JOHN EDWARD SOUTHALL (1855-1928) Rhan II gan Dafydd Guto


Ffotograff drwy garedigrwydd Llyfrgell Cymdeithas y Crynwyr, Ty'r Cyfeillion, 173-177 Ffordd Euston, Llundain NW1 2BJ, Lloegr. Ffotograff (gan) Godfrey New. Hawlfraint uchod.

GŴR o feddwl a chymeriad cryf a ddaw i'r amlwg droeon a thro, yn enwedig ei frwydr efo'r iaith Gymraeg. Darllenwch yr hyn sydd ganddo i'w ddweud yn ei erthygl, 'A ydyw y Gymraeg yn marw? ' yn Y Geninen, Hydref 1898, a dyna chwi'n sylweddoli faint mewn gwirionedd o lys­genhadwr dros yr heniaith oedd J. E. Southall, a lladmerydd yr hyn y safai Dan Isaac Davies (1839-1887), drosto. Gwelai'r angen, a cheisiodd ddiwallu'r angen hwnnw, am addysg gyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg yn ysgolion Cymru. Dyna paham yr aeth ati i gyhoeddi cymaint fyth ag oedd modd o lawlyfrau ar gyfer ysgolion elfennol a chanolraddol Cymru.

Yn Y Casglwr, Mawrth 1989, tt.18-19, ceir erthygl gynhwysfawr o ran gwybodaeth ac un hynod dreiddgar gan Siân Rhiannon yn ymdrin â'r Wasg Gymraeg yng Ngwent ac ebe hi: Ond wrth ystyried cyfraniad Casnewydd i'r byd cyhoeddi yng Nghymru, mae un cyhoeddwr ben ac ysgwyddau'n uwch na'r lleill, a hwnnw yw John Edward Southall ... Crynwr a oedd wedi dysgu Cymraeg ... un o aelodau blaenllaw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg... a sefydlwyd yn 1885 er mwyn sicrhau lle teilwng i'r iaith Gymraeg ar amserlen yr Ysgolion Bwrdd ... Roedd Southall yn ŵr o flaen ei oes ar lawer cyfrif. Yr oedd yn un o’r bobl gyntaf yng Nghymru i sylweddoli gwerth addysg ddwyieithog fel modd i ddiogelu dyfodol y Gymraeg. Defnyddiodd ei wasg er mwyn hyrwyddo'i gred, ac os cymerwch chi gip ar y catalog a gyhoeddodd yn 1904 sy' ar gadw yn Llyfrgell Casnewydd fe welwch chi gymaint o gyfraniad a wnaeth Southall.

Hyd yn oed heddiw gwêl nifer o Gymry mai drwy fentro dros yr iaith Gymraeg y mae posib rhoddi bywyd o'r newydd iddi. Iaith farw yw honno nas gwneir defnydd ohoni.

Ebe Siân Rhiannon ymhellach: Roedd Southall yn daer dros geisio sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg, ac yn fwy felly mae'n debyg am iddo fod yn dyst i ddirywiad yr iaith yn Sir Fynwy. Yn ogystal â llyfrau i ysgolion, cyhoeddodd nifer o'i weithiau ef ei hun yn dadansoddi sefyllfa'r Gymraeg, ac un o draethodau a enillodd wobr yn Eisteddfod Gened­laethol Casnewydd 1897. Bum mlynedd cyn hynny roedd Southall wedi cyhoeddi Wales and her Language, sef dadansoddiad hanesyddol a chymdeithasol. Dilynwyd hwn gan ddau lyfr Saesneg arall oedd yn dadansoddi Canlyniadau Cyfrifiad Iaith 1891 a 1901.

Yn ddi-os, roedd y llyfrau uchod a gyhoeddwyd gan J. E. Southall yn gerrig milltir o bwys yn hanes datblygiad a thwf yr iaith Gymraeg ac ni ellir llawn fesur cyfraniad Gwasg John Edward yn hyn o beth. Gadewch imi ddyfynnu eto o'r erthygl o eiddo Siân Rhiannon yn Y Casglwr: Erbyn troad y ganrif... roedd safle'r Gymraeg wedi dirywio i'r fath raddau yn Sir Fynwy fel mai dim ond yn Rhymni yng nghornel eithaf gogledd-orllewin y sir yr oedd 'na gymdeithas lle roedd y Cymry Cymraeg yn y mwyafrif ... Mewn pamffled arall a oedd yn trafod addysg yng Nghymru tynnai Southall sylw at gyn lleied o gefnogaeth oedd i'r Wasg Gymraeg yn Sir Fynwy erbyn hynny: 'Mae'r mewnlifiad Saesneg wedi rhoi taw ar ddysgeidiaeth Gymraeg ... Yng nghymoedd Sir Fynwy mae gwerthiant llenyddiaeth Gymraeg wedi lleihau i'r fath raddau fel mai cyfran fechan iawn o'r boblogaeth sy'n darllen Cymraeg erbyn hyn.' . . . ychydig o lyfrau Cymraeg oedd yn cael eu cyhoeddi yn Sir Fynwy erbyn troad y ganrif. Yr eithriadau oedd y llyfrau a gyhoeddwyd gan wasg Southall ei hun yng Nghasnewydd a'r rheini a gyhoeddwyd gan y brodyr Owen yn y Fenni a gwasg Jacobs yn Rhymni a Thredegar Newydd.

Gellir ychwanegu mai John Edward oedd un gwron a ofalodd nad gweddw Cymru ar farwolaeth Dan Isaac Davies, Mai 28ain 1887. Ef fu'n braenaru, egino a dwyn y gwaith i ben ei ffordd. Ni fu farw llafur Cymreig Dan Isaac Davies nac ychwaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Cyflwynodd J. E. Southall lyfrau Cymraeg safonol a bortreadai ddaearyddiaeth yr henwlad ac a wnâi gyfiawnder â'i hen hen hanes. Ei ffugenw yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd pan enillodd wobr yn 1897 oedd 'Galar Gwent' ond nid oedd dim galarnadus yn perthyn iddo fel cyhoeddwr llyfrau. Dichon fod tân angerddol dros Gymru ei wlad fabwysiedig yn perthyn iddo. Dichon fod ystyfnigrwydd dros barhad yr iaith Gymraeg, a'r awydd i'w chadw ar dir y byw, yn perthyn iddo.

Dysgu yr iaith Gymraeg: Ymddengys yn dra rhyfedd, meddir yn Yr Herald Cymraeg, Rhagfyr 7fed, 1877, t.5, co1.4, fod angen cymell y Cymro i ddysgu iaith ei wlad. Ond dyna'r gwir . . .

Diddorol dros ben yw agwedd John Edward a'i ymgyrchoedd geiriol yn y Wasg. Dyna'i lef dros hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg yn ysgolion Cymru fel a geir yn y South Wales Daily News, Ionawr 14eg, 1899, t.4, col.5., lle y dywedir ganddo bod angen cyfundrefn fwy derbyniol i ddysgu'r heniaith gan ofalu peidio â'i thrin fel iaith gwbl estronol.

Mewn llythyr o'i eiddo yn Adran Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 12fed Awst, 1892, at Thomas Ellis dywed John Edward wrth yr Aelod Seneddol dros Feirion fod aelod o'r Bwrdd Ysgol mewn ysgol ym Mynwy wedi dweud wrtho eu bod yn gefnogol i'r Gymraeg ond nad oedd athrawon ar gael i ddysgu'r iaith. Mae'n amlwg yn y modd y terfyna Southall y llythyr ei fod mewn cyswllt rheolaidd â'r Aelod Seneddol. Mewn llythyr arall at Tom Ellis yn 1893 mynega'r argraffydd fod Ysgol Bedwellte yn ffafrio'r Gymraeg.

Ceir pedwar llythyr oddi wrtho yng nghasgliad y bardd T. Gwynn Jones sydd ar gadw yn Adran Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae llythyr John Edward y 10fed Hydref 1921 wedi'i ysgrifennu mewn Cymraeg graenus lle mae'n datgan: Ychydig fisoedd yn ôl y penderfynais gyhoeddi argraffiad newydd o’r Geraint ab Erbin yn y sillebiaeth presennol. Golygwyd y cyhoeddiad ...

Y mae'n disgrifio'n fanwl y rhesymau dros gyhoeddi'r llyfryn, a'r gobeithion o'i werthu. Yma, gwelir parch ysgolhaig o argraffwr at ysgolhaig arall.

Mynychwr cyson â'r Ysgolion Haf a sefydlwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg oedd John Edward Southall. Yr oedd yn bresennol er enghraifft yn Ysgol Haf Cwm Clydach, Aberhonddu ac ategir hyn i gyd yn rhifyn mis Hydref Cymru 1903, t.158. Gweler hefyd Cymru 1904, t.229. Bu'n ddiwyd tu hwnt fel aelod o'r Cyngor a wasanaethai'r Ysgol Haf; Cyngor a ragdrefnai weithgareddau mewn ardaloedd gwahanol yng Nghymru.

Gŵr yn llawn egni; gŵr priod, a rhaid cofio am Ann Berry; un a gadwai'i bys ar y pyls yng Nghasnewydd yn absenoldeb ei gŵr. Ond ar y cyntaf o fis Chwefror 1927 digwyddodd anffawd yn eu cartref yn 5 Heol Woodland, Casnewydd. Ryw fodd neu'i gilydd yn y bore bach y dydd dan sylw, gadawodd Ann druan un o'r tapiau nwy glo yn yr ystafell wely heb ei gynnau. Canlyniad hyn fu iddi farw. Cynhaliwyd Cwest. 'Anadlu nwy glo' oedd yn gyfrifol am farwolaeth Ann Berry, priod 74 mlwydd oed J. E. Southall. Fe'i claddwyd 4ydd Chwefror ym Mynwent Christchurch, Casnewydd. Ceir yr hanes yn llawnach yn South Wales News, Chwefror 2il, 1927, t.11, col. 6, a'r un newyddiadur Chwefror 4ydd, 1927, t.4, col.6. Pan ofynnwyd yn y Cwest i John Edward roi ei law ar y Beibl, a thystio ei fod yn dweud y gwir a'r holl wir am yr hyn a welodd y bore cyntaf hwnnw o'r mis bach pan ganfu ei wraig ynghanol nwy yn yr ystafell wely, dywedodd mor ddiflewyn ar dafod ag erioed: 'Nid yw'r holl wir mor hawdd i ddod o hyd iddo'.

Y mae Lucy Hannah Southall mewn llythyr o'i heiddo at Arthur ei brawd (ar gadw yn Archifdy Henffordd a Chaer­wrangon) yn dweud 3ydd Chwefror 1927, ei bod wedi bwriadu ysgrifennu gair at John gan iddi fethu â mynd i gynhebrwng Ann ei wraig. Ebe Lucy wrth Arthur: 'Mae'n fy nghalonogi gwybod eich bod yn cynorthwyo John fel y gwnewch ar hyn o bryd'.

Yna 12fed Hydref 1927 dywed mewn llythyr at Arthur iddi daro gair at John: 'Mae’i feddwl yn pylu mae genn'i ofn.' Yna mae'n sôn am Jessie Cameron a oedd yn gyfaill i John.

Yn 1928 roedd John Edward wedi dychwelyd i Lanllieni, ei dref enedigol yn Lloegr. Yno, yn Nheras Caswell, yn nhŷ ei frawd Arthur Trusted, ar y trydydd ar ddeg, Tachwedd 1928, dros flwyddyn ers marwolaeth drist Ann ei wraig, bu farw'r argraffwr nodedig, un a garai Gymru a'r Gymraeg ac yntau'n 73 mlwydd oed. Claddwyd ym Mynwent y Cyfeillion, Dreif Newlands, yr un dref. Mae'i fedd syml ag arno'i enw a dyddiadau ei eni a'i farw gyferbyn ag un ei frawd Arthur a gladdwyd yno rai blynyddoedd wedi hynny. Ar fedd John Edward mae iorwg yn tyfu; hen hen arwyddlun gennym ni'r Cymry a gred mewn parhad iaith, a bod enaid yn perthyn i'n cenedl.

Gadawodd John Edward ewyllys cyfwerth £5,528. Fel y cofiwch, gŵr a ddiarddelwyd gan y Crynwyr ydoedd. Yn ôl newyddiadur The Times, dydd Llun, Mawrth 16eg, 1929, t.19, co1.4 (ni sonnir yr un gair am gyfraniad John i fywyd Cymru ac iddo ddysgu'r Gymraeg!) dywedir iddo adael £2,000 mewn ymddiriedolaeth i Jessie Cameron (a grybwyllwyd uchod gan Lucy chwaer John mewn llythyr at ei brawd ieuengaf Arthur). Un o Bucklyvie, Stirling, yr Alban, a gwlad Geltaidd arall, oedd Jessie Cameron neu Camerson. Fe'i hanogir yn ewyllys J. E. Southall, a gwblhawyd yn Llanlleini yn y flwyddyn 1928, i gyhoeddi deunydd a oedd yn ymdrin â bywyd a llen y Crynwyr, a hyn i gyd er mwyn lledaenu'r Gair mewn gwledydd tramor.

Wyneb-ddalen Wales and Her Language.