PORSLEN NANTGARW AC ABERTAWE gan Walford Gealy

DIM ond am gyfnod byr, o tua wyth mlynedd ar y mwyaf, rhwng 1814 a 1820/1, y cynhyrchwyd porslen yng Nghymru, a hynny mewn dau le yn unig, sef Nantgarw ac Abertawe. Eto, bu ansawdd peth o'r cynnyrch hwn odidoced â dim a gynhyrchwyd ar unrhyw adeg, ac yn rhywle arall, yn y byd.

Athrylith o Sais oedd y person a fu'n bennaf gyfrifol am y llwyddiant hwn, sef William Billingsley. Ganwyd Billingsley yn Derby yn 1758 yn fab i addurnwr porslen o'r un enw a oedd yn gweithio yn ffatri borslen enwog y ddinas honno. Ymunodd y mab â'i dad er mwyn bwrw ei brentisiaeth yn yr un gwaith yn 1774, ond cymaint oedd dawn y Billingsley ifanc nes yr ymddiriedwyd iddo y gwaith o addurno cynnyrch gorau'r ffatri cyn iddo gwblhau ei gyfnod o hyfforddiant. Yn ogystal, tyfodd cyfeillgarwch agos rhyngddo a phrif arlunydd y ffatri, Zechariah Boreman.

Ond serch ei lwyddiant anhygoel, anniddig oedd Billingsley oherwydd y safonau uchel a osododd i'w hunan. Credai nad oedd ansawdd porslen Derby yn ddigon da i wneud cyflawnder â'i ddawn addurno. Felly, dyma ddechrau ar y stori hir o'r tyndra a fu'n rhan o holl fywyd Billingsley o hyn ymlaen, sef y dyhead i fod yn grochenydd fyddai'n cynhyrchu porslen tebyg i borslen Sevres, a'r dyhead i fod yn addurnwr porslen heb ei ail.

Oherwydd y dyheadau hyn, gadawodd Billingsley ffatri Derby gan fwrw ar ei liwt ei hun. Symudodd ef a'i deulu gyntaf oll, yn 1795, i Pinxton, lle cododd grochendy ar y cyd gyda'r rheithor lleol, John Cook. Rhaid deall o'r cychwyn fod y mentro hwn yn beth eithriadol o gostus a'r prif angen oedd am nawdd ariannol. Wedi peth llwyddiant yn Pinxton, daeth yr arian i ben.

Symudodd Billingsley a'i deulu i Mansfield, lle trodd ran o'i gartref yn stiwdio addurno porslen. Bu yma am dair blynedd yn prynu porslen o wahanol ffatrïoedd a'u harlunio yn ei gartref.

Ond methodd Billingsley â rheoli'i ysfa i gynhyrchu porslen ei hun a dyma symud eto (y tro hwn gyda'i ddwy ferch yn unig, a heb ei wraig a ddychwelodd i fyw at ei thylwyth yn Derby) i Brampton ym mhlwyf Torksey lle, gyda phartner newydd o'r enw Samuel Walker, cododd odynau ar lan afon Trent. Dechreuwyd cynhyrchu porslen yma yn 1802 a bu'r ffatri'n gweithio hyd 1808 — eto nes i'r arian ddod i ben. Ni wyddys fawr o ddim am gynnyrch y ffatri hon.

Crwydrodd Billingsley a'i ddwy ferch a Walker yn gyntaf i Fryste ac yna i Abertawe i chwilio am waith, cyn iddynt lwyddo o'r diwedd yn Nghaer­wrangon, a chael gwaith yn ffatri Flight, Barr a Barr. Yno y buont am bum mlynedd. Tra'n byw yno llwyddodd Billingsley a Walker (a briododd Sarah, merch hynaf Billingsley hefyd yng Nghaerwrangon) gynhyrchu porslen o ansawdd rhagorol a gwerthasant y fformiwla i berchnogion y ffatri. Wedi derbyn arian am y gyfrinach, symudodd y ddau i Nantgarw i sefydlu eu gwaith eu hunain. Mae'n debyg i'r ddau fod wedi sylwi ar addasrwydd y safle yn Nantgarw ar gyfer cynhyrchu porslen ar eu taith, bum mlynedd ynghynt, o Abertawe i Gaerwrangon.

Daethant i Nantgarw yn Nhachwedd 1813 a gyda nawdd gŵr lleol, William Weston Young, codasant odynau i gynhyrchu porslen. Dechreuwyd cynhyrchu ar ddechrau'r flwyddyn olynol. Ymwelodd Iolo Morgannwg â'r ffatri ym Mawrth 1814. Roedd ansawdd y cynnyrch gorffenedig yma yn rhagorol - ond roedd y colledion yn yr odynau cynddrwg â 90% ar brydiau. Roedd angen mwy a mwy o nawdd. Daeth sôn am y porslen rhagorol a gynhyrchwyd yn Nantgarw i glyw Lewis Weston Dillwyn, sef perchen crochen­waith y Cambrian yn Abertawe. Llwyddodd Dillwyn i ddenu Billingsley a Walker i Abertawe gyda'r addewid y byddai'n gefn iddynt ac y codid dwy odyn newydd at y pwrpas penodol o gynhyrchu porslen.

Felly dyma symud i Abertawe cyn diwedd 1814 a dechrau cynhyrchu yno borslen nid annhebyg i'r hyn a gynhyrchwyd yn Nantgarw, sef porslen gwydraidd. Roedd y colledion yn yr odynau'n dal yn uchel o hyd ac yn llosgi poced Dillwyn. Felly  rhaid oedd arbrofi ar greu porslen llai colledus. Ymhen dim, cynhyrchwyd porslen gwych a elwir yn 'borslen wy­hwyad'- gan iddo feddu ar liw gwyrdd ysgafn tebyg i blisgyn wy hwyad. Ond eto, roedd hwn yn rhy gostus a chafwyd trydydd porslen, o ansawdd llai cymeradwy, a elwir yn `borslen trident' - am fod yr arwydd o fforch wedi'i wasgu arno. Yr oedd y porslen hwn yn llai costus o lawer ond o safon esthetig a oedd yn annerbyniol i Billingsley. Bron o'r cychwyn bu tyndra rhwng Billingsley a Dillwyn. Roedd uchelgais esthetig Billingsley yn gwbl groes i amcanion masnachol Dillwyn - ac yn y diwedd methiant fu'r ymdrechion am gyfaddawd rhyngddynt. O ganlyniad, yn 1817, dychwelodd Billingsley a Walker yn ôl i Nantgarw ac ailgychwyn cynhyrchu porslen yno. Siomwyd Billingsley ymhellach gan ddwy drychineb. Yn ystod yr wythnosau olaf yn Abertawe, bu farw ei ferch hynaf, sef Sarah, gwraig Walker, ac fe'i claddwyd yn Abertawe. Ac o fewn dim iddo gyrraedd yn ôl yn Nantgarw collodd ei ail ferch, Lavinia, ac fe'i claddwyd hi yn Eglwysilan, ger Nantgarw.

Yn ogystal, ailddatblygodd y problemau ariannol a bu'n rhaid i'r gwaith ddod i ben yn 1820. Symudodd Billingsley, a oedd bellach yn 62 oed, a Walker, y tro hwn i Coalport, lle bu Billingsley farw yn 1828.

Yn ystod cyfnod cynhyrchu porslen yn Abertawe, yn ôl dyddiaduron Dillwyn, arbrofwyd ag un ar ddeg o wahanol fformiwlâu ar gyfer gwneud porslen. Eto dim ond y tri math a enwir uchod sy'n adnabyddus. Felly y mae llawer o anwybodaeth a dyfalu o hyd ynglŷn â'r wyth math arall a chan nad oes marciau bob amser ar lestri Abertawe, y mae llawer iawn o ansicrwydd yn dal i fod ynglŷn â phriodoli nifer o ddarnau porslen i'r ffatri honno. Bu Billingsley nid yn unig yn rhan o'r mentro cynnar i gynhyrchu porslen yn Abertawe ond hefyd bu wrthi'n ei addurno. Yn ogystal, roedd yn dysgu arlunwyr ifanc eraill yn y ffatri a daeth rhai o'r arlunwyr hynny yn enwog, megis Henry Morris, David Evans a William Pollard. Pan ddirywiodd y berthynas rhwng Dillwyn a Billingsley cyflogwyd un o'r addurnwyr gorau posib ganddo, sef Thomas Baxter (yr ail) a weithiodd yn y ffatri o 1816 hyd 1819. Ond nid yw'r addurn ar lestri Abertawe bob amser o'r radd uchaf gan fod llawer o enghreifftiau o borslen a addurnwyd gan brentisiaid.

I'r gwrthwyneb yn llwyr, y mae ansawdd porslen Nantgarw yn gyson ragorol a'r addurn yn gampus bron bob amser. Y prif reswm am hyn yw fod bron y cyfan o'r cynnyrch wedi ei addurno mewn gweithdai proffesiynol yn Llundain. Ychydig iawn o addurno personol Billingsley sydd ar borslen Nantgarw, a hynny am iddo ef roi ei egni'n llwyr i'r gwaith o gynhyrchu. Pan adawodd y ffatri yn 1819 roedd arno ddyled i William Weston Young a gadawodd Billingsley y llestri nas addurnwyd oedd ar ôl fel rhan o'i dâl i Young. Cyflogodd Young arlunydd enwog arall i addurno'r darnau hyn, sef William Pardoe, arlunydd y bu cysylltiad hir ganddo ag Abertawe, gan iddo addurno crochenwaith yno am flynyddoedd cyn dyddiau Billingsley, cyn iddo adael am ffatri Bryste. Ac o Fryste y daeth nôl i Nantgarw - lle bu farw yn 1822. Y mae bron pob plât o Nantgarw wedi'i farcio'n glir (fel arfer, i'r enw Nantgarw C.W.) ac felly nid oes fawr o anhawster i'w adnabod. Ar y llaw arall, ni farciwyd llestri te Nantgarw yr un mor gyson. Ond eto, oherwydd ardderchowgrwydd yr ansawdd, ni all y cyfarwydd fethu ag adnabod porslen Nantgarw.

Nid yw felly parthed porslen Abertawe. Yma y mae'r amrywiaeth mewn safon yn peri trafferthion i'r mwyaf gwybodus yn y maes. Ond un canllaw ymhlith nifer yw adnabod gwaith yr arlunwyr yno. Eto, prin iawn yw'r enghreifftiau o law Billingsley ei hun. Ond yn ffig. 1 a 2 gwelir enghreifftiau campus o'i waith sy'n arddangos rhai nodweddion pendant o'i arddull. Ar y cwpan a'r soser gwelir enghraifft o un o brif wrthrychau addurn Billingsley, sef rhosynnau (gwyllt fel arfer). Billingsley oedd y cyntaf i ddatblygu'r dechneg o baentio'r rhosyn yn gyfan ac yna sychu ymaith ddarnau o'r coch i ddangos yr uchelfannau gwyn. Bron yn ddieithriad cynhyrchir y teimlad o fywyd a bywiogrwydd gan arddull Billingsley. Y mae egni ac ynni a symud yn y cyfan o'i gyfansoddiadau — elfennau, efallai, o'i bersonoliaeth ef ei hun. Yn ffig. 3 a 4 gwelir gwaith rhagorol David Evans — a gellir dirnad dylanwad cryf Billingsley ar ei waith. Er na cheir yr un mesur o symud yn y darluniau, ceir yr un math o lawnder a defnydd helaeth o liwiau meddal. Yn ffig. 5 a 6 ceir enghreifftiau o arddull Henry Morris. Eto gwelir dylanwad Billingsley arno ond, fel arfer, mae lliwiau Morris yn llai meddal a'r blodau yn duswau llawn. Yn ffig. 7 ceir esiampl o waith William Pollard. Mab i weinidog gyda'r Crynwyr oedd William ac y mae rhywfaint o naws tawel ei ffydd ar feddalwch ei liwiau a'i addurn. Yn y gweithiau hyn, a gwaith Thomas Baxter hefyd, y gwelir porslen Abertawe ar ei orau.

Cliciwch ar lun i'w weld ar ei lawn faint

1. Arddull William Billingsley 2. Arddull William Billingsley 3. Arddull David Evans 4. Arddull David Evans

5. Arddull Henry Morris   6. Arddull Henry Morris 7. Arddull William Pollard