'LAUREL A HARDY' : DOC TOM A BOB OWEN, CROESOR
gan Geraint H. Jenkins

Yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon ym 1921 y cyfarfu Bob Owen a Dr Thomas Richards (y digymar Ddoc Tom) am y tro cyntaf ac o'r diwrnod hwnnw hyd eu marw ym 1962, yn ô1 Bob, 'bu Dr Tom a minnau yn ffrindiau calon'. Bob haf bron treuliai Doc Tom a'i wraig bythefnos o wyliau yn Ael-y­-bryn, cartref Bob Owen yng Nghroesor, ac fe'u gwelid yn aml yng nghwmni ei gilydd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn enwedig yn y Babell Len. Cyfeiriodd Sam Jones, Bangor atynt fel 'Laurel a Hardy Cymru' ac, o ran pryd a gwedd a chorffolaeth, go brin y gellid taro ar ddau mor annhebyg i'w gilydd. Fel y gwyddys, un byr, cydnerth ac anniben oedd Bob, a chanddo wallt na welsai grib, mwstas cribog, a sigaret a oedd mor fynych yn ei geg a'i law fel bod ei fysedd yn felyn. Un aflonydd, swnllyd, trwstan a thrafferthus ydoedd; rhegai fel trwper, a phan gynddeiriogai Doc Tom fe'i galwai 'y sbarblis mwyaf sbarbliaidd!' Gŵr tal, tenau ac esgymog oedd Doc Tom, a thu ôl i'w sbectol rimyn aur yr oedd dau lygad llym a fyddai weithiau'n pefrio'n ddireidus. Gwisgai siwt dywyll bob dydd a brasgamai i bobman. Nid un i frathu ei dafod ydoedd ac ni ddioddefai ffyliaid yn llawen.

Serch hynny, yr oedd gan y ddau gymeriad hyn gefndir a diddordebau cyffelyb. Ganed Doc Tom ym 1878, yn fab i dyddynnwr digon cyffredin o Geulan-y-maes-mawr yng ngogledd Ceredigion. Ym 1885 y ganed Bob Owen, yn blentyn siawns a fagwyd gan ei nain uniaith Gymraeg ym Meirionydd. Ni fu'r naill na’r llall ar gyfyl ysgol uwchradd (ond, trwy ddyfalbarhad, llwyddodd Doc Tom i ennill MA er Anrhydedd Prifysgol Cymru). Yr oedd y ddau’n caru llawysgrifau, llyfrau priniedig, llaeth enwyn sur, ysmygu, pęl-droed a chellwair.

Bob Owen, Croesor Dr a Mrs Thomas Richards

Trwy drugaredd y mae'r ohebiaeth odidog a fu rhyngddynt yn ystod y blynyddoedd rhwng 1926 a 1962 yn weddol gyflawn. Ac eithrio'r adegau pan fyddai wedi gwylltio'n lân, llythyrau byrion a luniai Doc Tom, a'r wybodaeth gryno ynddynt bron yn ddieithriad wedi ei chyflwyno’n staccato. Fel hyn, er enghraifft, y dwrdiodd Bob ryw dro am anfon ysgrif eithriadol o flęr a gwallus ato :

Weithiau ceid dim .mwy na rhybudd neu reg neu gollfarn ar gerdyn post, er enghraifft, 'Y Diawl! . . . (a diolch hefyd)', 'Gresyn. Piti. Rhegi' a 'O damia ... O drapia'. Ambell dro anfonid amlen maint ffwlsgap i Ael-y-bryn ac ynddi lythyr ar bapur o faint stamp ceiniog. Amrywiai'r cyfarchiad o 'Annwyl gyfaill' i 'Fawgi!' ac o 'Annwyl lyfrbryf i 'O! Robert'. Gŵr plaen ei dafod oedd Doc Tom ac arswydai Bob Owen rhag ei lythyrau mwyaf brwmstanaidd. Nid oedd hafal i Doc Tom am dynnu gwynt o hwyliau llythyrwr blin. Fel hyn yr atebodd lythyr milain gan un o'i gystwywyr:

'A.G. — Diolch am eich llythyr, llawn o hiwmor iach. — T.R.'

Ac yntau'n llythyrwr mor gwta, hawdd deall paham y byddai Doc Tom yn anobeithio wrth ddarllen ‘hir huawdleddu' ac, 'ufferneiddio brwd' Bob Owen yn ei lythyrau. Y mae llythyrau Bob yn nodedig oherwydd eu ffraethineb wreiddiol a'u dawn dweud. Yn aml byddai ei lythyrau at ei gyfaill yn ymestyn i ddeuddeg tudalen, a'r cyfan wedi ei ysgrifennu (cyn i'r gwynegon gydio o ddifri ynddo) mewn llawysgrifen eithriadol o daclus a phrydferth. Gwibiai Bob o bwnc i bwnc ac o'r llon i'r lleddf ar amrantiad, a derbyniai Doc Tom lythyrau pigog a gwamal, ffeithiol a rhamantus, cwynfannus a phryfoclyd. Dro ar ôl tro, ni allai Llyfrgellydd Coleg Bangor lai na synnu a rhyfeddu at 'y carlamu lloerig - y rhagrithio dwys - y diawledigrwydd cyffredinol'.

Er bod y ddau yn ffrindiau pennaf, aent i'r afael â'i gilydd ar brydiau, yn enwedig wrth drafod cenedlaetholdeb Gymreig. Rhyddfrydwr twymgalon oedd Doc Tom ac yr oedd yn casáu cenedlaetholdeb â chas perffaith. Rhwng 1906 a 1924 bu Bob Owen yntau'n Rhyddfrydwr pybyr a byddai ei fam yn diarhebu ynghylch ei ymlyniad wrth Lloyd George ('chdi a dy hen Lloyd George', meddai) a llun y dewin o Ddwyfor oedd yr unig un i'w weld ar bared y parlwr yn Ael-y-bryn. Ond erbyn i Doc Tom gael ei benodi’n Llyfrgellydd Coleg Bangor ym 1926 yr oedd Bob Owen wedi ymuno â Phlaid Genedlaethol Cymru. O ganlyniad brithid llythyrau a sgyrsiau’r ddau â dadleuon gwleidyddol ffyrnig, mor ffyrnig yn wir nes yr oerai’r berthynas rhyngddynt o bryd i’w gilydd.

Nid oes lle yma i ymhelaethu ynglŷn a'r gwahaniaeth barn rhyngddynt, ond y mae'n werth nodi bod y 'Tân yn Llŷn' wedi cyffroi tipyn arnynt. Ar ddiwrnod olaf achos y Tri ym Mrawdlys Caernarfon ar 13 Hydref 1936 yr oedd Bob yn annerch y WI yn Ynys Môn. Ond llwyddodd i gyrraedd maes Caernarfon cyn chwech o'r gloch a gwthio'i ffordd trwy'r dorf orfoleddus er mwyn ysgwyd llaw Saunders Lewis, Lewis Valentine a D. J. Williams. Bloeddiai 'Cymru am Byth!' nerth esgyrn ei ben, ac mewn llythyr at Doc Tom honnodd iddo fod yn dyst i drobwynt seicolegol yn hanes Cymru:

'Nid yw hi ond dechreu frawd, chwerthed y cachaduriaid, crechwened llyfwyr baw tinau'r Saeson; Y mae'r wlad efo'r hogiau, a phawb yn deffro ... Y mae'r wreichionen yn dechreu cynneu, a bydd y goelcerth hyd Gymru yn fuan iawn, ac yn eu goleuni gwelir ragrith melldigedig y Sais gormesol.'

Roedd 'hwyl reit siarp' ar Doc Tom ar ôl darllen y llythyr hwn. Nid oedd ganddo ddim amynedd â'r 'tri stunt-hunter' a gyneuodd y tân ym Mhenyberth, a chredai fod ceidwadaeth farwol pobl fel Saunders Lewis ac Ambrose Bebb yn gwbl amherthnasol i anghenion y dosbarth gweithiol yn y Gymru ddiwydiannol rhwng y ddau ryfel byd. Er cymaint eu hedmygedd o'i gilydd, ni allai Doc Tom a Bob Owen weld lygad yn llygad ar faterion megis cened­laetholdeb a heddychiaeth. Serch hynny, parhaodd eu cyfeillgarwch hyd y diwedd. Profiad amheuthun, yn wir, yw darllen gohebiaeth mor odidog o ddiddorol : chwedl Doc Tom, 'hen ŷd y wlad, siarad plaen, a dim rhagrithio.'