ADDASU MEDAL RYFEL
gan Y Parch Clive Hughes, Aberystwyth

YN ddiweddar gwelais fedal arian anghyffredin mewn siop casglwyr yma yn Aberystwyth. Yn ôl ei maint a'r math o grogiant yr oedd hon yn sicr wedi dechrau ei bywyd fel medal ryfel o ganol yr Oes Fictoraidd.

Ar gyfer medalau swyddogol y gwrthryfel yn yr India, 1857-58, a'r rhyfelgyrch yn erbyn Tsieina, 1857-60, darparwyd math o grogiant 'dwyreiniol' ei ffurf nas defnyddiwyd ar unrhyw fedalau eraill. Ymhen amser gwerthwyd neu gwystlwyd nifer fawr o fedalau am swllt neu ddau, ac felly roeddent yn weddol rad ac yn hawdd eu canfod. Roedd yr un a welais yn amlwg wedi'i phrynu yn unswydd er mwyn ei haddasu at ddiben eisteddfodol ar ddiwedd y ganrif.

Gemydd, mae'n debyg, a ddileodd yn ofalus ben y frenhines o'r wyneb blaen, gan ei adael yn wastad a llyfn. Gwnaed yr un peth gyda'r ffigyrau symbolaidd ar yr ochr gefn. Roedd y ddau wyneb gwag felly'n barod i dderbyn arysgrifen newydd, am bris a oedd yn sicr yn rhatach na thalu am ddylunio a bathu ychydig o fedalau arbennig. Nifer o flynyddoedd yn ôl roeddwn yn berchen medal o'r un fath yn union, wedi'i haddasu er mwyn gwobrwyo saethwr ym Milisia Sir Frycheiniog yn 1874.

Ar y fedal a welais roedd rhywun wedi ysgythru mewn llythrennau breision o gwmpas pen yr amgylchedd yr arysgrif: 'ARWEST / / / GEIRIONNYDD' ac yn y canol y dyddiad '1899'. Doedd dim arall i'w weld ar y fedal; roedd hyd yn oed enw a manylion ysgythredig y milwr neu'r llongwr a gafodd y fedal yn y lle cyntaf wedi eu dileu o'r ymyl. Nid oedd rhuban ar y fedal ychwaith.

 

Ceir erthygl ddiddorol ynghylch Arwest Geirionnydd yn Y Casglwr, rhif 38, Awst 1989. Fodd bynnag, nid yw'n hysbys i mi pwy a wisgodd y fedal hon yn 1899. A wnaed hi fel math o fathodyn i un o swyddogion yr eisteddfod ynteu ar gyfer gwobrwyo un o'r cystadleuwyr? Efallai y buasai cofnodion o'r Arwest yn y papurau newydd, neu hen ddarlun, yn datgelu ei hunion bwrpas.