JWG AMSER TE gan Donald M.Treharne
Derbyniais wahoddiad beth amser yn ôl gan wraig oedrannus ond diwylliedig iawn i weld llestri oedd ganddi yn ei thŷ. Bu'r siwrnai i ben uchaf Cwm Tawe yn ddifyr iawn a'r croeso ar ei haelwyd yn nodweddiadol o letygarwch y cwm. Wrth fy nhywys ar hyd silffoedd ei seld pwyntiodd at un jwg gan ddweud, 'Honna, 'machgen i, yw'r jwg Amser Te'. Roedd hi'n cyfeirio at y jwg yn y llun (1).
Jwg lystar oedd hi ac yn ei chanol ar un ochr yr oedd troslun o wyneb cloc ac ar yr ochr arall troslun du a gwyn. Mae'r llun o'r jwg yn dangos fod lleoliad bysedd y cloc yn gyson â disgrifiad y wraig ohoni — pedwar o'r gloch, amser te. Roeddwn yn gyfarwydd â jygiau o'r math ond nid oeddwn erioed wedi clywed neb yn sôn amdanynt gyda'r anwyldeb yna o'r blaen. Jygiau amser te fyddant i mi hefyd o hyn allan. Mae'r amser yma'n bwysig wrth drafod jygiau lystar â gwyneb cloc ac fe ymhelaethir ar y nodwedd yma wrth fynd ymlaen.
O edrych yn fanylach ar wyneb y jwg gwelir fod enw yno — 'Wm. Chambers' — ac y mae hyn yn allwedd i hanes y llestr. William Chambers oedd sefydlydd Crochendy De Cymru (The South Wales Pottery) yn Llanelli. Trwy gydol oes y crochendy cyfeiriwyd at enw'r dre yn y ffurf Seisnig 'Llanelly' a sonnir am grochenwaith y lle fel 'Llestri Llanelly'. Nid oes unffurfiaeth yn y modd y cyfeirir at y dref gan ysgrifenwyr cyfoes ar lestri ond o feddwl am y cyd-destun hanesyddol rwy'n tybio y byddai'n rhesymol i ddweud fod Llestri Llanelly wedi eu cynhyrchu yn Llanelli. Ac yno gwnaethpwyd y jwg fach amser te.
Sefydlwyd y crochendy yn Llanelli yn 1839 gan William Chambers yr ieuengaf a bu cynhyrchu yno hyd at 1922 er na ddymchwelwyd yr adeiladau am rhyw bedair blynedd. Mae hanes y gwaith yn gyfleus iawn yn rhannu'n naturiol i dri chyfnod. Cyfnod perchnogaeth y sefydlydd oedd yr un cyntaf c 1839 i 1855. Olynwyd hwn gan gyfnod Charles William Coombs a William Thomas Holland c 1855 i 1875. Cyfeirir at y cyfnod olaf fel cyfnod partneriaeth Guest a Dewsberry a'u teuluoedd. Parhaodd y cyfnod hwn o 1877 hyd at 1922.
Braslun o hanes y crochendy yw'r ffeithiau moel yna ond fe ellir cael mwy o wybodaeth yn y llyfrau a ysgrifennwyd am Lestri Llanelly. Ysgrifennwyd yr un cyntaf gan Dilys Jenkins¹. Mae'n debyg i'w llystad, Sidney Heath o Abertawe, ennyn ei diddordeb mewn casglu llestri gan ei fod ef yn enwog ym myd llestri Cymreig. Llyfr Gareth Hughes a Robert Pugh a gyhoeddwyd yn 1900² yw'r un mwyaf swmpus. Llyfryn yw Welsh Pottery Robert Pugh³ ond y mae lluniau a chyfeiriadau diddorol yno at y llestri fel ag y mae yn Welsh Pottery Lynne Bebb sy'n cynnwys adran gynhwysfawr am y marciau a welir arnynt.
Gwnaethpwyd y jwg fach lystar felly yn Llanelli yng nghyfnod cyntaf y crochendy rhwng 1840 a 1855 pan oedd William Chambers ieu., wrth y llyw. Yn y cyfeiriadau printiedig at lystar a gynhyrchwyd yn Llanelli y mae dryswch ac anghysondebau.
Dywed W.D.John a Warren Baker yn Old English Lustre Pottery⁵eu bod yn siŵr i lystar gael ei gynhyrchu yn Llanelli. Yn eu llyfr dangosir llun o ddwy fâs a briodolir ganddynt i'r crochendy yn Llanelli. Ar un ohonynt y mae troslun o wyneb cloc sy'n debyg iawn i'r wyneb a welir yn y llun isod (2). Nid oes marc ar un o'r ddau lestr ac ar hyn o bryd y maent yng nghasgliad wrth gefn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Yn wyneb y wybodaeth bresennol y mae lle i amau a ellir priodoli'r ddau lestr yma i Grochendy De Cymru o gwbl.
Cyhoeddwyd Collecting Lustre-ware, Geoffrey A. Godden a Michael Gibson⁶ yn 1991 ac ar dudalen 254 sonnir am lystar Llanelly â wyneb cloc yn dwyn yr enw William Chambers Jnr. Wrth sylwi'n fanwl ar yr enw yn y llun (3) ac yn wir at bob llun printiedig tebyg nid oes cyfeiriad at ieuafiaeth Chambers ar y cloc! Y mae'n wir serch hynny pan ddefnyddiwyd enw Chambers ar lestri'r cyfnod mai William Chambers Jnr yw'r marc sydd fwyaf cyffredin — ond nid ar y cloc. Dywedant hefyd mai ugain munud wedi wyth yw'r amser a ddangosir gan fysedd y cloc, fel ag y mae ar fâs W.D.John. I fod yn fanwl gywir mae'r cloc yn dweud mai wedi troi'r chwarter yw'r amser. Ond nid yw'r amser yma hyd yn oed yn amser te y Meistri Godden a Gibson! I fanylu eto, ar y troslun yma yn yr hanner awr rhwng deuddeg a chwech dim ond dau ddeg wyth o funudau sydd yna! Er gwaethaf y llithriad fe geir yn eu llyfr cynhwysfawr y sylw diddorol yma parthed y jygiau. Dywedant mai pwrpas arddangos y jygiau mewn cartrefi oedd twyllo ymwelwyr. Ar ddechrau'r ganrif o'r blaen roedd clociau yn ddrud iawn ac yn y tlodi a fodolai yn y wlad ychydig o gartrefi cyffredin oedd yn berchen ar un. Yng ngwyll y gegin ganrif a hanner yn ôl pwy a ŵyr na fyddai'r ymwelwyr byr eu golwg yn meddwl mai cloc go-iawn oedd y jwg fach ar y seld neu'r silff ben tân a bod ei pherchennog yn fwy cyfoethog nag oedd mewn gwirionedd.
Hyd nes y cawn oleuni pellach bydd rhaid i ni gytuno ar hyn o bryd na ellir priodoli jygiau lystar i wyneb cloc arnynt i grochendy Llanelli os nad yw enw Wm. Chambers arnynt. A hefyd, yr un mor bwysig, mae'n rhaid i fysedd y cloc ddangos mai amser te yw hi.
Nid yw'r anghysondebau cyfeiriadol ynglŷn â'r jygiau amser te yn gyfyngedig i'r troslun o wyneb y cloc yn unig. Ar ochr arall y jwg gwelir troslun o olygfa yn cynnwys castell a phont. Ar dudalen 22 o'i llyfr dywed Dilys Jenkins mai troslun o Abaty Castell-nedd ydyw. Ailadroddir y camgymeriad gan Godden a Gibson ac nid yw Hughes a Pugh yn hollol glir ar y mater chwaith er eu bod hwy'n dod yn agosach at beth sy'n debygol o fod yn wir.
Dengys y llun (3) yr olygfa ar y jwg. Gwelir castell mawr â sawl tŵr yn agos iawn i bont grog ar afon. Dim ond un lle yng Nghymru sy'n berchen ar y cymdogion yna. Nid Castell- nedd fel y dywed Dilys Jenkins ond Conwy wrth gwrs. Ceir yr un troslun ar blatiau bach plant a wnaethpwyd yn Llanelli. Mae'r plât yn y llun (4) yn rhyw 85mm mewn diametr yn dangos yr union olygfa a welir ar y jygiau amser te. Gwelais hefyd y troslun yma ar ddwy ochr yr un jwg lystar.
Yn aml iawn yn y cyfnod seiliwyd y golygfeydd a welir ar y llestri ar brintiau mewn llyfrau â lluniau a oedd ar gael ar y pryd. Cyfeirir at y cyfryw brintiau fel gwreiddbrintiau. Wedi bod ar drywydd hen brintiau o Gastell Conwy y tebygrwydd yw mai print o lyfr gan Henry Gastineau⁷ a ddefnyddiodd y crochendy yn Llanelli. Cyhoeddwŷd y llyfr yma gyntaf yn 1830 ac felly yr oedd ar gael yn y cyfnod pan wnaethpwyd y jwg (1840-55). Mae'r troslun ar y jwg amser te yn perthyn yn agos iawn i'r print gan Gastineau (5) er bod gwahaniaethau yn y manylion bach, e.e. y gŵr a'r cwch ar lan yr afon. Mae'n lled sicr i'r ysgythrwr yn y crochendy ddefnyddio print Gastineau wrth baratoi troslun i'w drosglwyddo ar y llestri.
Gwnaethpwyd llawer o ddefnydd o brintiau Gastineau gan grochendai ymhob rhan o Brydain. Y mae ysgythriad ar dudalen flaen y llyfr o Bont Menai (6) ac ymddengys yr olygfa yma ar blât gan grochendy Thomas Dimmock o Swydd Stafford yn y gyfres 'Selected Sketches'. Yn ddiddorol deillia'r plât yma o'r un cyfnod â'r jwg lystar amser te gan mai 1828-59 oedd dyddiadau cwmni Dimmock. Nid wyf wedi gweld enghraifft o'r plât yma ond y mae llun ohono ar dudalen 245 o eiriadur Coysh a Henrywood⁸.
Defnyddiwyd print arall o lyfr Gastineau yn Llanelli hefyd, sef yr un o Abaty Tintern. Fel y gwelir yn y lluniau y mae'n ymddangos ar y jygiau lystar (6) ac ar blatiau plant (7). Y mae'r plât yn y llun o'r un maint â'r plât â throslun Conwy arno (4).
Y mae'r enghreifftiau uchod o lestri Llanelli yn hynod o ddiddorol ond dylid cofio eu bod yn enghreifftiau prin. Dylid sylwi hefyd nad yw pob enghraifft o'r jygiau amser te yn lystar o'r iawn ryw fel petai. Y mae'r broses o guddio llestr pridd â wyneb o lystar metalig yn gymhleth ac yn destun sy'n hawlio astudiaeth bellach. Gyda'r jygiau sydd dan sylw digon yw dweud pan fyddant yn lystar, lystar aur neu gopr ydyw. Ond y mae llawer o'r jygiau heb loywder lystar ac o liw pŵl brown. Cyfeirir at y cyfryw yn Saesneg fel 'Drab-ware'. Y mae'n anodd gwybod ai o fwriad y gwnaethpwyd hyn ynteu enghreifftiau ydynt o'r broses o lystareiddio na lwyddodd.
Yn awr ac yn y man mewn siopau a ffeiriau cynigir jygiau lystar â wyneb cloc yn cyhoeddi mai ugain munud (mwy neu lai) wedi wyth yw'r amser (fel yn llun 2). Ar ochr arall y jwg y mae troslun porffor-pinc o blant yn chwarae neu o olygfa ddwyreiniol fel y dengys llun 8. Nid oes sail gadarn i briodoli'r enghreifftiau yma i Grochendy De Cymru yn Llanelli. Nid ydynt yn jygiau amser te ond efallai y gallwn gyfeirio atynt fel jygiau amser swper!
|
|
|
|
|
|
|
|
Cliciwch ar lun unigol i'w chwyddu i'w lawn faint |
- NODIADAU
- Llanelly Pottery, Dilys Jenkins, DEB Books, Swansea 1968.
- Llanelly Pottery, Gareth Hughes and Robert Pugh, Llanelli Borough Council 1990.
- Welsh Pottery, Robert Pugh, Towy Publishing, Bath c. 1995.
- Welsh Pottery, Lynne Bebb, Shire Publications, Princess Risborough 1997.
- Old English Lustre Pottery, W. D. John and Warren Baker, The Ceramic Book Company 1962.
- Collecting Lustreware, Geoffrey A. Godden and Michael Gibson, Barrie & Company 1962.
- Wales Illustrated in a Series of Views comprising the Picturesque Scenery, Towns, Castle, Seats of the Nobility and Gentry, Antiquities, etc., Gastineau, H., London 1830.
- The Dictionary of Blue and White Printed Pottery 1780-1880, A. W. Coysh and R. K. Henrywood, Antique Collectors Club 1982.