'THE CHURCH BY BANUS BYME' a Samuel y Gwehydd
gan Dafydd Whiteside Thomas

AR ddiwedd Hydref 1994 trosglwyddwyd llythyr i mi gan un o wardeiniaid Eglwys Llanrug wedi'i gyfeirio i 'Church by Banus Byme, Parish of Llanrug, Caernarvon'. Fe'i hanfonwyd gan Joseph Williams o Lancaster, Califfornia a oedd yn ceisio olrhain achau ei daid a'i hendaid (a ymfudodd i'r America tua 1855) ym mhlwyf Llanrug ac yn gobeithio cael gwybodaeth o gofrestrau'r plwyf. Gan fy mod yn cynnal tudalen ar hanes lleol yn y papur bro Eco'r Wyddfa, a hefyd yn hel achau, tybiodd wedyn y byddai gen i ddiddordeb mewn cynorthwyo'r dyn o Galiffornia.

Roedd y cyfeiriad at eglwys `ger Banus Byme' yn hollol ddieithr. Ble cafodd Joseph Williams y wybodaeth? A oedd yn ysgrifenedig ganddo yn rhywle? A oedd wedi clywed yr enwau gan ei dad, ac wedi eu sillafu yn ôl yr ynganiad? Does dim cae na thyddyn yn agos i eglwys Llanrug gydag enwau cyffelyb; yn wir ni allwn ddarganfod #unrhyw enwau tebyg o fewn ffiniau'r holl blwyf. Ac er i mi apelio yn fy nhudalen yn y papur bro, doedd neb arall ddim callach 'chwaith. Ac eto, roedd yr ateb mor syml. Derbyniodd Joseph Williams gopi o dystysgrif priodas ei hendaid, a cham­gopïodd ran ohoni: 'Married in the Parish Church according to the Rites and Ceremonies of the Established Church by banns by me . . . ' Dyna'r penbleth cyntaf wedi'i ddatrys.

Doedd hi ddim yn rhy anodd darganfod y cysylltiadau teuluol oherwydd i un gangen o'r teulu aros yn bur sefydlog yn ardal y Bwlch Gwnnog a'r Clegir uwchben pentref Cwm-y-glo. Bonws ychwanegol oedd darganfod fod rhai o ddisgynyddion y teulu yn parhau i fyw yn yr un ardal, a bellach maent mewn cysylltiad â'u perthnasau yng Nghaliffornia.

Deillia'r teulu o wehydd o'r enw Samuel Pritchard, a oedd yn byw ym mhlwyf Llanrug ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif (mae cofnod o'i briodas ar gael yn 1734). Mab iddo oedd William Samuel, yntau hefyd yn wehydd, a aned tua 1750 ac a fu byw dros ei bedwar ugain oed.

Yn rhifyn cyfansawdd Y Casglwr (56/57 Haf 1996) mae Mari Ellis yn rhoi ychydig bigion o lyfr cofnodion Peter Bailey Williams a'i wraig Hannah am y blynyddoedd 1815 hyd 1817. Sonnir am Hannah yn talu 5/6 i Samuel y gwehydd am nyddu 22 llathen o ddefnydd. Yn ddiweddarach, mae taliad arall o 16/- yn cael ei wneud i Samuel. Y William Samuel uchod oedd hwn yn sicr. Erbyn y blynyddoedd hyn roedd yn byw yng Nghlawdd Llwyd, tyddyn bychan yn ardal Tan-y-coed wrth odre'r Cefn Du. Roedd ei wraig, Elizabeth Michael, wedi marw ers 1814 ac yntau bellach yn byw gyda'i fab, Dafydd Williams, a'i deulu. Gwehydd oedd Dafydd Williams hefyd, a dyna sut y disgrifia'i hun mor ddiweddar â Chyfrifiad 1851 er bod ei feibion ef erbyn hynny yn chwarelwyr.

Ym meddiant Mrs Mair Williams, Cwm-y-glo, un arall o ddisgynyddion yr hen wehydd, mae Llyfr Gweddi Cyffredin a gyhoeddwyd yn 1746 a William Samuel y gwehydd oedd perchennog y llyfr. Mae ei lofnod ar du mewn y clawr ac yn yr un llawysgrifen, yr englyn canlynol:

Mae'r dyddiad 1786 wrtho. Flwyddyn yn ddiweddarach ysgrifennwyd 'David Williams, aged 13'. Mae'r dyddiad hwn yn cytuno â dyddiad geni/bedydd y mab.

Mae'n amlwg felly bod y gwehydd yn medru darllen ac ysgrifennu erbyn 1786 ac mae'n debyg iddo ddysgu'r 'a-bi-ec' yn un o ysgolion Griffith Jones a gynhaliwyd yn Llanrug am amryw dymhorau. (Yr oedd ysgol ddydd yn Llanrug erbyn 1795 a Morris Griffith yn ysgolfeistr. Erbyn 1811 roedd 'circulating Welsh charity school' yno a rhyw ddeugain o blant yn ei mynychu, gyda Dafydd Ddu Eryri yn athro.) Byddai'n ddiddorol gwybod ai William Samuel oedd awdur yr englyn, ac os felly, gan bwy y dysgodd gynganeddu? Gallai fod yn Ddafydd Ddu Eryri, er bod hwnnw tua deng mlynedd yn ieuengach na'r gwehydd; ond gwyddom fod eisteddfod wedi ei chynnal ym Metws Garmon gyfagos yn 1784, a bod hwn yn gyfnod 'cywion' Dafydd Ddu.

Roedd yn arferiad gan Peter Bailey Williams i ysgrifennu nodiadau perthnasol ar gofrestrau'r plwyf ar achlysuron bedyddio, priodi a chladdu ei blwyfolion. Mae hynny'n arbennig o wir am y cofrestrau claddu, lle ceir nodiadau ymyl y ddalen ar gymeriad yr ymadawedig, ar ei salwch, am ei berthnasau neu hyd yn oed ei lysenw. Ar gofnod claddu Elizabeth Michael yn 1814 ysgrifennodd, 'Wife of William Samuel the weaver'.

Gogyfer â'r ugain person a gladdwyd yn ystod 1832 mae ganddo nodiadau ymyl y ddalen am ddeuddeg ohonynt, rhai yn fanwl iawn. 0'r gweddill, roedd bachgen un ar bymtheg oed heb sylw, a chwech o blant llai na dwyflwydd oed heb sylw. Ond am William Samuel, does dim ond cofnod moel o'i gladdu yn 81 oed. A chysidro y gallai'r hen wehydd ddarllen ac ysgrifennu (os nad cynganeddu) mor gynnar â 1786, a'i fod yn aelod eglwysig yn Llanrug, yn ogystal â chyflenwi cartref y rheithor â defnyddiau, mae'n od na wnaeth Peter Bailey Williams unrhyw sylw yng nghofrestr y plwyf ar achlysur ei gladdu.

Ar y llaw arall, efallai nad y gwehydd oedd awdur yr englyn. Tybed a oes rhywun o ddarllen­wyr Y Casglwr all daflu goleuni ar y mater?