yn y wasg 'ac yn ei deyrnged i Michael yn ei angladd yn Llanuwchllyn, bedwar mis cyn ei farw yntau. Yn un o'i lythyrau dywed Tom Ellis 'fod radicaliaeth a chennedlaetholdeb Michael '. . . wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi er pan yn fachgennyn yn ysgol y Llan a'r Grammar School'.
Ac yn yr angladd yn yr Hen Gapel dywedodd am Michael: 'Yr oedd ynddo rywbeth a'i gwnâi yn arweinydd. Yr oedd ei gydwybod yn fyw, a'i feddwl yn glir a deallus a byddai'n mynd at wraidd egwyddorion. Diolch byth i'r Brenin Mawr am anfon i Gymru arweinydd fel ef.' Mae'n ddirgelwch i mi pam na thrafodwyd dylanwad Michael yn y cofiannau i Tom Ellis ac O. M. Edwards ac oherwydd y diffyg hwnnw a bod ffigur mor ddylanwadol wedi'i anwybyddu gan ormod o haneswyr y mae mawr angen am gofiant safonol i Michael D. Jones.
Gwyddom am lafur mawr Tom Ellis fel aelod seneddol Meirion ac fel un o arweinyddion Mudiad Cymru Fydd ac fel llenor a allai fod wedi cael gyrfa lwyddiannus fel newyddiadurwr. Cyfrannodd erthyglau yn gyson i'r papurau a'r cylchgronau Cymraeg a Saesneg, e.e. y South Wales Daily News, y cafodd gynnig ymuno â'i staff gan y golygydd John Duncan, wedi i Tom Ellis ddweud wrtho y carai fod yn newyddiadurwr. |
Cyfaill pennaf Tom Ellis oedd D.R. Daniel, a aned yn Nhynbryn, Cefnddwysarn, nid nepell o'r Cynlas, dri mis ar ôl ei gyfaill yng ngwanwyn 1859. Bu Daniel yn ysgrifennydd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ac yn gyfrannwr cyson i'r papurau a'r cylchgronau Cymraeg. Dywedwyd ei fod yn ysgrifennu rhyddiaith gorau ei ddydd. Wrth feddwl am gyfraniad y ddau gyfaill i'r wasg cofiais fod fy nghyfaill Ifor Owen (un o blant Cefnddwysarn) wedi dweud wrthyf fod yr hen Marged Jones ym mhentre'r Cefn yn gosod dalennau o bapur ar fwrdd ei chartref yn y Tŷ Croes er mwyn i'r ardalwyr groniclo hanesion a digwyddiadau'r fro. Ai hwn oedd papur bro cyntaf Cymru? Rwy'n hoffi meddwl fod y ddau fachgen o Dynbryn a'r Cynlas wedi bwrw'u prentisiaeth ar fwrdd yr hen wraig, gwraig yn ôl cofiant Tom Ellis y bu ef yn ysgrifennu ati pan oedd oddi cartref.
Cymwynas olaf Tom Ellis i'w genedl oedd golygu'r gyfrol gyntaf o Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd, rai misoedd cyn marw. Ei frawd yng nghyfraith, y prifathro J.H. Davies, Aberystwyth, a olygodd yr ail gyfrol sy'n cynnwys cofiant Morgan Llwyd, yn 1908. Mae'n ddiddorol fod Tom Ellis wedi cyflwyno'r gyfrol i goffadwriaeth Michael D. Jones a Lewis Edwards, dau arwr iddo a dau brifathro yn y Bala ar golegau'r Annibynwyr a'r Methodistiaid.
O gofio am ddiddordeb Thomas Edward Ellis yn Morgan Llwyd ac iddo farw'n ddeugain oed, mae'n briodol mai geiriau Llwyd a gerfiwyd ar gofgolofn mab y Cynlas a ddadorchuddiwyd ar Stryd Fawr y Bala, 7 Hydref 1903: 'Amser dyn yw ei gynhysgaeth'. Ac fe gofiwn mai ail ran y frawddeg yw: 'A gwae a'i gwario'n ofer'. Gwario'i amser i wasanaethu pobl Meirion a Chymru a wnaeth Tom Ellis.