MEWNFUDWYR I DDIWYDIANT PLWM SIR Y FFLINT
gan Bryn Ellis, Helygain
MAE haneswyr, ac eraill, wrth geisio egluro llwyddiant rhyfeddol Cymru i wrthsefyll y llifeiriant o ddylanwadau di-Gymreig sydd wedi ei wynebu dros y canrifoedd, yn sôn yn ddiben-draw am bwysigrwydd cadarnleoedd Eryri a Gwynedd yn y frwydr. Yn yr erthygl hon ceisiaf ddangos, trwy gyfrwng un esiampl arbennig, mai y man pwysicaf yn y frwydr hon, parthed gogledd Cymru, yw Sir y Fflint. Dyma'r llinell flaen. Yn y fan hon wynebwyd yr ymosodwyr yn gyntaf, megis y rhai milwrol fel y Rhufeiniaid a'r Normaniaid, ond hefyd y rhai economaidd, hynny yw, y miloedd a ddaeth i fewn i'r sir i ddatblygu y defnyddiau crai sydd i'w cael mewn amrywiaeth a chyfanswm rhyfeddol yma, a'r diwydianwyr a ddaeth i fanteisio ar rym y dŵr - fel yn nyffryn Maes-glas a'r ardaloedd glofaol. Mae'r ffaith bod yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig wedi parhau mor gryf yn yr ardal hon, hyd at gychwyn y ganrif hon o leiaf, yn deyrnged i wydnwch y boblogaeth gynhenid yng ngwyneb y llifeiriant. Y dechneg oedd croesawu'r mewnfudwyr a'u llyncu i mewn i'r gymdeithas gynhenid.
Gan fy mod ers rhai blynyddoedd wedi bod yn ymchwilio ac yn ysgrifennu hanes y diwydiant plwm ar fynydd Helygain, hoffwn dynnu eich sylw at rai esiamplau o'r hyn a ddigwyddodd i rai cannoedd o deuluoedd a ddaeth yma gyda'u sgiliau mwyngloddio. Mae hanes mwyngloddio am blwm ar fynydd Helygain yn mynd yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid, ond mae'r diwydiant modern yn dyddio o'r blynyddoedd o heddwch a ddilynodd yr Adferiad yn 1660. Fel y datblygodd y diwydiant, dyfnhawyd y pyllau ar y mynydd, ond i wneud hyn gwelwyd angen sgiliau nad oedd ar gael yn lleol. Dyna sut y bu i nifer o fwynwyr ddod yma o Swydd Derby, ardal â hanes hir o fwyngloddio am blwm. Rhai o'r enwau dieithr cyntaf i ddod yma yn y cyfnod ar ôl 1660 oedd Blackwell, Cheney, Denman, enwau a ddaeth yn gyfarwydd yn yr ardal wrth iddynt setlo a magu teuluoedd. Yn naw degau'r ganrif honno daeth eraill yma yn sgil y London Lead Company, cwmni o Grynwyr ac un o fuddsoddwyr mwyaf y cyfnod, ym Mryste a llefydd eraill, enwau fel Ames (neu Ams ar lafar Cymreig yr ardal), o ardal y Mendips, mae'n debyg.
Yn 1715 bu darganfyddiad mawr mewn cae bychan yn ymyl pentref Helygain, cae caregog diwerth oedd wedi ei etifeddu ychydig ynghynt gan George Wynne o Coed Llai. Yn fuan wedyn, darganfuwyd bod y wythïen lydan o blwm pur yn rhedeg trwy gaeau eraill yn ymyl. Gwahoddwyd buddsoddwyr a mwynwyr profiadol eraill o Swydd Derby i agor pyllau newydd dwfn. Er enghraifft, rhoddodd David Hughes a oedd, fel George Wynne, wedi etifeddu un o'r caeau cyfagos, y gwaith o gloddio am y plwm i'r Derbyshire Partnership, ac mae llawer o dystiolaeth mai dynion o Swydd Derby oedd yn arwain y cwmni a ddatblygodd y wythïen ar gae George Wynne. Mae pawb wedi clywed am y gold rush ond faint ohonoch sy'n medru dychmygu y lead rush? Wel, dyna beth ddigwyddodd yma. Daeth llawer nid yn unig o Swydd Derby i edrych am wythiennau eraill yn yr ardal, yn arbennig ar y mynydd agored, ac yn sgîl hyn bu llawer darganfyddiad newydd. Yn sydyn, trawsnewidiwyd yr ardal gyda chynnydd aruthrol yn y boblogaeth. Cafodd llawer ohonynt gartrefi trwy adeiladu tai unnos ar y mynydd a dyna sut bu i bentrefi fel Berth-ddu, Rhesy-cae, Rhosesmor a'r Felinwynt dyfu mor fuan.
Does wybod faint o ddynion a'u teuluoedd ddaeth i'r ardal i weithio'r pyllau newydd, ond mae cofrestri plwyf yr ardal yn dangos dros gant o enwau di-Gymraeg newydd, rhai fel Allen, Bagshaw, Barber, Bateman, Carman, Carrington, Close, Coates, Grattan, Harrison, Hawley, Hodgkinsons, Hooson, Ingleby, Martin, Needham, Nuttall, Oldfield, Redfern, Roose, Sheldon, Slack, Spencer, Stealey, Sterndale a Wagstaff. Wrth i'r brwdfrydedd gwreiddiol wanhau, a rhai o'r pyllau beidio bod mor gynhyrchiol, symudodd rhai ohonynt yn ôl i Swydd Derby, neu ymlaen i ardaloedd eraill lle bu darganfyddiadau newydd, e.e. i ardal Abergele ac, yn ddiweddarach, i'r pyllau copr ar fynydd Parys yn Sir Fôn. Er enghraifft, aeth John Close, neu Cloas (ganwyd yn Helygain yn 1725, mab i un yn wreiddiol o Swydd Efrog) i ardal Abergele ac wedi iddo briodi merch o Lanefydd ymfudodd i Sir Gaernarfon lle mae'r cyfenw hyd heddiw yn y ffurf 'Closs' - pobl sy'n cyfrannu'n fawr i'r diwylliant Cymreig. Enghraifft o Sais o Swydd Efrog yn cael ei drawsnewid yn Gymro gan ei arhosiad yn Helygain, Sir y Fflint, cyn mynd ymlaen i Sir Gaernarfon i gychwyn llinell deuluol hollol Gymreig.
Datgelodd gor-ŵyr un o'r mewnfudwyr hyn, Samuel Nuttall (1833-1925) yn ei atgofion (Archifdy Penarlâg, cyfeiriad D/DM/742) bod ei hen daid wedi dod o Swydd Derby gyda'i holl eiddo yn cael eu cario ar gefn mulod gan fyw mewn pabell ar y mynydd agored yn Licswm. Mae traddodiad lleol yn dal i sôn fel y bu plant y rhai hyn yn cael eu galw yn ddiweddarach y pannier children, cyfeiriad atynt yn cael eu cludo mewn basgedi ar gefn y mulod. Samuel hefyd a gychwynnodd y stori bod yr enw Licswm yn tarddu o ddisgrifiad y rhai cyntaf o Swydd Derby o'r fan fel 'a loiksome green place'. Gyda llaw, mae Samuel, a aeth i'r Wyddgrug i fyw, yn rhoi disgrifiad da yn ei atgofion o fywyd yn yr Wyddgrug yng nghyfnod Daniel Owen. Roedd brawd hynaf Samuel, John Nuttall (1822-77) yn fardd lleol pwysig. O dan yr enw Ioan Callestr, enillodd nifer o wobrau mewn eisteddfodau yn yr Wyddgrug, Llandegla a Threuddyn, a chyhoeddwyd cyfrol o'i waith, Caniadau Callestr, yn fuan wedi ei farwolaeth. Mae'r gyfrol yn cynnwys storïau byrion yn ogystal â phryddestau fel 'Atgyfodiad Lazarus' a 'Y Pentecost'.
Bu'n rhaid i frawd arall Samuel a John, sef Joseph Nuttall, adael yr ardal i chwilio am waith mwyngloddio. Aeth i weithio ym mhyllau Gwydir ger Llanrwst ac yna i Ddylife yn Sir Drefaldwyn, cyn ymgartrefu yng Nghwmsymlog yn Sir Geredigion. Roedd yn ddyn duwiol ac yn ddarllenwr awchus. Ceir ei hanes yn Y Cronicl, 1902. Cyhoeddodd ei fab, John Lloyd Nuttall (Llwyd Fryniog) gyfrol o farddoniaeth, sef Telyn Trefeurig yn 1896. Mae'r teulu Nuttall yn enghreifftiau o'r modd y trawsnewidiodd Sir y Fflint y mewnfudwyr Seisnig yn Gymry Cymraeg diwylliedig.
Ond erys eraill. Beth am 'Alun', sef John Blackwell, yr awdur, bardd a'r emynydd enwog a oedd yn ddisgynydd uniongyrchol o'r Blackwells cyntaf i ymfudo o Swydd Derby i Ysgeifiog yn 1670. Nid oes angen ymhelaethu mwy amdano yma. Disgleiriodd eraill o ddisgynyddion y mewnfudwyr hyn hefyd, sef John Denman (1759-1831) a fu'n rheithor Llanarmon a Llandegla; a Thomas Redfern, Deon Llanelwy yn nechrau'r ganrif hon. Ceir llawer o'r enwau hyn yn rhan o hanes capeli Sir y Fflint, e.e. Joseph Stealey yn achos capel Trelogan – ' dyn efengylaidd ei egwyddorion a difrycheulyd ei ymddygiadau' - yn ôl Hanes Methodistiaeth Sir y Fflint gan Griffith Owen. Mae yna lawer o rai eraill yn sicr yn dod i feddwl llawer ohonoch wrth i chwi edrych ar y rhestr enwau uchod. Felly, llongyfarchiadau a diolch yn fawr i bobl cynhenid Sir y Fflint am eu cyfraniad allweddol i goncro'r mewnfudwyr a'u trawsnewid yn Gymry da!