SIOP GRIFFS gan W.J.Edwards

 

Y mae o leiaf ddau reswm da dros gofio eleni am y siop lyfrau enwog yn 4 Cecil Court, Charing Cross Road, Llundain yn ymyl capel adnabyddus y Presbyter­iaid gynt. Ar 6 Mehefin 1898, yn nhreflan Evanstown ar gyrion y Gilfach Goch, y ganed William Griffiths yr hynaf o'r pedwar brawd a oedd yn berchnogion y siop.

Felly, gan ei bod yn gan­mlwyddiant geni sefydlydd y busnes, a bod man ei eni yn ddim ond ychydig filltiroedd o faes Prifwyl Bro Ogwr ym Mhen-­y-bont ar Ogwr, mae'n dda cael sôn am gyfraniad y brodyr a'r siop.

Ar ôl bod yn ysgol elfennol Abercerdin, Evanstown a gweithio yn y lofa, symudodd William Griffiths i Lundain a chael hyfforddiant ar y ffidil yn Ysgol Gerdd y Guildhall gan athrawon megis Jeffrey Pulver a Harold Fairhurst. Yr oedd yn grythor medrus ac fe barhaodd ei ddiddordeb dwfn mewn cerddoriaeth, yn arbennig cerdd dant, gydag ef gydol ei oes.

Ond llyfrau oedd byd William a thua 1931 fe'i penodwyd yn bennaeth adran Gymraeg siop Foyle a oedd eisoes wedi cyhoeddi nifer o lyfrau Cymraeg gyda Williams Pantycelyn, Saunders Lewis, 1927, yn un o'r enwocaf. Ceir 'Foyle's Welsh Depot' ar y dudalen flaen ac mae'r un geiriau i'w gweld yn Llydaw, W. Ambrose Bebb, 1929.

Parhaodd William Griffiths gyda'r gwaith cyhoeddi gan gyflwyno gweithiau rhai o'n prif lenorion megis T. H. Parry-Williams — adargraffiad o Ysgrifau, 1932, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1928 — ac o leiaf un gyfrol o waith T. Gwynn Jones, sef ei gyfieithiad o Ffawst sy'n llyfr prin iawn erbyn hyn. William Griffiths welodd fawredd T. Rowland Hughes fel nofelydd ac ef a gyhoeddodd ei nofel gyntaf, O Law i Law. Cyfrol arall a gyhoeddwyd ganddo oedd Safonau Beirniadu Barddoniaeth yng Nghymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Huw Llewelyn Williams. Un o'r llyfrau olaf a gyhoeddwyd ganddo, cyn gadael Foyle ym 1946 i gychwyn ei fusnes ei hun, oedd pedwaredd cyfrol Atgofion Tri Chwarter Canrif, J. Lloyd Williams, 1945.

Yn ei deyrnged i William Griffiths adeg ei farw dywedodd Ben G. Jones: 'Yn ystod dyddiau tywyll y rhyfel pan orfodwyd y cymdeithasau arferol i gau, fe dyfodd Siop Gymraeg Foyle o dan ofal William Griffiths i fod yn un o brif ganolfannau'r Cymry yn Llundain, rhyw fath o lysgenhadaeth Gymraeg mewn gwlad ddieithr'.

Yr un oedd yr hanes wedi i William Griffiths agor y siop yn Cecil Court ac i'w dri brawd — Jack, Jos ac Arthur — ymuno ag ef yn y fenter a '. . . menter go fawr oedd hi hefyd o feddwl am y peth: cael digon o fasnach i gynnal pedwar teulu yn un o rannau drutaf Llundain o safbwynt trethi — er nad llyfrau Cymraeg yn unig a werthid ganddynt wrth reswm,' meddai Emlyn Evans yn O'r Niwl a'r Anialwch. Yno y byddai'n cyfarfod â Chymry Llundain a phobl o wledydd eraill.

Yr un oedd profiad Hafina Clwyd hefyd pan oedd hi'n athrawes ifanc yn y ddinas. Wrth gyfeirio at farwolaeth William yn Buwch ar y Lein dywed Hafina: '. . . Gwyddai bopeth am lyfrau Cymraeg a bu'n gyfaill da i amryw o awduron gan gynnwys Dylan Thomas. Trueni mawr na chafodd gyfle i orffen ei lyfr ar hanes y Cymry yn Llundain.' Beth ddaeth o'r llawysgrif anorffenedig honno tybed? Yn ôl Hafina roedd William `. . . yn ddyn hardd gyda shoch o wallt gwyn, trwchus, llygaid treiddgar, a wyneb ffein. Bob amser yn fawr ei groeso'. Roedd yn enghraifft o'r deheuwr ar ei orau yn ôl Ben Jones: '. . . yn fyrgoes a chyd­nerth ei gorff, chwim ei feddwl, a chynnes iawn ei galon'.

Gallaf amenio hynny o'm profiad fy hun yn seiadu yn ei gwmni ef a'i frodyr a'r bobl ddifyr a gwrddais yn y siop sawl tro. Ar un o'm pererindodau yno cefais hyd i set gyflawn o'r Beirniad, John Morris-Jones, yn rhifynnau unigol a hynny yn llwch seler y siop a minnau'n dod oddi yno fel glöwr! Ychydig sylltau a delais am yr helfa a gwn fod eraill wedi cael bargeinion tebyg ar draws y blynyddoedd.

Daliodd William i gyhoeddi yn Cecil Court ac un o'r cyfrolau pwysicaf oedd Gwŷr Llên, 1949, wedi'i olygu gan Aneirin Talfan a oedd yn ymwelydd cyson â'r siop ac yn gyfaill mawr i'r brodyr. William, pan oedd yn siop Foyle, a gyhoeddodd ym 1937 Y Ddau Lais, W. H. Reese ac Aneirin ap Talfan. Pan gychwynnodd Aneirin ap Talfan a Dafydd Jenkins gyhoeddi'r cylchgrawn Heddiw ym 1936 gofalodd William Griffiths fod hysbyseb siop Foyle yn ymddangos yn gyson ynddo.

Cyfrolau eraill a gyhoeddwyd gan 'William Griffiths a'i Frodyr' oedd nofelau Geraint Dyfnallt Owen (fe'i cwrddais yn y siop unwaith) Nest a Cefn Ydfa, ac Atgofion Seneddol Syr Gordon Macdonald — yr Arglwydd Macdonald o Waunysgor yn ddiweddarach.

Cyhoeddid catalog gan y brodyr a chefais fenthyg un 1962 gan fy nghymydog J. Towyn Jones. O'r 25 llyfr newydd a hysbysebir roedd 17 yn Gymraeg ac wyth yn Saesneg. Rhestrir 225 o lyfrau ail-law, e.e. Cymru'r Oesau Canol, Robert Richards am ddwy gini a gwelais gopi o'r gyfrol yn ddiweddar a'i phris yn £15. Gallech brynu tair cyfrol enwog o hanes Teithiau Pennant am deirpunt a chweugain. Mae'n anodd cael hyd i Hanes y Bedyddwyr, Joshua Thomas, am unrhyw bris bellach ond fe gaech y ddwy ran am bum swllt ar hugain ym 1962! Gofynnir heddiw am £40 am The Bible in Wales, John Ballinger, ond dwy gini oedd ei bris yn y catalog. Cyfeirir hefyd at recordiau Cymraeg a dywedir bod un Bob Tai'r Felin, Pobl Drws Nesa a Mari Fach fy Nghariad, ar werth am saith swllt.

Y tu allan i'w siop bu William yn amlwg fel aelod o Gyngor y Cymmrodorion ac yn Gadeirydd Cymdeithas Cymry Llundain ac yn olygydd ei chylchgrawn, Y Ddinas. Cymerodd ran flaenllaw ym mhwyllgorau'r cyhoeddwyr a'r llyfrwerthwyr yng Nghymru a'i enw yng Ngorsedd y Beirdd oedd Gwilym Cerdin. Bu farw 8 Hydref 1962 mewn ysbyty yn Llundain, ac er i'w frodyr barhau yn y siop am gyfnod, mae'r drysau wedi'u cau ers blynyddoedd er mawr golled i lawer ohonom.