PWY OEDD CRE-FYDD? gan Dr.Elwyn Hughes, Pentyrch

 

UN o lyfrau coginio mwyaf poblogaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Cre-fydd's family fare; the young housewife's daily assistant. . . a gyhoeddwyd gyntaf yn 1864. Bu sawl argraffiad wedyn hyd at o leiaf 1880. Yn amlwg ar glawr blaen y llyfr, yn ogystal ag ar y ddalen deitl, roedd arfbais a oedd hefyd yn dwyn y gair 'Cre-fydd'. Pwy oedd yr awdures (gwyddom mai gwraig oedd hi) a phaham y dewisodd ddefnyddio ffugenw 'Cymraeg' sy'n gwestiwn diddorol. Distawrwydd llethol a geir gan y llyfryddiaethau arferol a chan Halkett a Laing. 'I would be interested to know the origin of "Cre-fydd",' meddai Simon Gough yn un o'i gatalogau llyfrau, gan ychwanegu 'Crefydd is the Welsh word for Religious, but the book hardly exudes chapel . . .'

Cyhoeddodd 'Cre-fydd' lyfr arall — a llawer prinnach — yn 1867, Meals for the million ...suited to incomes from £100 to £250 a year. Ond ni chyfyngodd ei gweithgareddau i'r gair ysgrifenedig yn unig. Mae ei llyfrau'n cynnwys hysbysebion am nifer o bethau a ddyfeisiwyd ganddi — padell ffrio omledau, Algonicon (darpariaeth at drin llu mawr o afiechydon), a phedwar saws a farchnatawyd ar ei rhan gan Crosse and Blackwell.

Yn y seithfed (1874) argraffiad o'i Family fare . . . mae'n dadlennu'r reséit am ddau o'r sawsiau hyn - Casureep a Gialla. Mae casureep yn cynnwys saith ar hugain o gynhwysion; hyd y gwelaf nid yw'n dwyn unrhyw berthynas o gwbl â cassareep clasurol. Mae gialla yn symlach ei gyfansoddiad ac yn seiliedig ar eirin Mair a nionod.

Ar 11 Ionawr 1876 cafwyd cais i gofrestru'r nod masnachu 'Gre-fydd'(sic) ar gyfer meddyginiaethau patent. Enw'r ceisydd oedd Anne Eliza Griffiths a'i disgrifiodd ei hunan fel 'widow (gentlewoman)'; honnodd ei bod wedi defnyddio'r disgrifiad 'grefydd' oddi ar 1870. Ei chyfeiriad oedd 9 Addison Gardens, Kensington. 'Kensington' oedd y cyfeiriad wrth y sylwadau rhag­arweiniol i Cre-fydd's family fare ... hefyd. Mentraf awgrymu felly mai Mrs A. E. Griffiths oedd 'Cre-fydd' ond am ei chysylltiad â Chymru ni ellir ond dyfalu.

Mae copïau o Cre-fydd's family fare ... yn gymharol gyffredin o hyd. Rhaid hefyd fod llestri a jariau'n dwyn yr enw Cre-fydd yn ddigon cyffredin ar un adeg ond nid wyf hyd yma wedi gweld un yn unman. Tybed a oes un gan un o ddarllenwyr Y Casglwr?