UFFERNEIDDIWCH BRWD, BOB OWEN ~
Darlith gan Yr Athro Geraint H. Jenkins
Er iddo gyfaddef nad oedd erioed wedi cyfarfod gwrthrych ei ddarlith ac nad oedd am feiddio ceisio'i ddynwared fe lwyddodd yr Athro Geraint H. Jenkins i ddeffro atgofion personol iawn i mi am Bob Owen, Croesor, gan ddod â deigryn a gwên i mi ac i lawer eraill o'r gynulleidfa a gafodd y fraint o fynychu dosbarthiadau WEA ar Hanes Cymru.
Ymhlith y llu o bentrefi yng ngogledd Cymru a gynhaliai ddosbarthiadau llewyrchus a phoblogaidd yr oedd pentref Gellilydan. Tua diwedd y pumdegau Hanes Lleol gyda Bob Owen oedd y maes. Cynhelid y dosbarthiadau yn yr ysgol, yn ystafell y dosbarth hynaf, hynny ydi dosbarth i blant o ddeg i ddeuddeg oed, a'r desgiau ond yn ddigon llydan i blant. Felly gwthio oedd hi i ni'r oedolion, yn enwedig i'r dynion, a phawb yn eu cotiau ond byddai rhyw bymtheg i ugain o selogion gydol y tymor yn fwy na pharod i godi allan i wrando ar Bob Owen.
Byddai wedi trefnu'r maes llafur yn ofalus ar ddechrau'r cwrs gyda'r cynhanes a phenawdau ar gyfer y tymor, yn dilyn hyd at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Doedd dim gwahardd ysmygu yn yr ysgol bryd hynny a byddai'r sigarét yn mynd a dŵad gydol y min nos, a digon diddorol, o dro i dro, fyddai dilyn ambell ysgyfarnog a hynny ar uchaf ei lais.
Roedd Bob Owen yn aelod o'r Cyngor Sir yn Nolgellau ac ar noson WEA byddai'n dod acw i'r Tyddyn Du i gael te efo ni cyn mynd i lawr am yr ysgol. Wedi cael te byddai'n esgusodi ei hun ac yn eistedd yn y gadair esmwyth wrth y tân, ac yn gofyn i'r merched neu i mi, 'Datodwch fy sgidia fi hogan, plîs, i mi gael napan'. Esgidiau uchel brown a rheini'n sgleinio fyddai'n wisgo ac roedd arthritis yn ei ddwylo (wedi blynyddoedd o fodio hen lyfrau mewn hen eglwysi oer). Byddai rhyw ddeng munud go dda yn ddigon o gwsg a byddai'n hollol effro wedyn.
Er iddo fod yn falch o ddod acw i gartref Edmwnd Prys doedd ganddo fawr o feddwl ohono. Fe fyddai'n gweiddi, 'Dyn drwg oedd o — rhyw helynt am diroedd o hyd yn Llys y Seren'.